Y ddeddfwriaeth ddiweddaraf - fformwla fabanod
Thursday 17 January 2008
Mae gweithredu deddfwriaeth newydd yr UE ar fformwla babanod a fformwla ddilynol ar gyfer Cymru a Lloegr, a oedd i fod i ddod i rym ar 11 Ionawr, wedi cael ei ohirio.
Mae gweithredu deddfwriaeth newydd yr UE ar fformwla babanod a fformwla ddilynol ar gyfer Cymru a Lloegr, a oedd i fod i ddod i rym ar 11 Ionawr, wedi cael ei ohirio.
Mae barnwr yn yr uchel lys wedi gwneud y gorchymyn yn dilyn her gyfreithiol gan yr Infant and Dietetic Foods Association (IDFA), sy’n cynrychioli gwneuthurwyr llaeth babanod. Mae IDFA wedi gwneud cais am adolygiad barnwrol, gan herio’r dyddiad erbyn pa bryd y mae angen i gwmnïau llaeth babanod gydymffurfio â’r gofynion labelu yn y ddeddfwriaeth newydd. Maent yn credu na ddylai’r rheolau labelu ddod i rym tan ddechrau 2010.
Mae’r rheoliadau newydd, a gyhoeddwyd gan yr Adran Iechyd a’r Asiantaeth Safonau Bwyd (FSA) ym mis Tachwedd, yn cyflwyno rheolaethau mwy caeth ar labelu a hysbysebu pob math o fformwla er mwyn sicrhau nad yw bwydo ar y fron yn cael ei danseilio gan farchnata a hyrwyddo cynhyrchion o’r fath.
Bydd y ddeddfwriaeth hon yn helpu rhieni neu ofalwyr i wahaniaethu’n glir rhwng fformwla babanod, y gellir ei defnyddio am y 6 mis cyntaf (ac ar ôl hynny) a fformwla ddilynol, na ddylid ei defnyddio ond ar ôl 6 mis oed.
Dywed Gill Fine, Cyfarwyddwr Dewis Defnyddwyr ac Iechyd Dietegol yr FSA: ‘Blaenoriaeth y Llywodraeth yw sicrhau bod fformwla babanod a fformwla ddilynol yn cael eu labelu’n glir fel bod rhieni neu ofalwyr sydd eisiau defnyddio’r cynhyrchion hyn yn gallu gwneud hynny yn y ffordd iawn. Dyna pam yr oeddem yn awyddus i’r darpariaethau pwysig hyn ddod i rym cyn gynted â phosibl, a pham ein bod yn hynod siomedig bod gweithredu’r rheolau newydd wedi cael ei ohirio.
'Rydym yn synnu’n fawr bod cwmnïau y buom yn trafod y rheoliadau hyn gyda hwy ers bron tair blynedd wedi penderfynu ar y funud olaf i wneud cais am adolygiad barnwrol.'
Bydd y rheoliadau newydd yn cael eu gohirio hyd nes i’r achos gael ei derfynu neu orchymyn arall gael ei roi. Mae’r llys wedi gorchymyn i’r achos gael ei glywed cyn diwedd mis Chwefror ond ni osodwyd dyddiad eto. Byddwn yn rhoi diweddariadau pan fo hynny’n bosibl.
Gweler y dolenni isod i gael gwybodaeth am y rheoliadau a chyngor ar ffyrdd o fwydo ar gyfer rhieni neu ofalwyr gan yr Adran Iechyd.

Share this with: