Hysbysebion i hybu dewisiadau iachach
Friday 18 January 2008
Heddiw, fe lansiodd yr Asiantaeth hysbysebion teledu newydd y fel rhan o’i gweithgaredd parhaus i annog siopwyr i edrych am labeli golau traffig a’u defnyddio.
Heddiw, fe lansiodd yr Asiantaeth hysbysebion teledu newydd fel rhan o’i hymdrech parhaus i annog siopwyr i edrych am labeli golau traffig a’u defnyddio.
Bydd yr hysbysebion teledu, sy’n cael eu lleisio gan y gomedïwraig Dawn French, yn cael eu darlledu am dair wythnos yn ystod egwyliau rhaglen GMTV i atgoffa siopwyr y gallant ddod o hyd i labeli golau traffig coch, ambr a gwyrdd ar nifer o gynhyrchion bwyd a bod y rhain yn ei gwneud yn haws o lawer i fwyta’n iachach. Bydd hysbysebion golau traffig ar fysiau hefyd ym mhob cwr o’r wlad trwy gydol mis Ionawr a bydd erthyglau mewn nifer o gylchgronau teledu.
Dull labelu golau traffig: Y stori hyd yma
Hefyd, mae ffilm fer newydd yr Asiantaeth am ddull labelu golau traffig yn dangos sut mae labelu ar du blaen pecyn bwyd yn helpu pobl i wneud dewisiadau iachach, a pham bod hynny mor bwysig. Mae’n esbonio lle gall siopwyr ddod o hyd i labeli golau traffig ac yn sôn am amrywiol elusennau iechyd a sefydliadau defnyddwyr sy’n cefnogi agwedd yr Asiantaeth at labelu bwyd. Mae hefyd yn sôn am fanwerthwyr a gweithgynhyrchwyr sydd wedi mabwysiadu’r system.

Share this with: