Arlwywyr mewn Gweithleoedd yn ymrwymo i Fwyd Iachach
Monday 21 January 2008
Caiff tua thair miliwn o brydau eu bwyta yn y gwaith bob dydd, a chaiff tua dwy filiwn ohonynt eu paratoi gan arlwywyr ar gontract. Heddiw, mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cyhoeddi camau cyntaf y gwaith o sicrhau bod pobl ledled y DU yn cael gwell cyfle i gael prydau iachach tra eu bod yn y gwaith.
Caiff tua thair miliwn o brydau eu bwyta yn y gwaith bob dydd, a chaiff tua dwy filiwn ohonynt eu paratoi gan arlwywyr ar gontract. Heddiw, mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cyhoeddi camau cyntaf y gwaith o sicrhau bod pobl ledled y DU yn cael gwell cyfle i gael prydau iachach tra eu bod yn y gwaith.
Cred yr Asiantaeth y dylid rhoi cyfle i bobl ddewis bwyd â llai o halen, braster - yn enwedig braster dirlawn - a siwgr, i'n galluogi i reoli'r hyn rydym yn ei fwyta a chymryd camau cadarnhaol tuag at ddeiet iachach a chytbwys.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r Asiantaeth wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â'r arlwywyr mawr, ARAMARK, BaxterStorey, Compass, Elior a Sodexho, ynghyd â dau gyflenwr cynhyrchion bwyd mwyaf y sector arlwyo, sef 3663 a Brakes, i'w helpu i ddatblygu pecynnau ymrwymiad unigol i ddarparu bwyd iachach i'w cwsmeriaid yn y gwaith. Gyda'i gilydd, mae'r pum cwmni arlwyo dan sylw yn gweini 1.5 miliwn o brydau yn y gweithle bob dydd ac yn cynrychioli tua 85% o'r farchnad.
Mae'r ymrwymiadau wedi canolbwyntio ar y mathau o gynnyrch a chynhwysion y mae busnesau yn eu prynu, sut y caiff prydau eu paratoi yn y gegin, y dewisiadau sydd ar gael ar fwydlenni, a'r wybodaeth am faeth a roddir i gwsmeriaid mewn ffreuturau gwaith.
Mae'r ymrwymiadau gwirfoddol y mae busnesau yn eu gwneud yn cwmpasu amrywiaeth o weithgareddau megis:
• Defnyddio cynhwysion â llai o fraster, halen a siwgr a gorfodi pob cegin i wneud hynny
• Datblygu cronfeydd data o ryseitiau iachach i helpu cogyddion i gynllunio bwydlenni
• Cael gwared â llestri halen oddi ar fyrddau
• Cynnig dognau llai o fwydydd â llawer o fraster
• Cynyddu nifer y gweithleoedd sydd â rhaglen bwyta'n iach benodol
• Darparu mwy o hyfforddiant ar dechnegau coginio'n iach i gogyddion a rheolwyr
• Datblygu gwybodaeth newydd i gwsmeriaid a gweithgareddau i hyrwyddo opsiynau iach
• Cyflenwyr i wneud mwy i ddatblygu rhaglenni i leihau halen a braster dirlawn yn eu cynnyrch a chynnig rhagor o gymorth a chanllawiau i arlwywyr ar arferion prydau iach
Dywedodd Rosemary Hignett, Pennaeth Maeth yr Asiantaeth Safonau Bwyd:
"Er y gwyddom fod pobl yn paratoi ac yn bwyta'r rhan fwyaf o'u prydau gartref, mae bwyd a fwyteir yn y gweithle yn dod yn rhan bwysig o'n deiet dyddiol.
“Yn aml, caiff prydau a fwyteir yn y gwaith eu sybsideiddio, gallant gyfrif am o leiaf un prif bryd y diwrnod, weithiau mwy, ac mewn rhai achosion dim ond opsiynau cyfyngedig a gynigir i gyflogeion.
“Gwyddom fod y sector arlwyo yn faes allweddol ac mae hwn yn gam pwysig yn y cyfeiriad cywir. Rydym yn croesawu'r ymrwymiadau y mae'r busnesau hyn wedi'u gwneud yn fawr, a fydd yn galluogi pobl i wneud dewisiadau synhwyrol am eu deiet, waeth ble y byddant yn bwyta. Hoffem weld mwy o fusnesau'n gwneud yr un peth ac rydym yn bwriadu datblygu'r gwaith hwn ymhellach.”
Mae bwyta allan yn aml yn weithgaredd hamdden ond mae hefyd yn dod yn rhan o'n deiet rheolaidd. Mae'r Asiantaeth yn bwriadu gweithio gyda'r amrywiaeth lawn o fusnesau arlwyo i gyfrannu at y gwaith hwn, mewn ffordd sy'n addas i'w busnes ac sy'n diwallu anghenion cwsmeriaid. Bydd yr Asiantaeth yn monitro cynnydd y gwaith hwn a chaiff rhagor o fanylion eu cyhoeddi drwy gydol 2008.
Mae'r ymrwymiadau y mae arlwywyr yn eu gwneud ar gael i'r cyhoedd a bydd y busnesau dan sylw yn cyflwyno adroddiadau i'r Asiantaeth am eu cynnydd bob chwe mis.
- DIWEDD -
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Caroline Thorpe neu John Cottrill yn swyddfa'r wasg ar 020 7276 8888:

Share this with: