Wythnos Diogelwch Bwyd 15–21 Mehefin 2009
Thursday 30 October 2008
Bydd Sglyfyn yn ymddangos unwaith eto’r flwyddyn nesaf yn ystod yr Wythnos Diogelwch Bwyd sy’n cael ei chynnal 15 - 21 Mehefin. Bydd amrywiaeth o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal ledled y Deyrnas Unedig mewn ysgolion, grwpiau cymunedol a chynghorau lleol, er mwyn pwysleisio pwysigrwydd diogelwch bwyd a hylendid yn y cartref.
‘Beth am fynd ar ein gwefan bwyta’n iach www.eatwell.gov.uk/germwatch - Clicia ar ‘Cymraeg’’
Yn ogystal â phwysleisio pwysigrwydd y 4 hanfod diogelwch bwyd (coginio, glanhau, oeri ac atal croeshalogi), byddwn yn cyflwyno thema newydd sbon i fynd i’r afael â phroblemau diogelwch bwyd penodol a gwarchod y rhai sy’n agored i niwed yn y Deyrnas Unedig.
Os oes gennych ddiddordeb mewn trefnu eich digwyddiad eich hun yn ystod yr Wythnos Diogelwch Bwyd er mwyn hyrwyddo hylendid bwyd da, neu os hoffech i ni eich hysbysu am y datblygiadau diweddaraf, cofrestrwch eich manylion yn foodsafetyweek@ecgroup.co.uk.
I gael rhagor o wybodaeth am yr Wythnos Diogelwch Bwyd a’n hadnoddau GwylioGermau, cysylltwch â Catherine Clarke: catherine.clarke@foodstandards.gsi.gov.uk.
Neu beth am fynd ar ein gwefan bwyta’n iach www.eatwell.gov.uk/germwatch - Clicia ar ‘Cymraeg’
Gweler enghreifftiau o gyhoeddiadau Wythnos Diogelwch Bwyd 2008 isod.

Share this with: