Gwahoddiad i Ddatgan Diddordeb mewn darparu Gwasanaethau Cyfieithu Cymraeg
Wednesday 23 July 2008
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn dymuno sefydlu cytundeb fframwaith gyda nifer o gyflenwyr i ddarparu Gwasanaethau Cyfieithu ysgrifenedig.
Rydym yn galw am ddatganiadau o ddiddordeb gan unigolion/cwmnïau sy’n cyfieithu’n broffesiynol o’r Saesneg i’r Gymraeg, ac sy’n gallu dangos:
- eu bod yn darparu gwasanaeth cyfieithu ysgrifenedig cywir, proffesiynol ac o ansawdd uchel
- eu bod yn gallu cyfieithu ystod eang o wahanol fathau o ddogfennau
- bod ganddynt gymwysterau proffesiynol sy'n berthnasol i'r gofyniad hwn
Er mwyn datgan diddordeb mewn tendro ar gyfer y gwaith hwn, a fyddech cystal ag anfon e-bost i’r swyddog cyswllt isod yn gofyn am holiadur cyn-gymhwyso. Bydd angen llenwi’r holiadur a’i ddychwelyd ar ffurf copi caled erbyn canol dydd 1 Medi 2008 fan bellaf.
Nadia Coleby, Room 224, Aviation House, 125 Kingsway, London WC2B 6NH.
Ffôn: 020 7276 8600. E-bost: procurement@foodstandards.gsi.gov.uk

Share this with: