Lleihau braster dirlawn
Thursday 7 February 2008
Mae’r asiantaeth wedi cyhoeddi camau cyntaf ei hymgyrch i helpu pobl yn y DU i leihau’r braster dirlawn y maent yn ei fwyta.
‘'Mae lleihau'r braster dirlawn yr ydym yn ei fwyta yn her fawr ond byddai'n llesol i iechyd mewn ffyrdd clir a phwysig.'’
‘Mae lleihau’r braster dirlawn yr ydym yn ei fwyta yn her fawr ond byddai’n llesol i iechyd mewn ffyrdd clir a phwysig.’
Gall deiet sy’n uchel mewn braster dirlawn a chalorïau gyfrannu at ddatblygu ystod o afiechydon difrifol sy’n gysylltiedig â deiet, megis clefyd cardiofasgiwlar, diabetes a rhai mathau o ganser. Yn y DU, mae’r braster dirlawn sy’n cael ei fwyta tua 20% yn uwch na’r hyn y mae’r Llywodraeth yn ei argymell yn swyddogol.
Drwy leihau’r braster dirlawn y mae pobl yn ei fwyta o 13.3% i lai na 11% o ran egni bwyd, amcangyfrifir y byddai modd atal hyd at 3,500 o farwolaethau bob blwyddyn, gan fodloni argymhellion y Llywodraeth.
Mae’r rhaglen newydd hon yn amlinellu’r camau y gellir eu cymryd i fynd i’r afael â’r braster dirlawn a’r siwgr ychwanegol sydd mewn bwydydd, gan ystyried y materion mwy cymhleth sy’n ymwneud ag adffurfio cynhyrchion. Bydd cydweithio gyda’r diwydiant a datblygu a gwella partneriaethau positif, ynghyd â gwella ymwybyddiaeth y defnyddwyr, yn rhan allweddol o’r ymgyrch i leihau’r braster dirlawn sy’n cael ei fwyta.
Fel rhan o'r rhaglen hon bydd yr Asiantaeth yn:
- datblygu partneriaethau gyda'r diwydiant bwyd ymhellach er mwyn:
- annog adffurfio gwirfoddol pellach o ran grwpiau bwyd penodol er mwyn lleihau’r braster dirlawn a’r siwgr ychwanegol sydd ynddynt
- cynyddu ystod y dewisiadau iach a hybu cynnyrch iach yn fwy effeithiol ymhlith defnyddwyr
- sicrhau bod dognau llai ar gael yn fwy rhwydd
- cyhoeddi ymrwymiadau’r diwydiant bwyd tuag at adffurfio
- cynyddu gweithgaredd i godi ymwybyddiaeth y defnyddwyr er mwyn codi proffil braster dirlawn fel rhan o'n hymdrechion cyffredinol i annog pobl i ddewis deiet iach
- cynnal gweithdy academaidd annibynnol i archwilio tystiolaeth ar faint dognau, wedi’i gadeirio gan Dr Susan Jebb - Pennaeth Ymchwil i Faeth ac Iechyd y Cyngor Ymchwil Feddygol
Meddai Rosemary Hignett, Pennaeth Maeth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, 'Mae lleihau'r braster dirlawn yr ydym yn ei fwyta yn her fawr, ond byddai’n llesol i iechyd mewn ffyrdd clir a phwysig.'
'Ein nod yw gweithio gyda'r diwydiant er mwyn lleihau lefelau braster dirlawn a siwgr ychwanegol mewn bwydydd, lleihau maint dognau, a rhoi gwybodaeth glir i ddefnyddwyr, gan gynnwys gwybodaeth onest am faeth ar labeli.'
Bydd gwaith yr Asiantaeth i leihau braster dirlawn yn cyd-fynd a’i hymdrech parhaus i leihau halen ac asidau traws-fraster mewn deietau yn y DU, yn ogystal â’i gwaith gydag arlwywyr i helpu pobl i wneud dewisiadau iachach pan fyddant yn bwyta allan. Mae mwy o wybodaeth am yr ymgyrch hon i’w chael ar y dolenni isod.

Share this with: