Cyfarfod Agored Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru - 21 Gorffennaf 2009
Thursday 11 June 2009
Fel rhan o’i sesiynau agored rheolaidd, mae Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru yn cynnal cyfarfod agored yn Sioe Frenhinol Cymru ar 21 Gorffennaf 2009.
Bydd y cyfarfod yn cynnwys trafodaeth ar Gynhyrchu Sylfaenol, gyda chyflwyniad ar Wybodaeth am y Gadwyn Fwyd (FCI) ar gyfer gwartheg a defaid a fydd yn ofynnol o fis Ionawr 2010 ymlaen a diweddariad ar Gig Defaid â’r Croen Ynghlwm (a elwir hefyd yn ‘smokies’).
Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn y Pafiliwn Lletygarwch ar Faes y Sioe Frenhinol, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, LD2 3SY. Gallwch gofrestru a chael paned o 13.50pm, a byddwn yn dechrau yn brydlon am 14.15pm.
Estynnir gwahoddiad i bawb sydd â diddordeb yn y pynciau hyn neu yng ngwaith yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn gyffredinol, i rannu eu sylwadau, ac i gymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb agored. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Helena Atkins - Reynolds ar 029 2067 8999 neu anfonwch e-bost at helena.atkins-reynolds@foodstandards.gsi.gov.uk.
Mae copi o’r agenda a manylion sut i gofrestru neu gyflwyno cwestiwn i’r pwyllgor ei drafod ar gael ar wefan yr Asiantaeth:
www.food.gov.uk/wales/aboutus_wales/fsawalesw/
Cyswllt newyddion 029 2067 8944
Nodiadau i olygyddion:
- Mae Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC) yn darparu cyngor a gwybodaeth i’r Asiantaeth Safonau Bwyd am ei gwaith yng Nghymru. Fel rhan o ymrwymiad y pwyllgor i fod yn agored, cynhelir cyfarfodydd agored yn rheolaidd ledled Cymru.
11th Floor, Southgate House,
Wood Street,
Cardiff CF10 1EW
Telephone: 02920 678916
Fax: 02920 678918/9
Email: caroline.kitson@foodstandards.gsi.gov.uk
