Ymestyn hyd amodau penodiad dau aelod o Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru
Thursday 23 April 2009
Mae Cyfarwyddwr Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru, Steve Wearne, wedi croesawu'r penderfyniad i ymestyn hyd amodau penodiad dau aelod o Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC).
Caiff y Pwyllgor Cynghori ei gadeirio gan John Spence, aelod Bwrdd yr ASB dros Gymru, a benodir gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’r Pwyllgor yn dwyn ynghyd wyth arbenigwr annibynnol a ddewisir ar sail eu profiad a’u gwybodaeth ymarferol am feysydd megis maeth, amaeth, gwyddoniaeth sy’n gysylltiedig â bwyd a buddiannau defnyddwyr. Mae’r aelodau hyn hefyd yn cael eu penodi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Felly, yn cael eu hail-benodi mae:
- Ms Kate Hovers – Llawfeddyg Milfeddygol ymgynghorol
- Mrs Katie Palmer – sydd â phrofiad helaeth o brosiectau bwyd busnesau a rhai cymunedol.
Meddai Mr Wearne: 'Bydd yr ail-benodiadau hyn yn sicrhau bod WFAC yn parhau i gynnwys unigolion sydd â gwybodaeth a chefndiroedd helaeth ac amrywiol ym myd bwyd. Drwy fanteisio ar yr ystod eang o brofiad, byddwn yn sicrhau bod y Pwyllgor yn darparu cyngor trylwyr a chraff ar bob agwedd ar fwyd.'
Nodiadau i olygyddion
- Sefydlwyd y Pwyllgor Cynghori ar Fwyd yn 2000 i ddarparu cyngor annibynnol ar faterion bwyd sy’n berthnasol i Gymru.
- Mae’r Pwyllgor yn cydweithio’n agos â’r ASB, a hynny yng Nghymru a ledled y DU, ac mae’n atgyfnerthu amcanion yr Asiantaeth i roi’r defnyddiwr yn gyntaf, i fod yn agored ac yn annibynnol ac i sicrhau fod cyngor yn seiliedig ar wyddoniaeth a thystiolaeth.
- Caiff unrhyw benodiadau i’r Pwyllgor eu gwneud gan Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Nodiadau bywgraffyddol
Ms Kate Hovers
Mae Kate Hovers yn Filfeddyg wedi’i lleoli yn ardal Aberhonddu. Fe raddiodd o Lerpwl yn 1983 ac ennill tystysgrif mewn iechyd a chynhyrchu defaid yn 1996. Bu’n rhedeg ei phractis rhywogaethau cymysg ei hun am 13 mlynedd. Mae nawr yn gweithio fel ymgynghorydd defaid, milfeddyg locwm ac ymgynghorydd milfeddygol rhan amser ar anifeiliaid mawr i gwmni fferyllol. Mae’n ysgrifennu ambell i erthygl ar gyfer y wasg ffermio ac yn rhoi sgyrsiau, fel arfer ar iechyd defaid a meddyginiaeth amddiffynnol. Mae hi’n gyn-arweinydd ar Gymdeithas y Milfeddygon Defaid ac adran De Cymru o Gymdeithas Milfeddygon Prydain.
Mrs Katie Palmer
Fel y Swyddog Arwain Prosiect Bwyd ar gyfer ‘adventa’ yng Nghyngor Sir Fynwy, roedd Katie yn gyfrifol am arwain prosiectau bwyd busnesau a rhai cymunedol. Bu’n gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu cynlluniau peilot ac i sicrhau cyllid ar gyfer ymagwedd “ysgol gyfan” at brydau ysgol yn Sir Fynwy. Roedd hi hefyd yn rhan allweddol o’r gwaith o ddatblygu’r gadwyn fwyd leol, gan annog busnesau a chymunedau lleol i rwydweithio a defnyddio cynnyrch lleol.
Yn ystod ei phum mlynedd yn y diwydiant llaeth rhyngwladol bu Katie’n gweithio gyda nifer o fusnesau bwyd amlwg i ddatblygu cynhyrchion newydd a’u cyflwyno i’r farchnad. Roedd ei swyddogaeth datblygu busnes yn Volac International yn gofyn iddi ddefnyddio sgiliau gwyddoniaeth technegol yn ogystal â sgiliau a marchnata i ddatblygu’r farchnad ar gyfer protein maidd yn Ewrop ac yn America. Yn y swydd hon, datblygodd ddealltwriaeth gref o ddeddfwriaeth bwyd, yn enwedig yn ystod argyfwng clwy’r traed a’r genau yn y DU pan gafodd rheoliadau bwyd eu tynhau’n sylweddol.
Fel aelod o Grŵp Cynghori ar Fwyd a Diod Cynulliad Cymru, mae Katie yn gyfarwydd iawn â’r Diwydiant Bwyd yng Nghymru.
Mwy o wybodaeth am Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru
Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor a'i aelodau
11th Floor, Southgate House,
Wood Street,
Cardiff CF10 1EW
Telephone: 02920 678916
Fax: 02920 678918/9
Email: caroline.kitson@foodstandards.gsi.gov.uk
