Ffyrdd newydd o weithio a nodwyd gan adroddiad ar y cyd y rheoleiddiwr/y diwydiant
Wednesday 15 October 2008
Mae gweithgor ar y cyd sy’n cynrychioli’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), y Gwasanaeth Hylendid Cig (MHS) a’r diwydiant cig wedi cyhoeddi ei adroddiad terfynol ar ddefnyddio adnoddau MHS yn effeithlon mewn lladd-dai.
Mae’r Adroddiad Optimeiddio yn cynnwys nifer o argymhellion i wella dulliau gweithio MHS a Gweithredwyr y Busnes Bwyd (FBO). Mae’r argymhellion hefyd yn cynnwys nifer o feysydd lle gall newidiadau i bolisïau hefyd wella’r defnydd o adnoddau MHS. Mae’r adroddiad llawn wedi ei gyhoeddi ar wefan ASB ac mae cynlluniau gweithredu wedi cael eu llunio i weithredu’r gwelliannau hyn yn ymarferol.
Ymwelodd y Tîm Optimeiddio â phedwar ar bymtheg o ladd-dai ym Mhrydain Fawr i ddadansoddi’r rhesymau am yr amrywiadau wrth ddefnyddio adnoddau MHS. Daeth astudiaeth y Tîm i’r casgliad y gellid defnyddio staff MHS yn fwy effeithlon mewn sawl safle ac y gellid cyflawni hyn trwy welliannau i arferion gweithio naill ai MHS, yr FBO unigol, cyfuniad o’r ddau neu newidiadau i bolisïau’r ASB a’r Adran Materion Gwledig.
Ystyriwyd mai’r gofyniad cyfreithiol yn ymwneud ag adnabod anifeiliaid oedd y maes lle y gellid gwneud y gwelliannau mwyaf. Canfu’r Tîm fod y lefelau gwirio sy’n ofynnol gan yr MHS yn dyblygu’r gwiriadau a wneir gan yr FBO hefyd. Fodd bynnag, pwysleisiwyd mai mater polisi yw hwn a oedd yn cael ei gynnwys yng nghylch gwaith yr Adrannau Materion Gwledig ar draws y DU. Yng nghasgliad yr adroddiad, dywedodd y Tîm: ‘Gall dyblygu’r gwiriadau hyn gan yr MHS achosi dryswch yn y llinellau atebolrwydd’.Gan fod y system wirio’n cael ei hadolygu ar hyn o bryd, nododd yr adroddiad y dylid ‘rhoi blaenoriaeth’ i’r gwaith hwn.
Maes arall lle cafodd cyfleoedd ar gyfer gwella eu nodi oedd patrymau gweithio lladd-dy penodol. Dywedodd yr adroddiad fod FBO sy’n ‘gweithio diwrnodau byr neu sydd â phatrwm gweithio anwadal yn achosi anawsterau i MHS wrth iddo geisio darparu rheolaethau swyddogol yn effeithlon’. Er bod cydnabyddiaeth bod elfen anrhagweladwy oherwydd amrywiadau yn y farchnad, roedd y tîm o’r farn bod yn rhaid i FBO wneud ‘penderfyniad masnachol’ rhwng cyflawni ‘galw cymharol gyson am adnoddau arolygu’ neu ‘i weithredu mewn ffordd fwy hyblyg ac i dderbyn costau ychwanegol’. Mae’r ASB yn bwriadu ymgynghori ar godi tâl yn seiliedig ar amser yn y dyfodol agos a’r disgwyl yw, os bydd rhanddeiliaid yn cytuno, y gallai arwain at ddefnydd mwy effeithlon o adnoddau MHS.
Amlygodd yr adroddiad hefyd y tanddefnydd o adnoddau arolygu MHS a oedd o ganlyniad i gynllun ac offer y llinell ladd. Canfu’r tîm y gallai newidiadau i gynllun ffisegol y llinell ladd arwain at gyfleoedd i wneud arbedion effeithlonrwydd sylweddol.
Nodwyd materion TG fel ffordd y gellid gwella arferion. Roedd gan y rhan fwyaf o FBO lladd-dai systemau TG i gefnogi eu busnesau ac roedd mwy o botensial i’r holl bartïon gyfnewid gwybodaeth trwy TG. Mewn lladd-dai mawr â llinellau cyflym, gellid cyflawni ‘canfyddiadau arolygu cywir ac effeithlon’ trwy mwy o ddefnydd o TG.
Roedd Kenneth Clarke, Cynghorwr Milfeddygol yr ASB, yn gyd-awdur yr adroddiad:
“Mae’r adroddiad hwn wedi rhoi mewnwelediad defnyddiol iawn i arferion gweithio yn y diwydiant. Rydym wedi gweld sawl enghraifft lle y gall cydweithio arwain at effeithlonrwydd sylweddol ac mae’n rhaid bod hyn yn newyddion da i bawb.
“Rydym yn hyderus y dylai hyn fod yn sylfaen cydweithredu rhwng y rheoleiddiwr a’r diwydiant. Gan ein bod wedi gwneud y gwaith hyn, mae’n rhaid i ni edrych tuag at gydweithio i wireddu’r effeithlonrwydd hyn.”
Dywedodd Jane Downes, Cyfarwyddwr Milfeddygol a Thechnegol, MHS:
“Bu’r Prosiect Optimeiddio yn ymarfer gwerth chweil sydd wedi helpu i ddatblygu ymddiriedaeth rhwng yr MHS, FBO a chynrychiolwyr y diwydiant cig, a dealltwriaeth ar y cyd o bwysau rheoliadol a masnachol.
Bydd yr MHS yn ystyried yr adroddiad yn ystod y trafodaethau a gynhelir rhwng FBO a Rheolwyr Busnes MHS wrth roi Cytundebau Busnes ar waith fesul cam. Edrychaf ymlaen at gadeirio Bwrdd y Prosiect ar y cyd a fydd yn goruchwylio cyflwyno holl argymhellion yr adroddiad, p’un a ydynt wedi eu cyfeirio at yr MHS, ASB, Defra neu’r diwydiant”
Dywedodd Stuart Roberts, Cyfarwyddwr Cymdeithas Proseswyr Cig Prydain:
“Pan siaradais â bwrdd yr ASB yn gynharach eleni, amlygais y pwysigrwydd y mae’r diwydiant yn ei roi ar waith y tîm optimeiddio ac rwy’n falch gweld eu bod wedi amlygu nifer o feysydd lle y gellir defnyddio adnoddau MHS yn fwy effeithlon. Mae’r adroddiad wedi dangos i ni bod yn rhaid i’r diwydiant, yr ASB ac adrannau Materion Gwledig, yn ogystal â’r MHS, gymryd rhan yn datblygu effeithlonrwydd gwirioneddol wrth gyflwyno rheolaethau Hylendid Cig."
"Rwy’n ddiolchgar iawn i’r tîm Optimeiddio am eu gwaith caled. Mae’n hanfodol nawr bod yr holl bartïon perthnasol yn dwyn argymhellion yr adroddiad hwn ymlaen mewn partneriaeth mewn ffordd egnïol a phenderfynol."
Room 245 Aviation House,
125 Kingsway,
London WC2B 6NH
Telephone: 020 7276 8888
Out of hours duty pager: 07623 978344
Fax: 020 7276 8833
Email: press.mailbox@foodstandards.gsi.gov.uk
