Yr arolwg diweddaraf o agweddau defnyddwyr – bwyta’n iach yn bwysig yng nghymru
Sunday 24 February 2008
Heddiw, mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cyhoeddi’r wythfed arolwg blynyddol o Agweddau Defnyddwyr1 ar gyfer Cymru. Mae’r canfyddiadau’n dangos bod defnyddwyr yn parhau i gymryd llawer o ddiddordeb mewn bwyta’n iach.
Mae’r prif bwyntiau sy’n ymwneud â deiet a maethiad yn cynnwys:
- Honnodd naw o bob deg ymatebwr fod bwyta’n iach yn bwysig iddynt, ac roedd 88% hefyd yn credu nad yw byw ar arian bach yn rhwystr i fwyta’n iach. Roedd canran fawr (83%) hefyd yn cytuno y dylai rhieni fod yn gadarn gyda’u plant a’u gorfodi i fwyta’n iach
- Bellach mae ychydig dros dri chwarter (76%) y defnyddwyr yn gwybod y dylent fwyta o leiaf pum dogn o lysiau a ffrwythau amrywiol bob dydd2. Roedd 50%, sydd hefyd yn well na’r llynedd, yn honni eu bod yn gweithredu ar hyn drwy fwyta o leiaf ‘5 y dydd’3
- Mae labeli bwyd yn dal i fod yn bwysig i siopwyr yng Nghymru, gyda 71% yn edrych ar yr wybodaeth am faeth wrth brynu cynhyrchion am y tro cyntaf. Mae’r prif bethau y mae defnyddwyr yn edrych arnynt wrth ddarllen labelu bwyd yn parhau i fod yr un peth, sef maint y braster, yr halen, y siwgr, y braster dirlawn a’r ychwanegion. Maint y braster a’r halen yw’r wybodaeth am faeth y maent yn chwilio amdani’n amlaf ar labeli4 . Fodd bynnag, mae yna amrywiadau bach y naill ffordd a’r llall mewn rhai o'r meysydd hyn. Mae canran y bobl sy’n edrych am fanylion am gynnwys braster wedi gostwng yn sylweddol ers 2006 - i lawr i 45% o 47%, a braster dirlawn i lawr i 21% o 24%. Mae canran y bobl sy’n chwilio am wybodaeth am lefel y siwgr neu’r ychwanegion sy’n bresennol wedi aros yr un peth. Bu cynnydd yng nghanran y bobl sy’n edrych ar faint o halen sydd mewn cynhyrchion, o 39% yn 2006 i 45% yn 2007
- Mae’r astudiaeth yn dangos bod dryswch o hyd yng Nghymru ynglŷn ag ystyr y dyddiad ‘defnyddio erbyn’ ar gyfer bwyd. Roedd llai o’r ymatebwyr (i lawr i 54% o 60% yn 2006) yn dweud yn gywir y byddai’n ddiogel bwyta bwyd hyd at y dyddiad hwn, ond na ddylid ei fwyta ar ôl y dyddiad. Hefyd roedd mwy o’r ymatebwyr yn dweud ar gam y byddai ansawdd y bwyd ar ei orau cyn y dyddiad hwn
Dywedodd Steve Wearne, Cyfarwyddwr Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru:
'Mae’r arolwg diweddaraf hwn yn galonogol gan ei fod yn dangos bod y rhan fwyaf o bobl yn sylweddoli pa mor bwysig yw bwyta’n iach, a bod llawer hefyd yn gwybod eu pethau wrth edrych ar labeli4. Fodd bynnag, ymddengys fod yna lai o bryder ynglŷn â maint y braster a’r braster dirlawn yn ein bwyd. Mae hyn yn dangos pa mor bwysig yw hi i’r Asiantaeth barhau i godi ymwybyddiaeth am ddeiet iachach a darparu gwybodaeth a chyngor clir wedi’u cefnogi gan dystiolaeth wyddonol.'
Roedd yr arolwg hefyd yn edrych ar agweddau at faterion sy’n ymwneud â diogelwch bwyd. Mae defnyddwyr yng Nghymru yn dal i bryderu am y materion hyn.
Hefyd mae’r arolwg yn mesur ymwybyddiaeth o’r Asiantaeth a’i rôl o ran darparu cyngor clir i ddefnyddwyr. Dyma rai o’r prif ffigurau:
- Yng Nghymru mae ymwybyddiaeth o’r Asiantaeth ymysg defnyddwyr wedi sefydlogi, gyda ffigur uchaf cyson o 84%. Mae ymddiriedaeth yn yr Asiantaeth wedi amrywio ers 2003 ac ar hyn o bryd 51% yw’r ffigur, sy’n uwch na’r ffigur pan ofynnwyd y cwestiwn hwn am y tro cyntaf yn 2001, sef 38%
- Roedd mwy nag un allan o bob pump yn nodi’r Asiantaeth fel ffynhonnell cyngor ar fwyta’n iach
Nodiadau i Olygyddion
Mae arolwg Agweddau Defnyddwyr yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cael ei gynnal ledled y DU. Mae adroddiadau ar wahân ar gael i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
1 Cafodd yr Arolwg Agweddau Defnyddwyr diweddaraf ei gynnal rhwng mis Awst a mis Hydref 2007. Cyfwelwyd â 503 o oedolion yng Nghymru.
2 Yn 2000 roedd 47% yn deall yn gywir ystyr ‘5 y dydd’; mae hyn wedi codi i 76% yn 2007.
3 Bellach mae 50% yn honni eu bod yn bwyta pum dogn neu fwy o lysiau a ffrwythau bob dydd. Mae hyn yn uwch na’r ffigur yn 2006, sef 45%.
4 Wrth edrych ar labeli cynhyrchion y maent yn eu prynu am y tro cyntaf, mae 45% yn dweud eu bod fel arfer yn edrych ar faint y braster (sy’n is na’r ffigur yn 2006, sef 47%), mae 45% yn chwilio am faint yr halen (sy’n uwch na’r ffigur yn 2006, sef 39%), mae 26% yn chwilio am y siwgr (yr un peth ag yn 2006) ac mae 21% yn chwilio am y braster dirlawn (sy’n is na’r ffigur yn 2006, sef 24%).
5 Yn y cyfnod 2000 - 2005 roedd pryderon am faterion sy’n ymwneud â diogelwch bwyd yn amrywio rhwng 68% a 71%. Ar gyfer 2007, 59% yw’r ffigur, sydd ychydig yn uwch na’r ffigur yn 2006, sef 56%.
11th Floor, Southgate House,
Wood Street,
Cardiff CF10 1EW
Telephone: 02920 678916
Fax: 02920 678918/9
Email: caroline.kitson@foodstandards.gsi.gov.uk
