Blas Cas Ar Y Nadolig
Monday 17 December 2007
Peidiwch â gweini gwenwyn bwyd y Nadolig hwn
Yn ôl arolwg a gynhaliwyd ar ran yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn ddiweddar, mae 80% o bobl y DU yn golchi eu twrci cyn eu coginio, gan gynyddu’r perygl o achosi gwenwyn bwyd yn sylweddol.
Mae canlyniadau’r arolwg, a oedd yn edrych ar arferion bwyta Nadoligaidd defnyddwyr y DU, yn dangos mai menywod 45-54 oed sydd fwyaf euog o wneud hyn. Roedd y ffigur yn is yng Nghymru, gyda 65% yn debygol o olchi’u twrci amrwd o dan y tap.
Mae’r Asiantaeth yn rhybuddio yn erbyn golchi cig oherwydd y gallai bacteria niweidiol dasgu oddi ar gig a dofednod amrwd ar offer a llestri sydd wrth law. Mae germau a allai achosi gwenwyn bwyd hefyd yn gallu byw am ddyddiau.
Meddai Steve Wearne, Cyfarwyddwr Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru: 'Mae’r rhan fwyaf o bobl yn meddwl eu bod yn gwybod sut i baratoi cinio Nadolig gyda’u llygaid ar gau. Ond mae ambell un yn dal i wneud cawl o bethau bob Nadolig wrth baratoi bwyd. Mae’n debyg mai golchi’r twrci yw’r camgymeriad mwyaf cyffredin.
'Cofiwch, nid yw’n bosibl cael gwared ar y germau sy’n achosi gwenwyn bwyd gyda dŵr. Maent yn cael eu lladd gan wres. Drwy olchi eich twrci amrwd, rydych yn fwy tebygol o ledaenu’r germau yn hytrach na chael eu gwared.'
Er bod cogyddion yn fwy ymwybodol o hyn yng Nghymru na gweddill y DU, nid ydynt cystal am wybod a yw eu twrci wedi’i goginio’n iawn ai peidio. Mae oddeutu 27% o bobl yng Nghymru yn ansicr, o’i gymharu â 17% o bobl y DU. Er bod nifer yr achosion swyddogol yn eithaf isel, mae 2% o bobl yn credu iddynt ddioddef o wenwyn bwyd dros yr ŵyl yn y pum mlynedd diwethaf.
Er mwyn sicrhau fod eich twrci wedi’i goginio’n iawn, gwnewch yn siŵr ei fod yn chwilboeth drwyddo, torrwch i mewn i’r darn mwyaf trwchus i sicrhau nad yw’r cig yn binc, ac os oes sudd yn rhedeg ohono, gwnewch yn siŵr ei fod yn glir.
Mae’r cogyddion enwog Dudley Newbery, Gary Rhodes ac Ainsley Harriott yn lleisio hysbysebion radio’r Asiantaeth eleni i helpu pobl rhag gweini gwenwyn bwyd dros y Nadolig.
I gael rhagor o wybodaeth ar sut i baratoi eich cinio Nadolig yn ddiogel, ewch ar www.eatwell.gov.uk, neu e-bostiwch ein harbenigwyr ar dwrci: turkeymail@foodstandards.gsi.gov.uk.
Nodiadau i olygyddion
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn adran annibynnol sy’n perthyn i’r Llywodraeth a sefydlwyd gan Ddeddf Seneddol yn 2000 i warchod iechyd a buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd.
Roedd 2,148 o bobl yn rhan o’r arolwg a gynhaliwyd ledled y DU gyfan gan TNS CAPI Omnibus.
Y ffordd orau o osgoi gwenwyn bwyd yw drwy ddilyn y 4 cam canlynol: Coginio, Oeri, Glanhau ac osgoi Croeshalogi . Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan yr ASB: www.food.gov.uk.
Ar gyfartaledd, mae pobl yng Nghymru yn bwyta’u cinio Nadolig gyda 6 i 7 o bobl eraill
Er bod dynion yn fwy tebygol o gerfio, gweini’r diodydd neu ymlacio, menywod sy’n dal i fod yn fwy tebygol o goginio.
Mae 71% o’r rhai a gymerodd ran yng Nghymru yn bwriadu coginio twrci eleni, gydag oddeutu 51% yn prynu twrci ffres a dim ond 31% yn prynu un wedi’i rewi.
Eleni, rydym yn debygol o fwyta:
- 15,000 o dunelli o sbrowts Brwsel, sy’n pwyso cymaint â 37 o awyrennau mawr
- 19,000 o dunelli o dwrci (gwerth £10 miliwn) – sy’n pwyso cymaint â 1,600 o fysiau ysgol
- 120,000 o dunelli o datws – yr un pwysau â 34,000 o eliffantod Asiaidd
- 7.5 miliwn o foron – tua’r un faint â phoblogaeth Bwlgaria
Bydd hysbysebion radio'r Asiantaeth Safonau Bwyd sy’n cael eu lleisio gan y cogyddion enwog Dudley Newbery, Gary Rhodes ac Ainsley Harriott yn cael eu darlledu rhwng 19-25 Rhagfyr.
Er mwyn gwneud cais am gyfweliadau, cysylltwch â swyddfa’r wasg ar 029 2067 8916.
Adnoddau gwybodaeth yn cynnwys:
- Adroddiad Mintel ar Fwyd y Nadolig 2006
- Files.Recycle.co.uk
- Consortiwm Manwerthu Prydain
11th Floor, Southgate House,
Wood Street,
Cardiff CF10 1EW
Telephone: 02920 678916
Fax: 02920 678918/9
Email: caroline.kitson@foodstandards.gsi.gov.uk
