Llywio Arferion Bwyta y Genhedlaeth Nesaf
Thursday 20 December 2007
Heddiw cyhoeddodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd fframwaith o wybodaeth a sgiliau craidd ar gyfer plant a phobl ifanc, sy'n nodi'r cerrig sylfaen hanfodol mewn perthynas â bwyta’n iach, coginio a diogelwch bwyd.
Bwriad y fframwaith cymwyseddau bwyd, fel y’i gelwir, yw helpu ysgolion a mudiadau cymunedol i ddarparu sylfaen i blant a phobl ifanc i’w galluogi i wneud dewisiadau iach o ran bwyd yn awr ac wrth iddynt dyfu’n oedolion.
O fewn themâu deiet ac iechyd, ymwybyddiaeth defnyddwyr, coginio (paratoi a thrin bwyd), a diogelwch bwyd, mae'r fframwaith yn berthnasol i bobl ifanc rhwng 5 a 16+ oed, ac mae hefyd yn cwmpasu materion bwyd ehangach sy'n adlewyrchu safbwyntiau’r ASB a’r rhai a ymatebodd i'r ymgynghoriad.
Mae'r cymwyseddau bwyd yn cefnogi gwaith ehangach y Llywodraeth i wella iechyd pobl ifanc a chyfrannu at helpu ysgolion i ddatblygu ‘ymagwedd ysgol gyfan’ tuag at ddeiet ac iechyd. Oherwydd ei fod yn ddilynol a chronnus o’r naill gam i'r llall, bydd y fframwaith yn helpu plant i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau cyson am fwyd. Yn arbennig, mae'r cymwyseddau’n berthnasol i bob profiad dysgu, y tu mewn a thu allan i leoliad ysgol, a gellir eu cyflawni un ai yn y cartref neu trwy weithgareddau eraill.
Bydd y fframwaith cymwyseddau bwyd yn cael ei hyrwyddo gan rwydwaith o ymarferwyr presennol ar draws y DU, sydd eisoes yn gweithio trwy gynlluniau megis Rhaglen ‘What’s Cooking’ yr ASB, ac yng Nghymru trwy brosiectau fel trelar adnoddau addysgol ASB Cymru. Bydd yr ASB hefyd yn annog sefydliadau perthnasol eraill i fabwysiadu'r fframwaith.
Mae'r fframwaith cymwyseddau bwyd yn syrthio o fewn egwyddorion craidd yr ASB, a gyhoeddwyd heddiw hefyd. Mae'r rhain yn amlinellu amcanion sylfaenol gwaith yr Asiantaeth gydag ysgolion ar draws y DU.
Meddai Sarah Rowles, Pennaeth Maetheg ASB Cymru: 'Mae'n rhaid i bobl ifanc allu dewis a pharatoi deiet diogel, iach a chytbwys. Yn aml iawn mae arferion bwyta yn cael eu sefydlu yn gynnar mewn bywyd a thrwy'r fframwaith cymwyseddau bwyd mae'r Asiantaeth yn helpu i lywio arferion bwyta y genhedlaeth nesaf.
'Credwn y dylai plant fod yn ymwybodol o bob agwedd ar fwyd o'r ‘fferm i'r fforc’, er mwyn dysgu sut i ddarllen labeli, a pham fod stemio yn well na ffrio. Wrth sefydlu'r cymwyseddau trwy ystod o weithgareddau, y tu mewn a thu allan i ysgolion, bydd mwy o gysondeb wrth helpu plant i ddewis, coginio a bwyta bwyd iach a diogel.'
Bydd yr Asiantaeth yn adolygu'r Cymwyseddau bwyd yn 2009.
Nodiadau i olygyddion
1. I ddarllen y fframwaith cymwyseddau bwyd, ewch i www.food.gov.uk
2. Datblygwyd y fframwaith cymwyseddau bwyd mewn ymgynghoriad â’r Llywodraeth a rhanddeiliaid, yn ogystal â’r bobl ifanc eu hunain. Cynhaliodd yr Asiantaeth weithdy ar 6 Hydref 2007 gyda nifer o randdeiliaid gan gynnwys adrannau Addysg ac Iechyd, Yr Ymddiriedolaeth Bwyd Ysgol, Ffocws ar Fwyd, y Ffederasiwn Bwyd a Diod, yr Academi Celfyddyd Coginio ac athrawon ysgolion cynradd ac uwchradd. Yn dilyn hyn, cynhaliodd yr ASB ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos ar draws y DU.
3. Mae'r fframwaith cymwyseddau bwyd yn adeiladu ar gymwyseddau bwyd blaenorol ‘Getting to Grips with Grub’ ar gyfer plant rhwng 14-16 oed, a ddefnyddiwyd i asesu arholiadau a chwricwlwm TGAU.
4. NMae gan yr ASB ystod o adnoddau a gweithgareddau ar gyfer ysgolion – mae rhai wedi’u dylunio i'w defnyddio o fewn y cwricwlwm ac eraill i'w defnyddio mewn gweithgareddau allgyrsiol neu waith ysgol estynedig. Nod yr egwyddorion craidd yw dod â'r gwaith hwn ynghyd o dan ymbarél o werthoedd cytûn a bydd yr Asiantaeth yn gobeithio defnyddio'r rhain yn ei gwaith gydag ysgolion yn y dyfodol.
5. I gael rhagor o wybodaeth am raglen ‘What’s Cooking’ a threlar adnoddau addysgol yr ASB, ewch i www.food.gov.uk
6. Rhoddir crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad yn www.food.gov.uk
11th Floor, Southgate House,
Wood Street,
Cardiff CF10 1EW
Telephone: 02920 678916
Fax: 02920 678918/9
Email: caroline.kitson@foodstandards.gsi.gov.uk
