Chwilio am brosiectau cymunedol ar gyfer gwobrau AFAL
Friday 5 October 2007
Ref: WA43/07HR
Yn dilyn llwyddiant y Cynllun AFAL (Gwobrau am Fentrau Bwyd Lleol) dros y pedair blynedd diwethaf, mae Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru'n gwahodd ceisiadau ar gyfer Gwobrau 2008. Mae'r Gwobrau AFAL yn cydnabod cyfraniadau unigolion neu dimau at fentrau maethiad lleol sydd wedi cael effaith bositif ar ddeiet neu arferion bwyta trigolion yn eu cymunedau.
Wrth lansio'r Gwobrau, eglurodd Lindsay Kearton, Uwch Swyddog Polisi gyda Chyngor Defnyddwyr Cymru ac aelod o banel beirniadu AFAL 2007, 'Rydyn ni'n awyddus iawn i weld enwebiadau sy'n ymwneud â gweithgareddau sy'n cael eu cynnal yn y cymunedau mwy difreintiedig ac agored i niwed yng Nghymru, fel y rhai sy'n targedu grwpiau incwm isel neu leiafrifoedd ethnig lle mae gwir angen cynlluniau i wella deiet. Rydyn ni hefyd yn awyddus i dderbyn enwebiadau gan brosiectau sy'n dangos gwerth ychwanegol heb lawer o arian. Byddwn hefyd yn croesawu prosiectau sy'n dangos tystiolaeth o weithio mewn partneriaeth ac arloesed a fydd yn galluogi Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru i hyrwyddo arferion gorau a sbarduno eraill i gynnal gweithgareddau tebyg yn y dyfodol.'
Mae'r Gwobrau'n agored i bob unigolyn neu sefydliad sy'n gweithio i geisio gwella deiet eu cymuned leol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys pob sector, gan gynnwys gweithwyr cymunedol, gwirfoddol ac addysg, arlwywyr, adwerthwyr, cynhyrchwyr bwyd ac Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd sy'n gweithio i ddylanwadu'r gymuned.
Bydd pob un o'r pum enillydd yn derbyn £2000 i'w fuddsoddi yn eu menter bwyta'n iach, gwobr wedi ei ysgythru a thystysgrif. Bydd y pump nesaf yn derbyn £1000 ynghyd â gwobr wedi ei ysgythru a thystysgrif. Gwahoddir pawb sy'n cyrraedd y rownd derfynol i wneud cyflwyniad yn esbonio eu cynadleddau y Strategaeth Faethiad yn ystod 2008.
Am wybodaeth bellach am y cynllun, neu i dderbyn ffurflenni enwebu, dylai cydgysylltwyr prosiectau gysylltu â Kerys James - Palmer ar 029 2067 8912 neu e-bost: nutritionstrategywales@foodstandards.gsi.gov.uk
Nodiadau I Olygyddion
1. Dyddiad Cau
Rhaid cwblhau ffurflen enwebu i gystadlu a rhaid iddi gyrraedd erbyn 7 Rhagfyr 2007 fan bellaf.
2. Adolygu enwebiadau
Bydd panel dethol annibynnol yn adolygu ceisiadau, a hysbysir y cystadleuwyr llwyddiannus erbyn diwedd Ionawr 2008.
11th Floor, Southgate House,
Wood Street,
Cardiff CF10 1EW
Telephone: 02920 678916
Fax: 02920 678918/9
Email: caroline.kitson@foodstandards.gsi.gov.uk
