Chwilio am brosiectau cymunedol ar gyfer gwobrau AFAL 2007
Thursday 12 October 2006
Yn dilyn llwyddiant y Cynllun AFAL (Gwobrau am Fentrau Bwyd Lleol) dros y tair blynedd diwethaf, mae Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru'n gwahodd ceisiadau ar gyfer Gwobrau 2007.
Mae'r Gwobrau AFAL yn cydnabod cyfraniadau unigolion neu dimau at fentrau maethiad lleol sydd wedi cael effaith bositif ar ddeiet neu arferion bwyta trigolion yn eu cymunedau.
Wrth lansio'r Gwobrau, eglurodd yr Athro Robert Pickard, Prif Gyfarwyddwr Sefydliad Maetheg Prydain, sy'n aelod o Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru ar gyfer ASB Cymru ac yn aelod o banel beirniadu AFAL 2006, "Rydyn ni'n awyddus iawn i weld enwebiadau sy'n ymwneud â gweithgareddau sy'n cael eu cynnal yn y cymunedau mwy difreintiedig ac agored i niwed yng Nghymru, fel y rhai sy'n targedu grwpiau incwm isel neu leiafrifoedd ethnig lle mae gwir angen cynlluniau i wella deiet. Rydyn ni hefyd yn awyddus i dderbyn enwebiadau gan brosiectau sy'n dangos gwerth ychwanegol heb lawer o arian. Byddwn hefyd yn croesawu prosiectau sy'n dangos tystiolaeth o weithio mewn partneriaeth ac arloesed a fydd yn galluogi Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru i hyrwyddo arferion gorau a sbarduno eraill i gynnal gweithgareddau tebyg yn y dyfodol."
Mae'r Gwobrau'n agored i bob unigolyn neu sefydliad sy'n gweithio i geisio gwella deiet eu cymuned leol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys pob sector, gan gynnwys gweithwyr cymunedol, gwirfoddol ac addysg, arlwywyr, adwerthwyr, cynhyrchwyr bwyd ac Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd sy'n gweithio i ddylanwadu'r gymuned.
Bydd pob un o'r pum enillydd yn derbyn £2000 i'w fuddsoddi yn eu menter bwyta'n iach, powlen ffrwythau arbennig a thystysgrif. Bydd y pump nesaf yn derbyn £1000 ynghyd â phowlen ffrwythau a thystysgrif. Gwahoddir pawb sy'n cyrraedd y rownd derfynol i wneud cyflwyniad yn esbonio eu gweithgareddau yn y cynadleddau maetheg Bwyd a Lles yn ystod Gwanwyn 2007.
Am wybodaeth bellach am y cynllun, neu i dderbyn ffurflenni enwebu, dylai cydgysylltwyr prosiectau gysylltu â Kerys James - Palmer ar 029 2067 8912 neu e-bost: nutritionstrategywales@foodstandards.gsi.gov.uk
11th Floor, Southgate House,
Wood Street,
Cardiff CF10 1EW
Telephone: 02920 678916
Fax: 02920 678918/9
Email: caroline.kitson@foodstandards.gsi.gov.uk
