System Arolygu Bwyd y DU
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi comisiynu’r gwaith o gyflwyno, datblygu a gweithredu System Arolygu Bwyd ar gyfer y DU (UKFSS).
Cafodd y prosiect ei greu yn 2001. Mae UKFSS yn gronfa ddata genedlaethol ganolog sy’n cadw cofnodion o’r holl samplau bwyd sy’n cael eu cyflwyno i’w dadansoddi gan labordai rheoli swyddogol ar ran awdurdodau lleol ac awdurdodau iechyd porthladdoedd. Ar hyn o bryd, mae’r system wrthi’n cael ei rhoi ar waith yn raddol ledled Cymru a Lloegr, ac mae’n gwbl weithredol yng Ngogledd Iwerddon ac yn yr Alban.
Cefndir
Cafodd y prosiect hwn ei ddatblygu’n wreiddiol gan Asiantaeth Safonau Bwyd yr Alban (FSAS) ar y cyd ag Amddiffyn Iechyd yr Alban (HPS). Ei nod oedd darparu un system safonol er mwyn casglu, storio, ymholi ac adrodd ar ddata er mwyn dadansoddi samplau bwyd yn ficrobiolegol ac yn gemegol yn yr Alban.
Ar ôl iddo gael ei ddatblygu’n llwyddiannus, comisiynodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) gwmni ymgynghori i asesu’r FSS. Daeth yr asesiad hwn i’r casgliad bod y system yn sefydlog, yn gadarn, yn ddiogel ac yn effeithlon, ac felly'n ‘addas i'r pwrpas’. Dechreuwyd cynllun peilot i asesu rhoi’r system ar waith y tu allan i'r Alban ym mis Ebrill 2003, ac roedd yn canolbwyntio ar samplo er mwyn dadansoddi halogyddion cemegol. Roedd chwe labordy dadansoddi cyhoeddus a'u cynghorau partner yn Lloegr yn ymwneud â’r gwaith hwn.
Cafodd rhagor o waith ei gomisiynu gan yr ASB a’i ddatblygu gan HPS, er mwyn datblygu'r FSS ledled y DU i safoni’r system casglu, storio, ymholi ac adrodd ar ddata er mwyn dadansoddi samplau o fwyd anifeiliaid yn ficrobiolegol ac yn gemegol. Felly, mae UKFSS bellach yn gallu casglu data o samplau dilys o fwyd a bwyd anifeiliaid ledled Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon ar gyfer pob awdurdod gorfodi.
Mae’r system bellach wedi cael ei defnyddio fel mater o drefn gan 29 o’r 32 awdurdod lleol yn yr Alban er 2005, ac mae wedi bod yn gwbl weithredol yng Ngogledd Iwerddon er mis Ionawr 2007. Y cam cyfredol, sef Cam 2, yw’r cam terfynol ar gyfer rhoi UKFSS ar waith ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr. Bydd y prosiect hefyd yn parhau i hyrwyddo defnyddio’r gronfa ddata drwy’r Alban a Gogledd Iwerddon fel adnodd samplo yn seiliedig ar risg ar gyfer awdurdodau lleol, ac i fonitro tueddiadau cenedlaethol o ran safonau a diogelwch bwyd.
Mae adroddiadau bellach wedi cael eu llunio ar samplo bwyd yn ficrobiolegol ac yn gemegol yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon gan ddefnyddio data UKFSS 2007. Mae’r rhain ar gael drwy ddilyn y dolenni isod.
Mae cam nesaf y prosiect 5 mlynedd hwn yn datblygu’r gwaith o gynnwys rhagor o sefydliadau yn y prosiect, gan gynnwys yr Asiantaeth Diogelu Iechyd yn Lloegr (Cam 3), Awdurdodau Iechyd Porthladdoedd y DU (Cam 4) a'r Gwasanaeth Diogelu Iechyd Cenedlaethol yng Nghymru (Iechyd Cyhoeddus Cymru) (Cam 5).
UKFSS yng Nghymru
Mae ASB Cymru wedi cynnal pump cwrs hyfforddi rhwng 2009 a 2011 er mwyn rhoi cyfle i staff bwyd a bwyd anifeiliaid awdurdodau lleol ddod yn gyfarwydd ag UKFSS.
Mae hyfforddiant ar-lein yn cael ei ddatblygu i'w ddefnyddio gan awdurdodau lleol, ac mae disgwyl y bydd wedi’i lansio erbyn mis Medi 2011.
Mae’r ddau ddadansoddwr cyhoeddus yng Nghymru yn gallu defnyddio UKFSS ar hyn o bryd – ac maent yn derbyn ac yn adrodd drwy ddefnyddio'r adnodd hwn.
Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru dri labordy microbiolegol ar gyfer bwyd yng Nghymru – yng Nghaerdydd, yng Nghaerfyrddin ac ym Mangor. Bydd UKFSS yn cael ei sefydlu ym Mangor yn gyntaf, a bydd y ddau labordy arall yn dilyn yn 2012.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am Raglen UKFSS a’r modd y mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn ei defnyddio, cysylltwch â Hannah Evans:
Ffôn:02920 678926
E-bost: hannah.evans@foodstandards.gsi.gov.uk
Fel arall, os oes gennych chi ymholiadau technegol, neu os ydych chi am gael gwybodaeth yn ymwneud â Mewngofnodi i Ddefnyddwyr, cysylltwch â Desg Gymorth UKFSS ar 0845 862 3561 neu drwy anfon e-bost at servicedesk@amicusits.co.uk.
