Llythyrau at awdurdodau lleol
Thursday 8 April 2010
Er mwyn helpu awdurdodau lleol i gael gafael ar yr wybodaeth a’r canllawiau diweddaraf a gyhoeddir gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, rydym wedi sefydlu system gyfeirio ganolog.
Bydd y system hon yn cynnwys llythyrau generig sy’n ymwneud yn benodol â materion gorfodi safonau hylendid bwyd a/neu fwyd anifeiliaid, sef y llythyrau gorfodi a anfonir at bob Cyfarwyddwr Diogelu’r Cyhoedd yng Nghymru.
O 1 Ionawr 2010, bydd yr holl lythyrau sy’n cynnwys cyfeirnod a anfonir at awdurdodau lleol yng Nghymru ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.
I gael rhagor o wybodaeth am y llythyrau hyn, cysylltwch ag Andrew Morris yn y Tîm Gorfodi, sy’n gyfrifol am weinyddu’r system hon:
Ffôn: 029 2067 8960
Ffacs: 029 2067 8918
E-bost: andrew.morris@foodstandards.gsi.gov.uk
Os hoffech drafod unrhyw faterion sy’n ymwneud â’r iaith Gymraeg, mae croeso i chi ffonio’r Uned Iaith ar 029 2067 8970 neu e-bostio welsh.translation@foodstandards.gsi.gov.uk
