Cofrestru eich busnes bwyd
Wednesday 20 January 2010
Wrth sefydlu busnes bwyd newydd, mae’n bwysig iawn gwneud yn siŵr bod popeth fel ag y dylai fod ar y dechrau gan y bydd hyn yn gwneud bywyd yn haws i chi wrth i chi redeg eich busnes yn dda yn y dyfodol. Rhaid i chi gofrestru eich safle gyda gwasanaeth iechyd yr amgylchedd eich awdurdod lleol o leiaf 28 diwrnod cyn agor – cewch gofrestru yn rhad ac am ddim.
Pwy ddylai gofrestru?
Mae’n rhaid i’r rhan fwyaf o fusnesau bwyd gofrestru gan gynnwys busnesau arlwyo sy’n gweithio o’r cartref a safleoedd symudol neu dros dro er enghraifft stondinau a faniau. Os ydych chi’n defnyddio dau safle neu fwy, bydd gofyn i chi gofrestru pob un ohonynt.
Os caiff safle arlwyo ei ddefnyddio gan fwy nag un busnes arlwyo (er enghraifft neuadd bentref neu ganolfan gynadledda), y sawl sy’n gyfrifol am adael i’r gweithgareddau hyn ddigwydd yno sy’n gyfrifol am gofrestru’r safle.
Sut mae cofrestru?
Mae cofrestru’n syml. Mae modd lawrlwytho ffurflen gofrestru o wefan ambell awdurdod lleol gan ei llenwi’n electronig a’i hanfon drwy gyfrwng e-bost, ffacs neu’r post at y tîm bwyd yn adran iechyd yr amgylchedd eich awdurdod lleol. Mae awdurdodau lleol eraill yn cynnig cyfle i gofrestru ar-lein lle cewch lenwi a chyflwyno ffurflen ar-lein.
Cysylltwch â’ch awdurdod lleol er mwyn gwybod sut i gofrestru. Er mwyn dod o hyd i fanylion cyswllt eich awdurdod lleol agosaf, defnyddiwch ein teclyn chwilio ar-lein.
Beth arall ddylwn i fod yn ei wneud?
Cyn agor, cysylltwch â’ch awdurdod lleol i gynllunio eich busnes, i drefnu bod eich gwastraff a’ch deunydd ailgylchu yn cael eu casglu ac i gael gafael ar yr adnoddau hyfforddi priodol. Fe allai gostio arian i chi os na fyddwch chi’n gwneud hyn yn iawn. Mae gweini bwyd sy’n ddiogel i’w fwyta yn gwneud synnwyr busnes da - mae hylendid da yn helpu i atal gwenwyn bwyd ac yn diogelu eich enw da er mwyn i chi gadw eich cwsmeriaid. Mae hylendid gwael yn gadael blas cas.
Mae’n bosibl y bydd gofyn i chi gofrestru fel unigolyn hunangyflogedig a/neu gofrestru ar gyfer Treth ar Werth (VAT). Mae’r prosesau hyn yn rhai cwbl ar wahân i’r broses o gofrestru eich safle bwyd.
Os ydych chi’n awyddus i wneud newidiadau i’ch safle, efallai y bydd angen caniatâd cynllunio arnoch chi.
Bydd gofyn i chi dalu cyfraddau busnes ar y rhan fwyaf o safleoedd a chael trwyddedau ar gyfer rhai gweithgareddau er enghraifft gwerthu neu gyflenwi alcohol neu werthu bwyd poeth rhwng 11pm a 5am.
Isod, rydym wedi cynnwys rhestr o’r pethau y bydd gofyn i chi eu hystyried. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn llyfryn yr Asiantaeth sef: Dechrau Busnes: Eich camau cyntaf i ddechrau busnes arlwyo. Cliciwch ar y ddolen tua diwedd y dudalen hon i weld copi.
Pethau i’w hystyried wrth ddechrau eich busnes
- A ydych chi wedi cofrestru eich busnes?
- A yw cynllun ac adeiladwaith eich safle yn bodloni’r gofyniad cyfreithiol?
- A ydych chi wedi cyflwyno gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd ac yn cadw cofnodion cyfoes o’r rhain?
- A ydych chi a’ch staff yn deall egwyddorion hylendid bwyd da?
- A ydych chi wedi ystyried trefniadau iechyd a diogelwch a diogelwch tân?
- A ydych chi wedi cofrestru fel unigolyn hunangyflogedig?
- A oes gofyn i chi gofrestru ar gyfer TAW (VAT)?
- A ydych chi’n cadw cofnodion o holl incwm a chostau eich busnes?
- A ydych chi’n cadw cofnodion o fanylion cyflog eich staff? A ydych chi’n gwybod sut i dalu eu cyfraniadau treth ac Yswiriant Gwladol?
- A ydych chi’n disgrifio bwyd a diod yn fanwl gywir?
- A oes angen i chi wneud cais am drwydded i werthu alcohol, i gynnal adloniant, i werthu bwyd poeth a diod yn ystod oriau mân y bore neu i werthu bwyd ar y stryd?
Adnoddau
Mae’r Asiantaeth yn darparu adnoddau i helpu busnesau bwyd i gydymffurfio â deddfwriaeth hylendid bwyd. Mae’r rhain yn cynnwys Bwyd mwy diogel, busnes gwell (SFBB) sy’n cynnig ffordd arloesol ac ymarferol o reoli diogelwch bwyd. Mae 3 pecyn bwyd mwy diogel, busnes gwell ar gael sef:
- Bwyd mwy diogel, busnes gwell ar gyfer BUSNESAU ARLWYO BACH
- Bwyd mwy diogel, busnes gwell ar gyfer BUSNESAU MANWERTHU BACH
- Bwyd mwy diogel, busnes gwell ar gyfer GWARCHODWYR PLANT
Os hoffech gopïau yn rhad ac am ddim, mae croeso i gysylltu â’r Asiantaeth ar 02920 67 8970. Er gwybodaeth, mae’r pecynnau hefyd yn cynnwys DVD sy’n dangos amrywiol sefyllfaoedd go iawn a all eich helpu i ddysgu mwy am hylendid bwyd. Mae’r DVD yn addas ar gyfer rheolwyr busnesau arlwyo neu ar gyfer hyfforddi staff sy’n cael eu cyflogi yn y maes hefyd. Mae’r pecynnau ar gael ar-lein drwy glicio ar enw’r pecyn perthnasol uchod.
