Cytundeb Fframwaith
Mae’r Cytundeb Fframwaith ar Reolaethau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid Swyddogol Awdurdodau Lleol yn fecanwaith a ddefnyddir gan yr Asiantaeth i weithredu ei phwerau o dan y Ddeddf Safonau Bwyd i oruchwylio a dylanwadu ar weithgareddau gorfodi awdurdodau lleol.
Cafodd ei ddatblygu drwy gyfrwng y Grŵp Cyswllt Gorfodi Awdurdodau Lleol (Grŵp Cyswllt Gorfodi bellach) a daeth yn weithredol ar 1 Ebrill 2001. Cafodd ei ddiweddaru yn 2009/10.
Mae’r Cytundeb yn berthnasol i’r broses o orfodi pob cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid yn lleol, ac yn ymgorffori’r canllawiau a’r safonau diweddaraf ar orfodi cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid.
Mae’r Cytundeb yn darparu ar gyfer:
- Cynlluniau gwasanaethau lleol sydd ar gael i’r cyhoedd i gynyddu tryloywder gwasanaethau gorfodi lleol
- Cytuno ar safonau gorfodi cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid ar gyfer awdurdodau lleol
- Gwell data monitro gyda mwy o bwyslais ar ganlyniadau arolygiadau sy’n darparu gwybodaeth fanylach am berfformiad awdurdodau lleol
- Cynllun archwilio gyda’r diben o sicrhau gwelliannau a rhannu arferion da
Is-grŵp Cytundeb Fframwaith y Grŵp Cyswllt Gorfodi sy’n gyfrifol am oruchwylio ac adolygu’r modd y caiff y Cytundeb Fframwaith ei roi ar waith.
Diwygiadau
Cafodd y Cytundeb Fframwaith ei ddiwygio am y chweched tro ym mis Ionawr 2011 ac mae i’w weld ar ei newydd wedd drwy’r ddolen isod.
