Cynlluniau Sgorio Hylendid Bwyd
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd, mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, wrthi’n cyflwyno’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon a’r Cynllun Gwybodaeth am Hylendid Bwyd yn yr Alban. Mae’r cynlluniau yn helpu’r cyhoedd i ddewis ble i fwyta allan neu siopa am fwyd drwy roi gwybodaeth iddynt am safonau hylendid mewn bwytai, caffis, siopau tecawê, gwestai a siopau bwyd.
Mae’r cynllun hefyd yn annog busnesau i wella safonau hylendid. Prif nod y cynllun yw lleihau nifer yr achosion o salwch a gludir gan fwyd.
Gallwch chwilio am wybodaeth am safonau hylendid mewn bwytai, siopau tecawê a siopau bwyd drwy ymweld â food.gov.uk/ratings – clicliwch ar ‘Cymraeg’.
Mae’r Asiantaeth yn cydweithio ag awdurdodau lleol i annog cymaint ohonynt â phosibl i gynnal y cynllun cenedlaethol, fel y gall y cyhoedd gymharu sgoriau hylendid busnesau bwyd yn eu hardal hwy a thu hwnt.
Gall pob awdurdod lleol ddewis p’un a yw am gymryd rhan ai peidio, ond mae'r niferoedd yn cynyddu drwy'r amser. Mae'r cynllun bellach ar waith ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru ac mewn llawer o ardaloedd yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae rhai awdurdodau lleol yn dal i gynnal eu ‘cynlluniau lleol’ eu hunain (caiff y rhain yn aml eu galw’n gynlluniau ‘scores on the doors’).
Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am y cynlluniau lleol hyn.
Find out more
Adnoddau ar gyfer awdurdodau lleol sy'n gweithredu'r cynllun cenedlaethol ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon
Mae'r Asiantaeth wedi cynhyrchu ystod o ganllawiau a deunyddiau i helpu awdurdodau lleol sy'n gweithredu'r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd cenedlaethol.
Cefndir Cynlluniau Sgorio Hylendid Bwyd
Mae’r adran hon yn cynnwys gwybodaeth gefndirol am gyflwyno’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon a’r Cynllun Gwybodaeth am Hylendid Bwyd yn yr Alban, yn ogystal â’r wybodaeth ddiweddaraf am eu gweithredu.
Cwestiynau cyffredin am y sgoriau hylendid bwyd
Cwestiynau am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, a’r Cynllun Gwybodaeth am Hylendid Bwyd yn yr Alban.
Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yng Nghymru
Mae pob un o awdurdodau lleol Cymru wedi penderfynu gweithredu’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd a byddant yn dechrau arddangos sgoriau busnesau yn eu hardal ddechrau 2011.
Cynlluniau sgorio hylendid bwyd 'lleol' yn y DU
Mae nifer o wahanol gynlluniau sgorio hylendid bwyd ‘lleol’ yn dal i fod ar waith mewn rhai ardaloedd yn y DU. Nid yw’r cynlluniau hyn, sydd hefyd yn rhoi gwybodaeth i’r cyhoedd am safonau hylendid mewn safleoedd bwyd, yn rhan o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon nac ychwaith y Cynllun Gwybodaeth am Hylendid Bwyd yn yr Alban.
Grŵp Llywio Cynllun ‘Scores on the Doors’ y DU Gyfan
Sefydlwyd Grŵp Llywio Cynllun ‘Scores on the Doors’ y DU Gyfan i gynghori’r Asiantaeth am ddatblygiad y cynllun cenedlaethol a’r camau i’w weithredu.
Gwerthusiad o'r dull o arddangos y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yng Nghymru
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru wedi comisiynu astudiaeth feintiol ar raddfa fach i ymchwilio i weld a yw busnesau Cymru’n arddangos eu sgoriau hylendid bwyd ar eu safleoedd.
