Deddfwriaeth a chanllawiau ar fwyd anifeiliaid
Mae deddfwriaeth ar fwyd anifeiliaid wedi’i chysoni ar lefel yr Undeb Ewropeaidd (UE). Mae’n ymwneud yn bennaf â bwyd anifeiliaid ar gyfer da byw sy’n cael eu ffermio, ond hefyd yn cynnwys bwyd ar gyfer ceffylau, anifeiliaid anwes, pysgod sy’n cael eu ffermio, anifeiliaid sw a syrcas, a chreaduriaid gwyllt.
Labelu a Chyfansoddiad
Mae deddfwriaeth ar labelu a chyfansoddiad bwyd anifeiliaid yn cynnwys:
- yr wybodaeth a ddarperir i brynwyr ar labeli bwyd anifeiliaid
- yr honiadau maeth a ellir eu gwneud ar gyfer cynhyrchion bwyd anifeiliaid penodol
- yr enwau a’r disgrifiadau i’w defnyddio ar gyfer amrywiol ddeunyddiau bwyd anifeiliaid (h.y. cynhwysion a ddefnyddir ar eu pen eu hunain neu rai sy’n cael eu cynnwys mewn bwyd anifeiliaid cyfansawdd (wedi’u gweithgynhyrchu))
- yr ychwanegion (gan gynnwys fitaminau, lliwyddion, cyflasynnau, asiantau rhwymo) sydd wedi’u hawdurdodi i’w defnyddio mewn bwyd anifeiliaid
- uchafswm y gwahanol halogion (e.e. arsenig, plwm, diocsinau a phlaladdwyr penodol)
- sylweddau penodol na ddylid eu defnyddio mewn bwyd anifeiliaid
Mae’r darpariaethau hyn wedi’u cynnwys yn nifer o fesurau’r UE. Dyma’r prif fesurau:
- Rheoliad 1831/2003 ar ychwanegion i’w defnyddio mewn maeth anifeiliaid
- Cyfarwyddeb 2002/32 ar sylweddau annymunol mewn bwyd anifeiliaid
- Cyfarwyddeb 2008/38 yn sefydlu rhestr o ddibenion bwriedig ar gyfer bwyd anifeiliaid at ddefnydd maethol neilltuol
- Rheoliad 767/2009 ar roi bwyd anifeiliaid ar y farchnad a’i ddefnyddio
Gweithredir y mesurau hyn yng Nghymru gan Reoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cymru) 2010. Mae deddfwriaeth baralel ar wahân ar waith yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Hylendid Bwyd Anifeiliaid
Mae Rheoliad 183/2005 yr UE ar hylendid bwyd anifeiliaid yn nodi bod yn rhaid i’r rhan fwyaf o fusnesau sy’n gwneud, marchnata neu’n defnyddio bwyd anifeiliaid fod wedi’u cofrestru neu eu cymeradwyo. Mae busnesau bwyd anifeiliaid yn y cyd-destun hwn yn cynnwys gweithgynhyrchwyr sy’n gwerthu sgil-gynhyrchion y broses o gynhyrchu bwyd i mewn i’r gadwyn fwyd, ffermwyr da byw a ffermydd âr sy’n tyfu cnydau i’w defnyddio mewn bwyd anifeiliaid. Mae’r rheoliad yn gymwys ym mhob rhan o’r broses o gyflenwi a defnyddio bwyd anifeiliaid, ac yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau bwyd anifeiliaid gydymffurfio â safonau mewn perthynas â chyfleusterau, storio, personél a chadw cofnodion.
Caiff y rheoliadau hyn eu gweithredu yng Nghymru gan Reoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid a Gorfodi) (Cymru) 2005. Mae’r ddeddfwriaeth hon hefyd yn cynnwys agweddau bwyd anifeiliaid ar Reoliad 178/2002 yr UE ar egwyddorion cyffredinol cyfraith bwyd (sy’n cynnwys cyfraith bwyd anifeiliaid), sy’n gwahardd marchnata bwyd anifeiliaid nad yw’n ddiogel ac yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau bwyd anifeiliaid fod â gweithdrefnau olrhain ar waith. Mae deddfwriaeth baralel ar wahân ar waith yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Mesurau eraill
Mae Rheoliad 882/2004 yr UE ar reolaethau bwyd a bwyd anifeiliaid swyddogol yn amlinellu’r egwyddorion i’w dilyn wrth orfodi’r rheolaethau hyn ac yn nodi pa gamau i’w cymryd er mwyn gwirio i ba raddau y mae busnesau yn cydymffurfio â’r rheolau a hefyd y camau i’w cymryd os nad yw busnesau’n cydymffurfio. Caiff y rheoliad hwn ei weithredu yng Nghymru gan Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009. Eto, mae deddfwriaeth baralel ar wahân ar waith yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Mae Rheoliad 152/2009 yr UE ar samplo a dadansoddi yn amlinellu’r dulliau wedi’u cysoni y dylid eu defnyddio ar gyfer ystod o sylweddau sy’n cael eu dadansoddi. Ar gyfer y sylweddau hynny lle nad oes dull wedi’i gysoni ar lefel yr UE, mae labordai yn rhydd i ddefnyddio unrhyw weithdrefn a fydd yn rhoi canlyniad gwyddonol dilys. Caiff y ddarpariaeth ar gyfer gweinyddu’r Rheoliad yng Nghymru ei gwneud gan Reoliadau Bwyd Anifeiliaid (Samplu a Dadansoddi a Sylweddau Annymunol Penodedig) (Cymru) 2010. Mae’r rhan o’r mesur a oedd yn ymwneud â sylweddau annymunol bellach wedi’i ddirymu. Eto, mae deddfwriaeth baralel ar wahân ar waith yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) sy’n gyfrifol am fesurau bwyd anifeiliaid sy’n ymwneud â rheoli clefydau anifeiliaid, gan gynnwys enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy (TSE) a’r defnydd o sgil-gynhyrchion anifeiliaid. Fodd bynnag, mae’r Asiantaeth yn parhau i gadw llygad barcud ar faterion.
Gwybodaeth arall
Gall deunyddiau bwyd anifeiliaid a gaiff eu mewnforio i’r DU gynnwys peth cynhwysion a addaswyd yn enetig (GM) neu gynhwysion sy’n deillio o ddeunydd a addaswyd yn enetig . Mae rhagor o wybodaeth am bresenoldeb deunydd a addaswyd yn enetig ar gael ar wefan yr Asiantaeth.
Mae nodyn cefndirol i ddefnyddwyr a allai fod â diddordeb yn y bwyd a roddir i dda byw fferm ar gael. Mae’r nodyn hwn yn crynhoi categorïau’r bwydydd anifeiliaid a ddefnyddir amlaf a deiet nodweddiadol y prif rywogaethau da byw a ffermir yn y DU (gwartheg, defaid, moch, dofednod a physgod).
Mae’r Asiantaeth yn mynd ati i ymgynghori â rhanddeiliaid tra bo mesurau yn cael eu trafod yn y Comisiwn Ewropeaidd, ac eto wedi hynny wrth ddarparu ar gyfer y mesurau hyn mewn cyfraith gwlad.
Caiff yr Asiantaeth ei chynghori gan y Pwyllgor Cynghori ar Fwydydd Anifeiliaid, corff annibynnol sy’n darparu cyngor ar ddiogelwch / y defnydd o fwyd anifeiliaid ac arferion bwydo, gyda phwyslais ar ddiogelu iechyd pobl. Mae rhagor o wybodaeth am y pwyllgor a’i waith ar gael ar wefan y pwyllgor.
Drwy gyfrwng ei Swyddfa Bwyd a Milfeddygaeth, mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn cynnal archwiliadau mewn Aelod-wladwriaethau i sicrhau bod deddfwriaeth yn cael ei gorfodi yn gywir. Gall yr arolygiadau hyn gynnwys deddfwriaeth bwyd anifeiliaid.
