Ffermwyr a thyfwyr
Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn gyfrifol am wella diogelwch bwyd ar hyd a lled y gadwyn fwyd. Mae hyn yn cynnwys gwella hylendid ar y fferm a sicrhau nad yw iechyd pobl yn cael ei beryglu heb fod angen o ganlyniad i'r bwyd a roddir i anifeiliaid.
Deddfwriaeth hylendid bwyd
O 1 Ionawr 2006, mae deddfwriaeth hylendid bwyd wedi bod yn berthnasol i ffermwyr, tyfwyr a chynhyrchwyr eraill, a hynny am y tro cyntaf mewn nifer o achosion, fel rhan o'r ymrwymiad i sicrhau diogelwch bwyd 'o'r fferm i'r fforc'.
Find out more
Bwyd anifeiliaid
Mae bwyd anifeiliaid yn chwarae rhan bwysig yn y gadwyn fwyd ac mae ganddo oblygiadau o ran cyfansoddiad ac ansawdd cynhyrchion da byw (llaeth, cig a wyau) y mae pobl yn eu bwyta. Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn gyfrifol am lunio'r rheolau ar gyfansoddiad a marchnata bwyd anifeiliaid.
