Gwybodaeth am y Gadwyn Fwyd ar gyfer dofednod
Monday 28 June 2010
Ers mis Ionawr 2006, mae’n ofynnol bod Gwybodaeth am y Gadwyn Fwyd (FCI) yn cael ei darparu ar gyfer dofednod i’w bwyta gan bobl.
Mae’r wybodaeth y mae’n rhaid i’r gweithredwr busnes bwyd sy’n magu anifeiliaid (ffermwr neu gynhyrchydd) ei chyflenwi o leiaf 24 awr cyn i’r dofednod gyrraedd y lladd-dy wedi’i chynnwys yn y ffurflen ‘Dofednod FCI’ (PFCI).
Mae’r ffurflen hon wedi’i diwygio i adlewyrchu rheolau newydd sy’n cael eu cyflwyno ar gyfer cadw ieir bwyta (Cyfarwyddeb Brwyliaid UE (2007/43/EC)) a phrofi am Salmonela mewn dofednod (Rheoliad (CE) Rhif 2160/2003).
Lawrlwytho Adobe Acrobatefallai bod angen Acrobat Reader arnoch i weld pdf
