Canllawiau'r Asiantaeth Safonau Bwyd
Mae'r Asiantaeth yn cyhoeddi canllawiau i gynrychiolwyr y diwydiant bwyd a rhanddeiliaid eraill yn rheolaidd, a hynny ar amrywiaeth o bynciau. Yn aml, mae hyn o ganlyniad i reoliadau newydd yn dod i rym.
Find out more
Canllaw cyflym i siocled
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi creu canllaw cyflym i'r Rheoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled 2003 (CCPR).
Canllawiau ar Labelu
Nodiadau canllaw ar reoliadau labelu bwyd, gan gynnwys labelu alergenau, ar gyfer busnesau.
Canllawiau ar ddefnyddio labeli dyddiad ar fwyd
Dylai nodau dyddiad ar gynhyrchion bwyd helpu defnyddwyr i ddefnyddio’r bwyd y maent yn ei brynu yn y ffordd orau a mwyaf diogel posibl.
Canllawiau ar gyfer Gweithredwyr Busnesau Bwyd Anifeiliaid a Bwyd ar ddarpariaethau mewnforio bwyd anifeiliaid a bwyd nad yw'n dod o anifeiliaid ag iddo risg hysbys neu risg sy'n dod i'r amlwg
Mae'r canllawiau hyn ar gyfer gweithredwyr busnesau bwyd a bwyd anifeiliaid sy'n mewnforio bwyd anifeiliaid a/neu fwyd nad yw'n dod o anifeiliaid ag iddo risg hysbys neu risg sy'n dod i'r amlwg. Mae'n darparu gwybodaeth am y lefel gynyddol o reolaethau ar fewnforion o rai mathau o fwyd anifeiliaid a bwyd nad ydynt yn dod o anifeiliaid er mwyn cynorthwyo cydymffurfiaeth.
Canllawiau ar jam
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi cyhoeddi canllaw cyflym ar Reoliadau Jam a Chynhyrchion Tebyg 2003.
Canllawiau ar wybodaeth am y gadwyn fwyd (FCI) ar gyfer gwartheg / lloi, defaid a geifr
Er 1 Ionawr 2010, mae’n ofynnol yn ôl deddfwriaeth hylendid bwyd yr UE i weithredwyr lladd-dai ‘geisio, derbyn, gwirio a gweithredu ar’ wybodaeth am y gadwyn fwyd (FCI) ar gyfer yr holl wartheg, defaid a geifr sy’n cael eu hanfon i’w lladd er mwyn i bobl eu bwyta.
E. coli O157: rheoli croeshalogi
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer busnesau bwyd i egluro’r camau y mae angen iddynt eu cymryd i reoli'r risg o halogi bwyd gan E. coli O157 a beth y dylent ei wneud i ddiogelu eu cwsmeriaid.
Gorfodi gofynion deddfwriaethol o ran nifer y dyddiau rhwng lladd a briwio cig wedi’i oeri
Canllawiau i reolwyr swyddogol a swyddogion gorfodi yn yr ASB ac yn yr ALlau ar Orfodi Gofynion Deddfwriaethol o ran nifer y diwrnodau rhwng lladd a briwio cig wedi’i oeri (mincing of chilled meat).
Gwybodaeth am y Gadwyn Fwyd ar gyfer dofednod
Ers mis Ionawr 2006, mae’n ofynnol bod Gwybodaeth am y Gadwyn Fwyd (FCI) yn cael ei darparu ar gyfer dofednod i’w bwyta gan bobl.
Rheoliad yr UE ar Reolaethau Bwyd Anifeiliaid a Bwyd Swyddogol: Canllawiau ar gyfer awdurdodau gorfodi
Nodiadau Cwestiwn ac Ateb ar gyfer awdurdodau gorfodi ar reoliad newyd yr UE ar reolaethau bwyd Anifeiliaid a bwyd swyddogol (882/2004).
Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau 2003 - Nodiadau Canllaw
Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau 2003
