Bwrdd Safonau Gwin
Mae’r Asiantaeth am sicrhau bod rheoliadau gwin yr UE yn cael eu gorfodi yn y DU. Mae hefyd yn cynnal Cofrestrfa Gwinllannoedd y DU.
Mae ein cyfrifoldebau gorfodi yn berthnasol i’r holl safleoedd a masnachwyr yn y gadwyn farchnata a chynhyrchu, gan gynnwys cyfanwerthwyr, warysau a gwinllannoedd. Mae safleoedd manwerthu (retail premises) yn dod o dan reolaeth Safonau Masnach Awdurdodau Lleol, yn yr un modd â gofynion cyfraith drwyddedu 2005 (mae rhagor o fanylion am drwyddedu ar gael ar wefan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon).
Mae Cofrestrfa Gwinllannoedd y DU yn cofnodi’r ardal sydd wedi’i gorchuddio gan winllannoedd a chynhaeaf flynyddol tyfwyr a chynhyrchwyr.
Ein amcanion
- annog tyfwyr a masnachwyr i gydymffurfio â chyfreithiau gwin drwy gynnig cyngor ac addysg
- cynnal rhaglen o arolygon gan ddadansoddi risg er mwyn cyflwyno gwasanaeth cost-effeithiol wedi’i dargedu
- nodi tor-cyfraith a chasglu tystiolaeth er mwyn dwyn achosion cyfreithiol pan fo angen
- cydweithio’n agos â chyrff rheoleiddiol eraill
Cysylltwch â ni
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â John Boodle:
Food Standards Agency
Wine Standards
Enforcement and Local Authority Delivery Division
125 Kingsway
London
WC2B 6NH
E-bost: John.Boodle@foodstandards.gsi.gov.uk
Ffôn: 0207 276 8351
