Y Diwydiant Bwyd
Mae'r Asiantaeth yn ymwneud â'r diwydiant bwyd cyfan – o ffermio, cynhyrchu a dosbarthu bwyd, i fanwerthu ac arlwyo. Mae'r Asiantaeth yn gweithredu ar hylendid bwyd ym mhob cam o'r gadwyn, gan ddarparu gwybodaeth a chanllawiau ar arferion gorau a gofynion cyfreithiol.
Find out more
Bwrdd Safonau Gwin
Mae’r Asiantaeth am sicrhau bod rheoliadau gwin yr UE yn cael eu gorfodi yn y DU. Mae hefyd yn cynnal Cofrestrfa Gwinllannoedd y DU.
Canllawiau'r Asiantaeth Safonau Bwyd
Mae'r Asiantaeth yn cyhoeddi canllawiau i gynrychiolwyr y diwydiant bwyd a rhanddeiliaid eraill yn rheolaidd, a hynny ar amrywiaeth o bynciau. Yn aml, mae hyn o ganlyniad i reoliadau newydd yn dod i rym.
Canllawiau: Cymru
Nodiadau Cyfarwyddyd ar gyfer Rheoliadau yng Nghymru.
Cig a hylendid cig
Mae'r adran hon yn ymwneud â'r diwydiannau cynhyrchu a phrosesu cig. Yma cewch ddysgu mwy am y prosesau trwyddedu, arolygu ac adrodd sy'n llywodraethu'r diwydiannau hyn.
Cynllun Rheoli Cenedlaethol y Deyrnas Unedig
Mae Cynllun Rheoli Cenedlaethol y Deyrnas Unedig yn disgrifio rolau a chyfrifoldebau’r awdurdodau gwahanol a chyrff cysylltiedig sy'n ymwneud â monitro cydymffurfiaeth â chyfreithiau bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau iechyd a lles anifeiliaid a gofynion iechyd planhigion, a’r modd y cânt eu gorfodi.
Ffermwyr a thyfwyr
Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn gyfrifol am wella diogelwch bwyd ar hyd a lled y gadwyn fwyd. Mae hyn yn cynnwys gwella hylendid ar y fferm a sicrhau nad yw iechyd pobl yn cael ei beryglu heb fod angen o ganlyniad i'r bwyd a roddir i anifeiliaid.
Systemau rheoli diogelwch bwyd sy’n seiliedig ar HACCP
Mae system HACCP (Dadansoddi Peryglon a Phwynt Rheoli Critigol) yn helpu gweithredwyr busnesau bwyd i edrych ar y ffordd y maent yn trin bwyd. Mae’n cyflwyno gweithdrefnau i wneud yn siŵr bod y bwyd a gynhyrchir ganddynt yn ddiogel i’w fwyta.
