Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell i Warchodwyr Plant
Mae diogelwch bwyd yn bwysig iawn i warchodwyr plant, megis gofalwyr plant, gan fod plant yn grŵp sy’n agored i niwed, sy’n golygu bod gwenwyn bwyd yn llawer mwy difrifol iddyn nhw o’i gymharu ag oedolion.
Ers 2006, mae gofyn i lawer o warchodwyr plant gydymffurfio â rheoliadau hylendid bwyd. Mae’r rheoliadau yn nodi bod gofyn iddynt gadw cofnod o beth maent yn ei wneud i gadw bwyd yn ddiogel. Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi cynhyrchu pecyn arbennig o’r enw ‘Bwyd mwy diogel, busnes gwell i warchodwyr plant’, sy’n galluogi gwarchodwyr plant i wneud hyn gyda chyn lleied o waith papur â phosibl.
Bydd gofyn hefyd i’r gwarchodwyr plant hynny y mae’n rhaid iddynt gydymffurfio â’r rheoliadau hyn gofrestru fel ‘gweithredwr busnes bwyd’ gyda’u hawdurdod lleol. Nid yw’r rheoliadau hyn yn gymwys i bob gwarchodwr plant - mae’n dibynnu ar p’un a ydynt yn darparu byrbrydau neu brydau i’r plant yn eu gofal yn rheolaidd. Mae’r Asiantaeth wedi cynhyrchu canllawiau ar gyfer gofalwyr plant, sy’n esbonio sut y mae dweud a yw’n ofynnol iddynt gydymffurfio â’r rheoliadau ai peidio. Mae'r rhain ar gael i'w lawrlwytho isod.
Mae'r pecyn wrthi'n cael ei ddiwygio ar hyn o bryd, a bydd copïau print newydd sbon ar gael o fis Mawrth 2010 ymlaen. Os hoffech gael copi o'r pecyn neu'r DVD, ffoniwch Cyhoeddiadau'r ASB ar 0845 606 0667 neu anfonwch e-bost at foodstandards@ecgroup.co.uk.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ddiogelwch bwyd, neu ph’un a yw ‘Bwyd mwy diogel, busnes gwell i warchodwyr plant’ yn addas i chi, cysylltwch â gwasanaeth iechyd yr amgylchedd eich awdurdod lleol am gyngor.
