Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell i Arlwywyr
Nod y pecyn hwn yw helpu busnesau i reoli diogelwch bwyd. Mae wedi'i ddatblygu ar gyfer busnesau arlwyo bach, fel bwytai, caffis a busnesau tecawê er mwyn eu helpu i gydymffurfio â'r rheoliadau hylendid bwyd a gafodd eu cyflwyno ym mis Ionawr 2006.
Bwyd mwy Diogel, Busnes Gwell
Gallwch lawrlwytho'r pecyn cyfan ar fformat pdf, a hynny drwy'r ddolen isod. Er mai un dogfen sydd i'w gweld yma, mae'r pecyn wedi'i rannu'n adrannau defnyddiol - ac mae teitlau'r adrannau wedi'u nodi isod.
Mae canllaw DVD hefyd ar gael i'ch helpu i ddefnyddio'r pecyn a hyfforddi eich staff, ac mae'r DVD hwn ar gael mewn 16 o wahanol ieithoedd, gan gynnwys y Gymraeg. Mae'r DVD wedi'i rannu ddwy - un rhan i staff a'r llall i reolwyr, a bydd y naill ran a'r llall yn para rhyw 15 munud. Gallwch ei wylio ar-lein drwy food.gov.uk/sfbbtraining neu gallwch lawrlwytho copi i'ch cyfrifiadur.
Rydym newydd orffen diwygio'r pecyn hwn ac mae copïau print newydd sbon bellach ar gael. Os hoffech gael copi o'r pecyn neu'r DVD, ffoniwch Cyhoeddiadau'r ASB ar 0845 606 0667 neu anfonwch e-bost at foodstandards@ecgroup.co.uk.
Os hoffech drafod y mater yn Gymraeg, mae croeso i chi gysylltu â'r Uned Iaith Gymraeg drwy ffonio 02920 67 8970 neu e-bostio welsh.translation@foodstandards.gsi.gov.uk
Gallwch archebu tudalennau ychwanegol ar gyfer y dyddiadur oddi wrth Cyhoeddiadau'r ASB, ar y manylion uchod. Dylech gadw'r holl dudalennau yr ydych wedi'u llenwi yn ddiogel ar gyfer ymweliadau swyddog gorfodi eich awdurdod lleol. Mae'n bosibl y bydd y swyddog am weld y tudalennau hyn. Yn ystod yr ymweliad, gofynnwch i'r swyddog am ba hyd y mae angen i chi gadw'r tudalennau hyn.
Mwy am y pecyn
‘'Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell'’
Mae'r pecyn hwn wedi'i ddatblygu gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, gan weithio gyda busnesau arlwywyr. Y nod yw bod y pecyn yn ymarferol ac yn hawdd ei ddefnyddio, gan eich helpu i:
- gydymffurfio â rheoliadau hylendid bwyd
- dangos beth ydych chi'n ei wneud i baratoi bwyd yn ddiogel
- hyfforddi staff
- diogelu enw eich busnes
- gwella eich busnes, er enghraifft, drwy wastraffu llai o fwyd.
Bydd PDF o'r pecyn hwn ar gael ar y dudalen hon yn fuan.

Croeshalogi
Glanhau
Oeri
Rheoli
Coginio a pharatoi
Dyddiadur