Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell i Gartrefi Gofal
Rydym wedi creu atodiad Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell (SFBB) i helpu arlwywyr a staff sy'n gweithio mewn cartrefi gofal bach i baratoi a choginio bwyd mwy diogel i'r bobl sy'n byw yno.
Nid yw'r pecyn hwn yn addas i'w ddefnyddio mewn cartrefi nyrsio, gan fod angen rhoi gweithdrefnau diogelwch bwyd eraill ar waith yn y mannau hynny, er enghraifft polisi rheoli heintiau cynhwysfawr. Nid yw SFBB yn trafod y rhain. Dylid defnyddio'r atodiad hwn gyda'r pecyn SFBB i arwlywyr. Nid yw'r atodiad yn cynnig system rheoli diogelwch bwyd gyfan, ond mae yn awgrymu tri dull diogel ychwanegol sy'n berthnasol i gartrefi gofal:
- gofal ychwanegol: diogelu bwyd
- rhoddion bwyd
- ceginau bach
Mae hefyd yn cynnwys 'cofnod cwblhau dull diogel' i gartrefi gofal sy'n cynnwys dulliau diogel ychwanegol.
Mae pecyn i gartrefi gofal a'r pecyn i arlwywyr wrthi'n cael eu diwygio ar hyn o bryd, a bydd copïau print newydd sbon ar gael o fis Mawrth 2010 ymlaen. Os hoffech gael copïau o'r pecynnau neu'r DVD, ffoniwch Cyhoeddiadau'r ASB ar 0845 606 0667 neu anfonwch e-bost at foodstandards@ecgroup.co.uk.
Gallwch hefyd lawrlwytho copi o'r atodiad drwy'r ddolen ar waelod y dudalen hon.
