Gair i gall am goginio eich cinio Nadolig
Yn ystod y tymor hwn o ewyllys da, un anrheg nad ydych am ei roi i’ch teulu a’ch ffrindiau yw gwenwyn bwyd. Dilynwch ein canllawiau ar gyfer paratoi a choginio’ch pryd yn ddiogel, a bydd eich cinio Nadolig yn un i’w gofio – a hynny am y rhesymau iawn.
Yn gyntaf, dewiswch eich aderyn
Bydd nifer y bobl a fydd yn bwyta’r twrci a faint o gig yr hoffech ei gael dros ben yn ffactorau i’w hystyried wrth ddewis pa fath o dwrci y byddwch yn ei brynu. Gallwch ddewis twrci cyfan, coron twrci, cefnddryll twrci (saddle of turkey) neu dwrci wedi ei stwffio ymlaen llaw. Fel canllaw, mae twrci sy’n pwyso 6-8 bwys (3-3.5 cilogram) yn dwrci o faint da i deulu cyffredin.
Ar ôl i chi ei brynu, dylech storio eich twrci’n ddiogel cyn ei goginio. Mae’r rhan fwyaf o fanwerthwyr yn rhoi cyfarwyddiadau storio – cofiwch ddilyn y rhain. Fel arfer mae dyddiad ‘defnyddio erbyn’ ar y deunydd pecynnu os bydd y twrci wedi ei lapio. Os nad oes cyfarwyddiadau, dylid cadw twrci amrwd ffres neu dwrci amrwd wedi’i ddadmer yn yr oergell a’i goginio o fewn 2 ddiwrnod.
Dadmer didrafferth
Rhaid dadmer twrci ffres yn drylwyr cyn ei goginio. Os bydd rhannau ohono yn dal i fod wedi rhewi, efallai na fydd yn coginio’n iawn a gallai bacteria niweidiol oroesi’r broses goginio. Cyfrifwch ymlaen llaw faint o amser y bydd yn ei gymryd i’r twrci ddadmer, oherwydd gall adar mawr gymryd diwrnod neu ddau i ddadmer yn iawn. Darllenwch y deunydd pecynnu i weld a oes canllawiau.
Os nad oes canllawiau ar gael, mae’r awgrymiadau canlynol yn rhoi syniad bras i chi faint o amser y bydd eich twrci’n ei gymryd i ddadmer:
- Mewn oergell ar 4ºC (39ºF), caniatewch 10 i 12 awr fesul cilogram. Cofiwch na fydd pob oergell ar y tymheredd hwn.
- Mewn ystafell oer (gyda thymheredd is na 17.5ºC, 64ºF), dylech ganiatáu oddeutu dair neu bedair awr fesul cilogram, neu fwy os bydd yr ystafell yn oer iawn.
- Ar dymheredd ystafell (tua 20ºC, 68ºF) dylech ganiatáu oddeutu dwy awr fesul cilogram.
Dylech gael gwared ar y syrth (giblets) a’r gwddf (os ydynt yn bresennol) cyn gynted â phosibl er mwyn cyflymu’r broses ddadmer. Golchwch ei dwylo’n drylwyr ar ôl trin yr aderyn amrwd, y syrth (giblets), y deunydd pecynnu neu unrhyw gig amrwd arall.
Pan fyddwch yn dechrau dadmer y twrci, rhowch yr aderyn mewn dysgl fawr a gorchuddio’r cyfan. Bydd y ddysgl yn dal yr hylif a ddaw o’r twrci wrth iddo ddadmer, ac yn ei atal rhag diferu ar fwydydd eraill. Mae gorchuddio’r twrci’n sicrhau nad yw’n croeshalogi unrhyw fwydydd eraill, yn arbennig bwyd a allai gael ei fwyta’n amrwd. Defnyddiwch ffoil, cling ffilm neu ddeunydd arall sydd wedi’i fwriadu i’w ddefnyddio gyda bwyd.
Rhowch y twrci wedi’i orchuddio a’r ddysgl yn yr oergell. Gwnewch yn siŵr nad yw’n cyffwrdd â bwydydd eraill neu’n diferu arnynt. Os nad yw’n bosibl dadmer eich twrci yn yr oergell, defnyddiwch le oer a glân neu garej – byddwch yn wyliadwrus o newidiadau eithafol yn y tymheredd a gwnewch yn siŵr bod anifeiliaid anwes a phlant bach yn cadw draw. Cofiwch y bydd tymheredd y lle y bydd y twrci’n cael ei gadw yn effeithio ar yr amseroedd dadmer.
Dylech gael gwared ar yr hylif sy’n dod o’r twrci wrth iddo ddadmer yn rheolaidd er mwyn ei atal rhag gorlifo a lledaenu bacteria. Ceisiwch atal diferion o’r hylif rhag tasgu ar arwynebau gwaith, dysglau, cadachau neu fwyd arall. Rhowch fforc yn y rhan fwyaf trwchus o’r cig er mwyn gwirio a yw wedi dadmer, ac edrychwch i weld a oes crisialau iâ y tu mewn i’r twrci.
Peidiwch â golchi’r twrci, nac unrhyw fath o aderyn, cyn ei goginio. Gallai’r diferion bach a fydd yn tasgu o ganlyniad i olchi’r cig amrwd, yn arbennig dan ddŵr tap, ledaenu bacteria i arwynebau gwaith a bwydydd eraill, ac arwain at groeshalogi. Caiff unrhyw germau a allai fod yn bresennol ar yr aderyn eu lladd os byddwch yn coginio eich twrci’n iawn.
Pan fydd wedi dadmer yn llwyr, rhowch y twrci yn yr oergell nes y byddwch yn barod i’w goginio. Peidiwch â’i adael am fwy na 2 ddiwrnod heb ei goginio. Os nad yw hyn yn bosibl, dylech ei goginio ar unwaith.
Coginio’n ofalus
Cynlluniwch eich amser coginio ymlaen llaw. Gall twrci mawr gymryd oriau i’w goginio’n iawn, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi’r aderyn yn y popty neu’r ffwrn yn ddigon cynnar. Gall bwyta twrci (neu unrhyw ddofednod eraill) sydd heb ei goginio’n iawn achosi gwenwyn bwyd.
Er mwyn cyfrifo’r amser coginio, edrychwch ar y cyfarwyddiadau ar y deunydd pecynnu. Os nad oes cyfarwyddiadau, defnyddiwch ein canllawiau cyffredinol.
Mewn popty neu ffwrn wedi ei gynhesu ymlaen llaw i 180ºC (350ºF, Marc Nwy 4):
- Caniatewch 45 munud fesul cilogram ac 20 munud ychwanegol ar gyfer twrci dan 4.5 cilogram.
- Caniatewch 40 munud fesul cilogram ar gyfer twrci rhwng 4.5 cilogram a 6.5 cilogram.
- Caniatewch 35 munud fesul cilogram ar gyfer twrci sy’n pwyso mwy na 6.5 cilogram.
Coginio eich gŵydd
Mae angen coginio adar eraill, fel gŵydd a hwyaden, am amseroedd gwahanol ac ar dymheredd gwahanol. Dylai’r popty neu’r ffwrn fod yn boethach ar gyfer hwyaden a gŵydd er mwyn toddi’r braster dan y croen.
- Dylech goginio gŵydd mewn popty neu ffwrn wedi’i gynhesu ymlaen llaw i 200°C/425°F/Marc Nwy 7 am 35 munud fesul cilogram
- Dylech goginio hwyaden mewn popty neu ffwrn wedi’i gynhesu ymlaen llaw am 45 munud fesul cilogram ar 200°C/400°F/Marc Nwy 6
- Dylech goginio cyw iâr mewn popty neu ffwrn wedi’i gynhesu ymlaen llaw i 180ºC/350ºF/Marc Nwy 4 am 45 munud fesul cilogram ac 20 munud ychwanegol
Mae’r amseroedd coginio hyn yn seiliedig ar aderyn heb ei stwffio. Os byddwch yn coginio aderyn gyda stwffin ynddo, mae angen i chi ganiatáu amser ychwanegol ar gyfer y stwffin i ystyried y ffaith y bydd yr aderyn yn coginio’n arafach.
Gall rhai poptai â chymorth ffan goginio’r twrci’n gyflymach. Dilynwch y canllawiau ar y deunydd pecynnu a llawlyfr y gweithgynhyrchwr ar gyfer eich popty neu ffwrn.
Y ffordd hawsaf o wybod a yw’r aderyn yn barod yw gwirio ei fod yn chwilboeth drwyddo, a phan fyddwch yn torri’r rhan fwyaf trwchus o’r cig, nad oes unrhyw rannau pinc a bod yr hylif yn glir pan fyddwch yn rhoi sgiwer yn y cig neu’n pwyso clun y twrci.
Fel arall, gallwch wirio’r rhan fwyaf trwchus (rhwng y frest a’r glun) gyda phrôb tymheredd/thermomedr bwyd. Dylai’r cig gyrraedd tymheredd o 70°C am 2 funud (gweler yr adran ‘Thermomedrau a phrobau’ isod).
Dylid coginio coron twrci (aderyn cyfan heb y coesau), twrci heb esgyrn neu fathau eraill o dwrci yn yr un ffordd yn union â thwrci cyfan. Fodd bynnag, dylech ddilyn y canllawiau a roddir gan y manwerthwr y prynoch y twrci oddi wrtho.
Thermomedrau a phrobau
Gallwch ddefnyddio prôb tymheredd neu thermomedr bwyd i wirio tymheredd mewnol y cig y bryd i’w gilydd tra bydd yr aderyn yn coginio. Dylech lanhau’r prôb mewn dŵr poeth a sebon ar ôl ei ddefnyddio i osgoi lledaenu germau.
Dylech sicrhau bod rhan fwyaf trwchus yr aderyn (rhwng y frest a’r glun) yn cyrraedd o leiaf 70°C am fwy na 2 funud.
Fel arfer caiff thermomedr coginio ei adael yn yr aderyn tra bydd yn coginio. Dylid ei roi yn y rhan fwyaf trwchus o’r aderyn (rhwng y frest a’r glun) o ddechrau’r amser coginio. Bydd yr aderyn yn barod pan fydd y thermomedr wedi cyrraedd 70°C am fwy na 2 funud.
Mae dyfeisiau amseru ‘pop-up’ yn dangos pan fydd yr aderyn wedi’i goginio’n drylwyr. Pan fydd y dangosydd (sy’n goch fel arfer) yn neidio i fyny, bydd yr aderyn wedi’i goginio’n drylwyr. Efallai yr hoffech gadarnhau hyn drwy edrych ar yr aderyn i sicrhau nad oes unrhyw gig pinc yn y rhan fwyaf trwchus a bod yr hylif yn glir pan fyddwch yn tyllu neu’n pwyso’r glun.
Cynllunio ymlaen llaw
Gallwch goginio eich twrci’n drylwyr ymlaen llaw a’i gadw tan eich bod yn barod i’w ailgynhesu a’i fwyta – gallwch ei gadw yn yr oergell am hyd at 2 ddiwrnod neu ei rewi.
Er mwyn ei gadw yn yr oergell, sicrhewch fod y twrci wedi’i goginio’n drylwyr nes ei fod yn chwilboeth, ac nad oes unrhyw rannau pinc a bod yr hylif yn glir. Yna dylech ei oeri, ei orchuddio, a’i roi yn yr oergell o fewn awr neu ddwy ar ôl ei goginio; gallwch ei gerfio er mwyn helpu iddo oeri’n gyflymach. Yna gallwch ei drin fel cig ffres a’i fwyta o fewn 2 ddiwrnod i chi ei goginio.
Os byddwch yn coginio twrci fwy na 2 ddiwrnod ymlaen llaw, dylech rewi’r cig ar ôl ei goginio. Unwaith eto, dylech ei goginio, ei oeri a’i roi yn y rhewgell o fewn awr neu ddwy ar ôl ei goginio. Gellir rhewi’r cig yn ddiogel am rai misoedd, ond gallai’r ansawdd ddirywio gydag amser.
Defnyddio cig sydd dros ben
Gellir cadw cig dros ben yn yr oergell am hyd at 2 ddiwrnod. Os oes llawer o fwyd dros ben gallwch ei rannu’n ddognau cyn ei storio yn yr oergell neu’r rhewgell.
Gellir gweini cig dros ben o’r oergell yn oer, yn boeth neu ei ddefnyddio i wneud pryd newydd. Os byddwch yn gweini twrci’n oer, cymerwch yr hyn yr ydych yn bwriadu ei ddefnyddio a gadewch y gweddill yn yr oergell. Os byddwch yn gweini’r twrci’n boeth, dylech ai ailgynhesu (peidiwch â’i ailgynhesu fwy nag unwaith) tan fod y cyfan yn chwilboeth.
Er mwyn defnyddio twrci dros ben wedi’i rewi, gwnewch yn siŵr ei fod wedi’i ddadmer yn drylwyr yn yr oergell dros nos neu mewn micro-don ar yr opsiwn ‘dadmer’. Os ydych chi’n bwriadu ei fwyta’n boeth, dylech ei ailgynhesu tan fod y cyfan yn chwilboeth.
Llysiau: peidiwch â’u bwyta heb eu golchi
Diogelwch yn gyntaf
Gall bacteria ledaenu o gig amrwd, dofednod a llysiau i arwynebau gwaith, byrddau torri ac ati. Er mwyn sicrhau bod eich cinio Nadolig yn ddiogel, cofiwch y canlynol:
- Golchwch eich dwylo’n drylwyr cyn trin bwyd amrwd, gan gynnwys cig a llysiau amrwd. Golchwch ei dwylo gyda dŵr cynnes a sebon, a’u sychu’n drylwyr.
- Peidiwch â golchi eich twrci (na dofednod eraill) cyn ei goginio. Drwy wneud hyn, gall facteria dasgu ar arwynebau gwaith, dysglau a bwydydd eraill. Bydd coginio’r cig yn gywir yn lladd unrhyw facteria.
- Gwiriwch y label ar ffrwythau a llysiau sydd wedi’u pecynnu ymlaen llaw. Oni bai bod y geiriau ‘barod i’w fwyta’ ar y pecyn, rhaid i chi olchi, plicio neu goginio’r cynnyrch cyn ei fwyta.
Nid dim ond twrci heb ei goginio’n gywir all achosi problemau adeg y Nadolig. Mae angen cymryd gofal gyda ffrwythau a llysiau hefyd. Er nad oes cymaint o risg yn gysylltiedig â’r bwydydd hyn o’i gymharu â chig amrwd, gallant gynnwys bacteria newidiol sy’n gallu lledaenu ar arwynebau ac i fwydydd eraill, gan achosi gwenwyn bwyd.
Mae golchi llysiau’n iawn yn helpu i gael gwared ar facteria oddi ar yr wyneb, gan y bydd y rhan fwyaf o’r bacteria yn y pridd sydd ar y cynnyrch. Gall plicio neu goginio ffrwythau a llysiau gael gwared ar facteria hefyd.
Mae mwy o bridd yn dueddol o fod ar gynnyrch rhydd o gymharu â ffrwythau a llysiau wedi’u pecynnu ymlaen llaw. Wrth baratoi llysiau ar gyfer eich cinio Nadolig, fel pannas, moron a thatws, dylech gael gwared ar unrhyw bridd sych cyn eu golchi. Gallai hyn helpu i leihau’r gwaith golchi y bydd ei angen er mwyn glanhau’r llysiau’n drylwyr.
Dechreuwch gyda’r eitemau glanaf i ddechrau. Peidiwch â’u dal o dan y tap - dylech eu rhwbio mewn dŵr, er enghraifft mewn powlen o ddŵr ffres. Mae hyn yn helpu i atal dŵr rhag tasgu a rhyddhau bacteria i’r awyr. A chofiwch eu golchi unwaith eto cyn eu coginio.
