Pobl sy'n trin bwyd: digon iach i weithio?
Mae pobl sy’n gweithio gyda bwyd tra’u bod yn ddioddef o heintiau penodol (yn bennaf yn sgil bacteria neu feirysau) yn gallu halogi bwyd neu arwynebau y gallai’r bwyd dod i gysylltiad â hwy. Mae’r Asiantaeth wedi cyhoeddi canllawiau diwygiedig ‘Pobl sy’n trin bwyd: Digon iach i weithio?’ i helpu i atal heintiau rhag lledu i bobl eraill drwy fwyd.
Nod y canllawiau yw helpu rheolwyr a staff i atal heintiau rhag lledaenu drwy gynghori ar ba afiechydon a symptomau y dylai staff roi gwybod amdanynt, a beth y dylai rheolwyr wneud mewn ymateb i hynny.
Gellir dod o hyd i’r canllawiau isod.
