Adnoddau'r Wythnos Diogelwch Bwyd
Rydym wedi cynhyrchu amrywiaeth eang o adnoddau i'w defnyddio mewn digwyddiadau'r Wythnos Diogelwch Bwyd.
Mae'r deunyddiau hyn yn cynnwys taflenni, posteri a llyfrynnau i ysgolion. Mae'r adnoddau ar gael drwy gydol y flwyddyn, ac nid ar gyfer yr Wythnos Diogelwch Bwyd yn unig. Felly, os ydych chi'n bwriadu trefnu digwyddiad i hyrwyddo hylendid bwyd da, mae croeso i chi archebu taflenni a phosteri ac ati i'ch helpu i wneud hynny.
Adnoddau Addysgol (i’w lawrlwytho yn unig)
Gellir lawrlwytho taflenni gweithgareddau a phecynnau athrawon isod. Mae modd eu defnyddio i addysgu plant am hylendid bwyd da a helpu athrawon i ymgorffori negeseuon diogelwch bwyd yn rhan o gwricwlwm yr ysgol:
- Chwilair GwylioGermau – cyfle i chwilio am eiriau yn ymwneud â hylendid
- Germ-wledd - ble mae'r germ yn cuddio ar y law fudr?
- Taflen liwio– dewch i gyfarfod Sglyfyn - a lliwio ei lun mewn llawer o liwiau afiach!
- Pecyn addysgu a dysgu ysgolion cynradd (hefyd ar gael gan Gyhoeddiadau'r ASB)
Pwy yw Sglyfyn?
Sglyfyn yw prif gymeriad yr ymgyrch 'GwylioGermau'. Mae wrth ei fodd gydag arferion bwyd anhylan ac yn hapus dros ben pan fydd rhywun mewn perygl o gael gwenwyn bwyd. Does dim yn ei wneud yn hapusach na phan fydd pobl yn lledaenu germau - efallai na wnaethoch olchi eich dwylo cyn paratoi’r bwyd, neu’ch bod wedi defnyddio’r un bwrdd torri ar gyfer cig amrwd a bwyd sy’n barod i’w fwyta.
Mae’r ‘Ffeithiau Ffiaidd' yn elfen arall bwysig o ymgyrch GwylioGermau. Maent yn rhybuddio pobl am beryglon hylendid bwyd gwael ac yn rhoi cyngor defnyddiol iddynt i’w galluogi i ymladd yn erbyn y germau.
Daeth seren ffiaidd GwylioGermau i lechu ar ein teledu yn ddiweddar mewn hysbysebion i hyrwyddo hylendid bwyd da yn y cartref - gellir gweld Sglyfyn yn serennu a gwylio’r hysbysebion ar eatwell.gov.uk/germwatch - Clicia ar 'Cymraeg'
Archebu'r Adnoddau Anhygoel Hyn!
Gallwch archebu’r eitemau hyn gan Gyhoeddiadau’r Asiantaeth Safonau Bwyd drwy anfon e-bost at foodstandards@ecgroup.co.uk neu drwy ffonio 0845 606 0667. Os hoffech ragor o wybodaeth am adnoddau dwyieithog yr ASB, gallwch gysylltu â'n Huned Iaith drwy e-bostio welsh.translation@foodstandards.gsi.gov.uk neu ffonio 02920 67 8969.
Gallwch hefyd lawrlwytho deunyddiau drwy ddilyn y dolenni isod.
