Wythnos Diogelwch Bwyd yr Asiantaeth
Mae’r Wythnos Diogelwch Bwyd yn ddigwyddiad sy’n cael ei gynnal bob blwyddyn i bwysleisio pa mor bwysig yw hylendid da yn y cartref.
Wythnos Diogelwch Bwyd 2011 - Beth sy'n digwydd y tu ôl i ddrysau caeëdig?
Eleni, bydd yr Wythnos Diogelwch Bwyd yn cael ei chynnal rhwng 6 a 12 Mehefin. Byddwn yn edrych ar yr hyn sy'n digwydd y tu ôl i ddrysau caeëdig. i gael gwybod beth mae pobl yn ei wneud yn eu cartrefi eu hunain wrth baratoi a choginio bwyd.
Byddwn yn edrych hefyd ar y gwir y tu ôl i ambell myth cyffredin am hylendid bwyd, gan egluro, er enghraifft, pam na ddylech olchi dofednod a pham na ddylech chi fwyta bwyd sydd wedi mynd heibio'i ddyddiad 'defnyddio erbyn'.
Mae'r Asiantaeth wedi datblygu pecyn cost-effeithiol o adnoddau i helpu Awdurdodau Lleol a'n partneriaid eraill i siarad am eu harferion hylendid. Gellir gweld cwis hylendid bwyd a chyflwyniad PowerPoint drwy'r dolenni isod. Hefyd, ar YouTube, gallwch weld ein dyddiaduron fidoe 'Kitchen confidential', a ddatblygwyd gan ddisgyblion o ysgolion ledled y DU i amlygu beth ddylech chi ei wneud, a beth na ddylech ei wneud er mwyn osgoi gwenwyd bwyd wrth baratoi bwyd yn y cartref.
Bydd y thema 'tu ôl i ddrysau caeëdig' hefyd yn helpu awdurdodau lleol i hyrwyddo neu lansio'r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn ystod yr wythnos.
I glywed y diweddaraf am yr Wythnos Diogelwch Bwyd, cofrestrwch eich manylion drwy foodsafetyweek@ecgroup.co.uk, gan nodi ‘Register’ yn y llinell bwnc.
Os ydych eisoes yn ymwneud â'r Wythnos Diogelwch Bwyd, ewch i Facebook i rannu eich syniadau a chael gwybod beth mae pobl arall yn ei wneud.
Rydym ni ar Facebook:
facebook.com/FoodSafetyWeek
Mae gan yr Asiantaeth amrywiaeth o adnoddau 'Gwylio Germau' i'ch helpu yn ystod yr Wythnos Diogelwch Bwyd. Mae adnoddau 2011 i'w gweld isod, ac ystod gyfan yr adnoddau i'w gweld drwy'r ddolen.
Find out more
Adnoddau'r Wythnos Diogelwch Bwyd
Rydym wedi cynhyrchu amrywiaeth eang o adnoddau i'w defnyddio mewn digwyddiadau'r Wythnos Diogelwch Bwyd.
Wythnos Diogelwch Bwyd 2009
Yn 2009, roedd yr ymgyrch yn canolbwyntio ar bobl dros 60 oed gan bwysleisio pa mor bwysig yw storio a thrin bwyd yn gywir yn y cartref.
Wythnos Diogelwch Bwyd 2010
Eleni, bydd yr Wythnos Diogelwch Bwyd yn canolbwyntio ar y camau y gall pawb eu cymryd yn y cartref i leihau gwenwyn bwyd a achosir gan campylobacter, sef coginio bwyd yn drwyadl ac atal croeshalogi.
