Adroddiadau arolygu monitro a rheoli ôl-Chernobyl
Tuesday 11 April 2006
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn gyfrifol am sicrhau diogelwch bwyd drwy atal cynhyrchion sy’n cynnwys lefelau annerbyniol o ymbelydredd rhag cael eu cyflwyno i’r gadwyn fwyd.
Yn dilyn prosesau monitro helaeth ym 1983, nodwyd pryderon diogelwch bwyd mewn perthynas â chig o ddefaid a oedd yn pori yn yr ardaloedd yr effeithiwyd arnynt. Mae’r Asiantaeth yn rheoli cyfyngiadau ar symud defaid yn yr ardaloedd dan sylw er mwyn diogelu’r cyhoedd.
Prif nod yr Asiantaeth yw sicrhau diogelwch bwyd drwy gynnal y rheolaethau hyn, ond hefyd drwy eu diddymu lle nad ydynt bellach yn angenrheidiol.
Yn y DU, o’r 9,800 o ddaliadau a mwy na 4 miliwn o ddefaid a oedd dan gyfyngiad yn wreiddiol yn dilyn y ddamwain, mae 334 o ffermydd yn parhau i fod yn destun rhyw fath o waharddiad yng Ngogledd Cymru a dim ond 8 yn Cumbria. Cafodd yr holl reolaethau ‘Nodi a Rhyddhau’ (Mark and Release) eu diddymu yng Ngogledd Iwerddon yn y flwyddyn 2000 ac yn yr Alban yn 2010.
Mae’r Asiantaeth wedi adolygu’r rheolaethau ôl-Chernobyl ar ddefaid i asesu p’un a oes angen parhau â’r mesurau diogelu hyn er mwyn sicrhau a chynnal diogelwch bwyd. Er mwyn llywio’r adolygiad hwn, aethpwyd ati i asesu lefel y radiocaesiwm mewn defaid o fewn yr ardaloedd cyfyngedig yn ystod haf 2010 a haf 2011, a’r lefelau y gallai’r cyhoedd ddod i gysylltiad â hwy pe bai’r mesurau rheoli’n cael eu diddymu. Dangosodd yr arolwg mai prin iawn oedd yr achosion lle’r oedd lefel y radiocaesiwm yn uwch na’r terfyn 1,000 Bq/kg yn ystod misoedd yr haf, sef yr adeg lle mae’r lefelau yn dueddol o fod ar eu huchaf. Dangosodd asesiad o lefel yr ymbelydredd y gallai defnyddwyr sy’n dod i gysylltiad â radiocaesiwm fwyaf aml ar ôl bwyta cig defaid o’r ffermydd hyn bod y risg i’r cyhoedd bellach yn isel iawn. Gellir darllen yr adroddiad asesu drwy’r ddolen isod (Saesneg yn unig).
Mae’r Asiantaeth wedi lansio ymgynghoriad i geisio sylwadau amrywiaeth o randdeiliaid ar ddiddymu’r mesurau rheoli ôl-Chernobyl presennol. Mae manylion yr ymgynghoriad a sut i ymateb ar gael drwy’r ddolen isod.
Hyd nes y bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud, ac yn ystod y cyfnod adolygu ac ymgynghori, bydd y cyfyngiadau presennol ar symud defaid yn parhau i fod ar waith.
Cefndir damwain Chernobyl
Ym 1986, yn dilyn damwain yng ngorsaf ynni niwclear Chernobyl yn yr hen Undeb Sofietaidd (yr Ukrain erbyn hyn), cafodd lefelau uchel o ymbelydredd eu rhyddhau i’r atmosffer. O ganlyniad, fe ddisgynnodd ychydig o’r ymbelydredd hwn, radiocaesiwm-137 yn bennaf, ar rai o ucheldiroedd y DU, lle defnyddir y tir yn bennaf ar gyfer ffermio defaid.
O ganlyniad i briodweddau cemegol a ffisegol penodol y pridd mawnog sy’n bodoli yn yr ucheldiroedd hyn, mae’r radiocaesiwm yn dal i allu pasio’n hawdd o’r pridd i’r borfa ac felly mae’n casglu mewn defaid.
Rheolaethau diogelwch bwyd
Cyflwynwyd uchafswm o 1,000 becquerel fesul cilogram (Bq/kg) o radiocaesiwm ar gyfer cig defaid yr effeithiwyd arnynt gan y ddamwain. Cyflwynwyd y terfyn hwn yn y DU ym 1986, yn seiliedig ar gyngor gan grŵp o arbenigwyr Erthygl 31 y Comisiwn Ewropeaidd.
O dan bwerau a amlinellir yn Neddf Diogelu Bwyd a'r Amgylchedd 1985 (FEPA), sydd ar gael ar wefan Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus drwy’r ddolen isod, mae gorchmynion brys wedi bod mewn grym ers 1986 i weithredu cyfyngiadau ar symud a gwerthu defaid sydd uwchlaw’r terfyn mewn rhannau penodol o Ogledd Cymru, Cumbria yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae’r gorchmynion brys yn diffinio ardaloedd daearyddol, sy’n aml yn cael eu galw’n ‘ardaloedd cyfyngedig’, lle mae’n rhaid cydymffurfio â’r rheolaethau. O dan orchmynion FEPA, ni chaniateir i ddefaid sy’n cynnwys lefelau uwch na’r terfyn gael eu cyflwyno i’r gadwyn fwyd.
Mae system reoli a elwir yn gynllun Nodi a Rhyddhau (Mark and Release) ar waith mewn ardaloedd cyfyngedig. O dan y cynllun hwn, gall ffermwr sydd am symud defaid o ardal dan gyfyngiad eu monitro i bennu lefel y radiocaesiwm. Defnyddir techneg monitro byw i wneud hyn, lle caiff monitor ymbelydredd ei ddal yn erbyn y defaid i roi cyfradd (fesul eiliad), sy’n cael ei throsi’n grynodiad (becquerel fesul cilogram neu Bq/kg) gan ddefnyddio ffactor trosi. Er mwyn caniatáu ar gyfer amrywiadau mewn canlyniadau monitro byw, defnyddir marc pasio. Mae’r marc hwn wedi’i bennu i sicrhau mai dim ond 1 cyfle mewn 40 sydd fod dafad sydd uwchlaw’r terfyn yn rhoi darlleniad is.
Caiff unrhyw ddefaid sydd â lefelau uwch na’r terfyn eu nodi a llifyn (dye) ac ni chaniateir eu rhyddhau o’r cyfyngiadau. Caiff y rheiny sy’n pasio’r broses fonitro eu cyflwyno i’r gadwyn fwyd.
