Bwyta pysgnau yn ystod beichiogrwydd, wrth fwydo ar y fron ac yn ystod plentyndod cynnar
Wednesday 26 August 2009
Ym mis Awst 2009, aeth y llywodraeth ati i ddiwygio ei chyngor i ddefnyddwyr ar fwyta pysgnau yn ystod beichiogrwydd, wrth fwydo ar y fron ac yn ystod y blynyddoedd cynnar, mewn perthynas â’r perygl o ddatblygu alergedd i bysgnau yn ystod plentyndod.
Mae’r newid yn y cyngor am bysgnau yn dod yn sgil adolygiad eang o’r dystiolaeth wyddonol sy’n dangos nad oes yna dystiolaeth glir fod bwyta neu osgoi pysgnau (neu fwydydd sy’n cynnwys pysgnau) yn ystod beichiogrwydd, wrth fwydo ar y fron neu ystod plentyndod cynnar yn cael unrhyw effaith ar b’un a yw eich plentyn yn datblygu alergedd iddynt ai peidio. Felly, nid oedd cyngor blaenorol y Llywodraeth – sef y dylai menywod osgoi pysgnau tra eu bod yn feichiog ac wrth fwydo ar y fron, a pheidio â chyflwyno pysgnau i ddeiet eu plentyn tan eu bod yn dair blwydd oed os oedd gan eu plentyn hanes o alergedd yn y teulu – bellach yn briodol.
Mae’r cyngor newydd i’w weld yn y tabl isod. Mae’r cyngor hwn yn cyfeirio at bysgnau yn unig (a elwir hefyd yn gnau daear a chnau mwnci), ac nid yw’n berthnasol i fwydydd eraill sy’n gallu achosi adwaith alergaidd (megis wyau, llaeth, gwenith, a chnau eraill megis cnau cyll, cnau almon a chnau Brazil).
Mae’r Llywodraeth wrthi’n ariannu nifer o astudiaethau ar alergedd i bysgnau ac alergeddau bwyd eraill, gyda’r nod o wella’r ddealltwriaeth o sut y mae’r cyflyrau hyn yn datblygu, ac o dan ba amgylchiadau. Y gobaith yw y bydd y rhain ac astudiaethau eraill yn rhoi tystiolaeth fwy pendant yn y dyfodol.
| Cyngor bywyd |
Cyngor ar fwyta pysgnau |
| Beichiog neu’n ceisio beichiogi |
- Os hoffech fwyta pysgnau neu fwydydd yn cynnwys pysgnau (megis menyn pysgnau) tra eich bod yn feichiog, gallwch ddewis gwneud hynny fel rhan o ddeiet iach a chytbwys, oni bai bod gennych alergedd iddynt neu fod eich gweithiwr iechyd proffesiynol yn eich cynghori i beidio.
- Efallai eich bod wedi clywed bod rhai menywod beichiog neu fenywod sy’n bwydo ar y fron yn dewis peidio â bwyta pysgnau. Y rheswm am hyn yw bod y Llywodraeth yn arfer cynghori menywod i osgoi bwyta pysgnau yn ystod y cyfnodau hyn os oedd gan unrhyw un yn nheulu agos y plentyn alergedd (megis asthma, ecsema, clefyd y gwair, alergedd bwyd neu fathau eraill o alergedd). Rhoddwyd y cyngor hwn i fenywod rhag ofn bod bwyta pysgnau pan yn feichiog neu’n bwydo ar y fron yn cynyddu’r perygl bod y baban yn mynd i ddatblygu alergedd i bysgnau. Ond mae’r cyngor hwnnw bellach wedi newid gan fod y gwaith ymchwil diweddaraf wedi dangos nad oes tystiolaeth glir i ddweud bod bwyta neu osgoi bwyta pysgnau yn ystod beichiogrwydd yn effeithio ar p’un a yw eich plentyn yn datblygu alergedd i bysgnau ai peidio.
- Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau, dylech drafod y rhain â’ch meddyg teulu, eich ymwelydd iechyd neu weithiwr iechyd proffesiynol arall.
- Os ydych yn dewis osgoi bwyta pysgnau neu fwydydd sy’n cynnwys pysgnau tra eich bod yn feichiog, gallwch wneud hynny drwy ddarllen y rhestr gynhwysion ar labeli bwyd, lle bo’r gyfraith yn mynnu bod yn rhaid datgan os yw cynnyrch yn cynnwys pysgnau.
|
| Bwydo ar y fron neu â baban o dan 6 mis oed |
- Os hoffech fwyta pysgnau neu fwydydd sy’n cynnwys pysgnau (megis menyn pysgnau) tra eich bod yn feichiog, gallwch ddewis gwneud hynny fel rhan o ddeiet iach a chytbwys, oni bai bod gennych alergedd iddynt neu fod eich gweithiwr iechyd proffesiynol yn eich cynghori i beidio.
- Efallai eich bod wedi clywed bod rhai menywod beichiog neu fenywod sy’n bwydo ar y fron yn dewis peidio â bwyta pysgnau. Y rheswm am hyn yw bod y Llywodraeth yn arfer cynghori menywod i osgoi bwyta pysgnau yn ystod y cyfnodau hyn os oedd gan unrhyw un yn nheulu agos y plentyn alergedd (megis asthma, ecsema, clefyd y gwair, alergedd bwyd neu fathau eraill o alergedd). Rhoddwyd y cyngor hwn i fenywod rhag ofn bod bwyta pysgnau pan yn feichiog neu’n bwydo ar y fron yn cynyddu’r perygl bod y baban yn mynd i ddatblygu alergedd i bysgnau. Ond mae’r cyngor hwnnw bellach wedi newid gan fod y gwaith ymchwil diweddaraf wedi dangos nad oes tystiolaeth glir i ddweud bod bwyta neu osgoi bwyta pysgnau yn ystod beichiogrwydd yn effeithio ar p’un a yw eich plentyn yn datblygu alergedd i bysgnau ai peidio.
- Mae’r Llywodraeth yn cynghori mamau i geisio bwydo babanod ar y fron tan eu bod yn chwe mis oed. Mae bwydo ar y fron yn llesol i’r fam a’r baban.
- Os oes gennych faban o dan 6 mis oed ac nad ydych yn bwydo ar y fron, nid oes rheswm i chi osgoi bwyta pysgnau neu fwydydd sy’n cynnwys pysgnau, oni bai bod gennych alergedd iddynt neu fod eich gweithiwr iechyd proffesiynol wedi’ch cynghori i beidio â’u bwyta am resymau eraill.
- Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau, dylech drafod y rhain â’ch meddyg teulu, eich ymwelydd iechyd neu weithiwr iechyd proffesiynol arall.
- Os ydych yn dewis osgoi bwyta pysgnau neu fwydydd sy’n cynnwys pysgnau tra eich bod yn feichiog, gallwch wneud hynny drwy ddarllen y rhestr gynhwysion ar labeli bwyd, lle bo’r gyfraith yn mynnu bod yn rhaid datgan os yw cynnyrch yn cynnwys pysgnau.
|
| Cyflwyno bwydydd solet i’ch plentyn |
- Dylech geisio bwydo eich plentyn ar y fron yn unig tan ei fod yn 6 mis oed (gweler y cyngor uchod i fenywod sy’n bwydo ar y fron).
- Os ydych yn dewis rhoi bwydydd solet i’ch babi cyn ei fod yn chwe mis oed (ac wedi siarad â’ch ymwelydd iechyd neu eich meddyg teulu am hyn), peidiwch â rhoi unrhyw bysgnau, cnau eraill (megis cnau cyll, cnau almon, cnau Ffrengig ac ati), hadau, llaeth, wyau, gwenith, pysgod, pysgod cregyn neu fwydydd sy’n cynnwys y pethau hyn iddo tan ei fod dros 6 mis oed. Y rheswm am hyn yw y gall y bwydydd hyn weithiau achosi i’ch plentyn ddatblygu alergedd bwyd.
- Pan fyddwch yn rhoi’r bwydydd hyn i’ch plentyn am y tro cyntaf, mae’n syniad da eu cyflwyno fesul un. Fel hyn, os yw eich plentyn yn cael adwaith alergaidd, mae’n haws dweud beth a’i hachosodd. Os ydych chi’n meddwl bod eich plentyn yn cael adwaith alergaidd, dylech geisio sylw meddygol ar unwaith. Mae’r canlynol yn symptomau cyffredin o adwaith alergaidd: peswch; gwddf a thafod yn sych ac yn cosi; croen yn cosi neu frech ar y croen; dolur rhydd a/neu chwydu; brest yn gwichian a bod yn fyr o anadl; gwefusau a gwddf yn chwyddo; trwyn yn rhedeg neu wedi’i gau; llygaid yn boenus, yn goch ac yn cosi.
- Mae’n bosibl eich bod wedi clywed cyngor blaenorol i osgoi rhoi bwydydd sy’n cynnwys pysgnau i blant dan dair blwydd oed, os oedd hanes o alergedd yn nheulu agos y plentyn (megis ecsema, clefyd y gwair, alergedd bwyd neu fathau eraill o alergedd). Rhoddwyd y cyngor hwn i fenywod rhag ofn bod bwyta pysgnau pan yn feichiog neu’n bwydo ar y fron yn cynyddu’r perygl i’r baban ddatblygu alergedd i bysgnau. Ond mae’r cyngor hwnnw bellach wedi newid gan fod y gwaith ymchwil diweddaraf wedi dangos nad oes tystiolaeth glir i ddweud bod bwyta neu osgoi bwyta pysgnau yn ystod beichiogrwydd yn effeithio ar p’un a yw eich plentyn yn datblygu alergedd i bysgnau ai peidio.
- Os oes gan eich plentyn eisoes alergedd y gwyddoch amdano, megis alergedd bwyd neu ecsema, neu os oes hanes o alergedd yn nheulu agos eich plentyn (hynny yw os oes gan ei rieni, ei frodyr neu ei chwiorydd alergedd megis asthma, ecsema, clefyd y gwair neu fathau eraill o alergedd) yna bydd gan eich plentyn risg uwch o ddatblygu alergedd i bysgnau. Yn yr achosion hyn, dylech siarad â’ch meddyg teulu, eich ymwelydd iechyd neu eich arbenigwr meddygol ar alergeddau cyn i chi roi pysgnau neu fwydydd sy’n cynnwys pysgnau i’ch plentyn am y tro cyntaf.
- Ni ddylid rhoi pysgnau neu gnau cyfan i blant dan bump oherwydd y perygl iddynt dagu arnynt.
|