Labelu bwydydd 'heb Glwten'
Mae gan tua 1% o bobl y DU anoddefiad i glwten (a elwir yn aml yn glefyd seliag) ac mae angen iddyn nhw osgoi bwydydd sy’n cynnwys glwten i atal effeithiau ar eu hiechyd all fod yn ddifrifol. Felly, mae labelu honiadau am glwten mewn bwydydd yn fater pwysig.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae nifer y cynhyrchion sy’n cael eu marchnata i bobl ag anoddefiad i glwten (pobl â chlefyd seliag) wedi cynyddu’n gyflym, ond nid oes unrhyw reolau ar waith i reoli lefelau’r glwten yn y cynhyrchion hynny, felly gall swm y glwten amrywio o gynnyrch i gynnyrch.
Safonau labelu newydd
Gan ddefnyddio tystiolaeth wyddonol ddiweddar sy’n cael ei chydnabod yn rhyngwladol, mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi cyflwyno safonau o ran cyfansoddiad a labelu (Rheoliad (EC) Rhif 41/2009 y Comisiwn) sy’n pennu lefelau’r glwten mewn bwydydd sy’n honni eu bod yn fwydydd ‘heb glwten’ neu’n fwydydd ‘glwten isel iawn’, a ddaeth i rym ar 1 Ionawr 2012:
- ‘heb glwten’: 20 rhan o glwten ym mhob miliwn neu lai
- ‘isel iawn mewn glwten’: 100 rhan o glwten ym mhob miliwn neu lai – fodd bynnag, dim ond bwydydd â chynhwysion grawnfwyd (cereal sydd wedi’u prosesu’n arbennig i dynnu’r glwten ohonynt all wneud honiad ‘isel iawn mewn glwten’
Mae’r Rheoliadau hyn yn berthnasol i unrhyw fwyd, boed wedi’i becynnu ymlaen llaw neu’i werthu’n rhydd, fel bwyd sy’n cael ei werthu mewn siopau bwyd iach neu sefydliadau arlwyo.
Mae’r safonau labelu newydd yn fesurau pwysig o ran iechyd y cyhoedd ac o ran diogelu iechyd hirdymor pobl sydd â'r clefyd seliag. Bydd y safonau labelu hyn yn eu galluogi i wneud dewisiadau gwybodus am y bwyd y mae’n ddiogel iddynt ei fwyta.
Mewn achosion lle na all arlwywyr gyfiawnhau honiadau ‘heb glwten’ neu ‘isel iawn mewn glwten’ oherwydd perygl croeshalogi, os ydynt wedi cymryd camau i reoli'r perygl hwn, bydd modd iddynt ddefnyddio'r term ‘Dim cynhwysion sy’n cynnwys glwten’, sy'n galluogi pobl sydd â'r clefyd seliag i wneud dewisiadau ar sail eu sensitifrwydd eu hunain.
Canllawiau
Er mwyn helpu'r diwydiant ac awdurdodau gorfodi i ddeall y rheolau newydd ac i annog pobl i ddarparu gwybodaeth i bobl â'r clefyd seliag, mae'r Asiantaeth wedi datblygu dwy set o ganllawiau. Bydd un yn mynd i'r afael â'r broses o gydymffurfio â'r Rheoliadau (Saesneg yn unig), a'r llall yn rhoi cyngor i arlwywyr ar ddarparu gwybodaeth am fwyd heb ei becynnu (gweler y dolenni isod). At hynny, mae'r Asiantaeth wedi datblygu gwybodaeth i ddefnyddwyr i godi ymwybyddiaeth o'r rheolau a ddaeth i rym ar 1 Ionawr 2012. Mae'r daflen hon ar gael isod.
