Alergedd ac Anoddefiad Bwyd
Mae'r adran hon yn cynnwys gwybodaeth am waith yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar alergedd ac anoddefiad bwyd, gan gynnwys gwybodaeth ar labelu a chyngor i arlwywyr.
Mae gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd dri nod o ran alergedd ac anoddefiad bwyd:
- ariannu gwaith ymchwil a fydd yn helpu i wella ein gwybodaeth a'n dealltwriaeth o alergedd ac anoddefiad bwyd
- gwella rheolau labelu bwyd er mwyn helpu pawb sydd angen osgoi rhai cynhwysion penodol
- helpu i godi ymwybyddiaeth o alergedd ac anoddefiad bwyd ymhlith arlwywyr
Cliciwch ar un o'r dolenni isod i wybod mwy am alergedd ac anoddefiad bwyd...
Find out more
Arweiniad i fusnesau bwyd ar alergedd ac anoddefiad
Bwriad yr Asiantaeth yw helpu busnesau bwyd i roi gwybodaeth i gwsmeriaid sydd angen osgoi cynhwysion penodol am fod ganddynt alergedd.
Bwyta pysgnau yn ystod beichiogrwydd, wrth fwydo ar y fron ac yn ystod plentyndod cynnar
Ym mis Awst 2009, aeth y llywodraeth ati i ddiwygio ei chyngor i ddefnyddwyr ar fwyta pysgnau yn ystod beichiogrwydd, wrth fwydo ar y fron ac yn ystod y blynyddoedd cynnar, mewn perthynas â’r perygl o ddatblygu alergedd i bysgnau yn ystod plentyndod.
Cardiau Cogydd yr ASB
Mae’r Asiantaeth wedi cyhoeddi cardiau cogydd rhyngweithiol i helpu cwsmeriaid sydd ag alergedd neu anoddefiad bwyd wrth fwyta allan. Gall y cwsmer nodi pa fwydydd y mae ganddo alergedd iddynt ar y cardiau syml o faint cerdyn credyd, a’u cyflwyno i staff mewn bwytai er mwyn rhoi gwybod i’r cogydd beth sydd angen iddynt ei osgoi.
Cyhoeddiadau Alergedd ac Anoddefiad Bwyd
Cymerwch gip ar un o gyhoeddiadau'r Asiantaeth ar Alergedd ac Anoddefiad Bwyd
Labelu alergenau bwyd
Mae'n rhaid i bobl sydd â rhai alergeddau bwyd, yn arbennig alergedd i pysgnau, fod yn hynod o ofalus beth maen nhw'n ei fwyta.
Labelu bwydydd 'heb Glwten'
Mae gan tua 1% o bobl y DU anoddefiad i glwten (a elwir yn aml yn glefyd seliag) ac mae angen iddyn nhw osgoi bwydydd sy’n cynnwys glwten i atal effeithiau ar eu hiechyd all fod yn ddifrifol. Felly, mae labelu honiadau am glwten mewn bwydydd yn fater pwysig.
Prynu bwyd pan fo gennych alergedd
Mae taflen ddwyieithog sy’n rhoi cyngor i bobl sydd newydd ganfod fod ganddynt alergedd bwyd wedi’i chyhoeddi gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd mewn cydweithrediad â chwe sefydliad alergedd a maeth.
