Diogelwch a Hylendid Bwyd
Gwaith yr Asiantaeth Safonau Bwyd i sicrhau fod bwyd yn ddiogel ac yn hylan i'w fwyta.
Darllenwch y manylion isod i gael rhagor o wybodaeth.
Os ydych chi am gael cyngor am alergedd bwyd, storio a pharatoi bwyd yn eich cartref, yn ogystal â gwybodaeth am wenwyn bwy, ewch i'n gwefan bwyta'n iach eatwell.gov.uk - a chofiwch glicio ar 'Cymraeg'.
Find out more
Adroddiadau arolygu monitro a rheoli ôl-Chernobyl
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn gyfrifol am sicrhau diogelwch bwyd drwy atal cynhyrchion sy’n cynnwys lefelau annerbyniol o ymbelydredd rhag cael eu cyflwyno i’r gadwyn fwyd.
Alergedd ac Anoddefiad Bwyd
Mae'r adran hon yn cynnwys gwybodaeth am waith yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar alergedd ac anoddefiad bwyd, gan gynnwys gwybodaeth ar labelu a chyngor i arlwywyr.
Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell (SFBB)
Mae Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell (SFBB) yn becyn sy'n cynnig ffordd arloesol ac ymarferol i reoli diogelwch bwyd. Nod y pecyn hwn yw helpu busnesau bach i roi gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd ar waith, a'u helpu hefyd i gydymffurfio â rheoliadau hylendid bwyd.
Canlyniadau Monitro Pysgod Cregyn
Gwenwyno Diarëig Pysgod Cregyn
Cynlluniau Sgorio Hylendid Bwyd
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd, mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, wrthi’n cyflwyno’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon a’r Cynllun Gwybodaeth am Hylendid Bwyd yn yr Alban. Mae’r cynlluniau yn helpu’r cyhoedd i ddewis ble i fwyta allan neu siopa am fwyd drwy roi gwybodaeth iddynt am safonau hylendid mewn bwytai, caffis, siopau tecawê, gwestai a siopau bwyd.
Gair i gall am goginio eich cinio Nadolig
Yn ystod y tymor hwn o ewyllys da, un anrheg nad ydych am ei roi i’ch teulu a’ch ffrindiau yw gwenwyn bwyd. Dilynwch ein canllawiau ar gyfer paratoi a choginio’ch pryd yn ddiogel, a bydd eich cinio Nadolig yn un i’w gofio – a hynny am y rhesymau iawn.
Gemau Olympaidd Llundain 2012
Ymgyrch diogelwch bwyd yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar gyfer gemau Olympaidd 2012: Chwarae'n Ddiogel.
Gweithio gydag ysgolion yng Nghymru
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yng Nghymru yn ymrwymo i ddatblygu ei rhaglen waith gydag ysgolion yng Nghymru. Mae’r Asiantaeth wrthi’n cydweithio ag ysgolion cynradd ac uwchradd i addysgu plant am bwysigrwydd diogelwch bwyd.
Listeria
Mae Listeriosis, sef y salwch a gludir gan fwyd a achosir gan listeria, yn eithaf prin ond mae’n achosi mwy o farwolaethau o achos gwenwyn bwyd yn y DU na’r un byg arall a gludir gan fwyd.
Pobl sy'n trin bwyd: digon iach i weithio?
Mae pobl sy’n gweithio gyda bwyd tra’u bod yn ddioddef o heintiau penodol (yn bennaf yn sgil bacteria neu feirysau) yn gallu halogi bwyd neu arwynebau y gallai’r bwyd dod i gysylltiad â hwy. Mae’r Asiantaeth wedi cyhoeddi canllawiau diwygiedig ‘Pobl sy’n trin bwyd: Digon iach i weithio?’ i helpu i atal heintiau rhag lledu i bobl eraill drwy fwyd.
Wythnos Diogelwch Bwyd 2012: Diogelwch bwyd ar gyllideb
Bydd yr Wythnos Diogelwch Bwyd yn cael ei chynnal rhwng 11 a 17 Mehefin a’r thema yw ‘diogelwch bwyd ar gyllideb’.
