Telerau ac amodau
Caiff gwefannau’r Asiantaeth Safonau Bwyd eu cynnal er mwyn i chi allu eu defnyddio a’u gweld yn bersonol. Drwy ddefnyddio’r gwefannau, rydych yn cytuno â’r Telerau ac Amodau hyn. Mae hyn yn cynnwys datganiad preifatrwydd, datganiad hawfraint y Goron, ymwadiad a pholisi hypergysylltu.
Hypergysylltu i wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB)
Nid oes angen i chi geisio caniatâd i gysylltu’n uniongyrchol â’r tudalennau sy’n byw ar ein gwefannau. Nid ydym yn gwrthwynebu i chi gysylltu’n uniongyrchol â’r wybodaeth a gedwir ar ein gwefannau.
Fodd bynnag, nid ydym yn caniatau i’n tudalennau gael eu llwytho yn fframiau ar eich gwefan. Mae’n rhaid i dudalennau’r Asiantaeth Safonau Bwyd lwytho i ffenestr gyfan y defnyddiwr.
Hypergysylltu gennym ni yn yr ASB
Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd gwefannau allanol yr ydym yn cysylltu â hwy. Ni ddylid ystyried unrhyw hypergysylltiadau a gynhwysir ar ein gwefan yn ardystiad o unrhyw fath. Nid ydym yn gallu gwarantu y bydd y dolenni hyn yn gweithio drwy’r adeg ac nid oes gennym unrhyw reolaeth dros argaeledd tudalennau yr ydym yn cysylltu â hwy.
Find out more
© Hawlfraint y Goron
Diogelir y deunydd a gynhwysir ar y wefan hon gan Hawlfraint y Goron, oni nodir yn wahanol.
Polisi preifatrwydd
Mae’r dudalen hon yn esbonio ein polisi preifatrwydd a sut y byddwn yn defnyddio a diogelu unrhyw wybodaeth amdanoch yr ydych yn ei rhoi i ni pan fyddwch yn ymweld â’r wefan hon.
Telerau ac amodau ar gyfer blogiau a rhwydweithiau cymdeithasu
Dyma’r rheolau safonol am gyflwyno sylwadau ar ein blog, twitter a gwefannau rhwydweithio cymdeithasol. Cawsant eu creu er mwyn sicrhau bod pawb sy’n cymryd rhan yn teimlo’n ddiogel, yn barod i gymryd rhan eto ac yn cydymffurfio â’i nod.
Telerau ac amodau o ran gwybodaeth a gwasanaethau food.gov.uk/ratings
Os byddwch yn parhau i bori ac i ddefnyddio’r wybodaeth a’r gwasanaethau (gan gynnwys data’r sgoriau hylendid bwyd a’r rhyngwyneb rhaglennu cymwysiadau, API) ar wefan food.gov.uk/ratings, byddwch yn cytuno i gydymffurfio â’r telerau ac amodau a ganlyn, ac i ymrwymo iddyn nhw.
Ymwadiad
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod yr wybodaeth a ddarperir ar y wefan hon yn gywir ac yn gyfredol, ond ni dderbynnir unrhyw gyfrifoldeb cyfreithiol am unrhyw wallau, esgeulustod neu ddatganiadau camarweiniol.
