Mwy am y wefan hon
Cyngor ar sut i fanteisio i’r eithaf ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd gan gynnwys cyngor ar osodiadau porwr a gwybodaeth am safonau hygyrchedd.
Gosodiadau sgrîn
Dyluniwyd y wefan hon i fod yn glir ac yn hawdd ei darllen. I gael y canlyniadau gorau, cofiwch osod eich sgrin ar eglurder o 800 x 600 picsel.
Porwyr
Dylai gwefan yr ASB weithio ar unrhyw gyfrifiadur sydd â phorwr prif ffrwd e.e. Mozilla Firefox neu Internet Explorer. Cofiwch gysylltu â ni os ydych yn cael trafferth gweld y wefan gyda’ch porwr chi.
Fformat ffeil ac ategion plugins
Mae rhai rhannau o’r wefan wedi’u gwella drwy ddefnyddio ategion (elfennau ychwanegol at eich porwr sy’n galluogi defnyddwyr i weld ffeiliau HTML ansafonol). Dylai eich porwr eich rhybuddio os oes angen i chi lawrlwytho ategyn, a chyfeirio ei hun at safle lawrlwytho priodol.
Dyma’r mathau o ffeiliau y mae’r wefan hon yn eu defnyddio:
HTML (Hypertext Markup Language)
Dyma’r fformat sylfaenol a ddefnyddir ar y Rhyngrwyd. Mae’r dudalen hon mewn fformat HTML. Yn unol â’n polisi, rydym yn sicrhau bod cymaint o wybodaeth ag sy’n bosibl ar gael yn y fformat hwn. Weithiau, bydd data ar gael yn y fformatau eraill hyn.
PDF (Portable Document format)
Mae modd argraffu dogfennau PDF a chânt eu defnyddio i lawrlwytho ac argraffu dogfennau swmpus oddi ar y wefan. Er mwyn eu darllen, bydd angen copi o Adobe Acrobat Reader arnoch, sydd ar gael yn rhad ac am ddim.
Lawrlwytho Meddalwedd Adobe Reader.![]()
Mae safle Adobe yn cynnig gwybodaeth am ddefnyddio nodweddion PDF hygyrch.
Hygyrchedd Adobe Reader 9
Os ydych chi’n cael unrhyw drafferth agor dogfennau .pdf o fewn eich porwr, gallwch lawrlwytho’r ffeiliau i’ch cyfrifiadur personol.
Os ydych chi am lawrlwytho’r ffeil, dilynwch y cyfarwyddiadau hyn:
- rhowch eich cyrchwr (cursor) dros y ddolen
- cliciwch y botwm dde ar eich llygoden (PC yn unig)
- dewsiwch ‘"save target as" o’r ddewislen sy’n ymddangos
- dewiswch ble ar eich cyfrifiadur yr ydych chi am arbed y ffeil
- Cliciwch ar y botwm "save"
Ar ôl gwneud hyn, bydd modd agor y ddogfen yn Acrobat Reader ar eich cyfrifiadur eich hun.
Adobe Flash
Caiff y fformat ffeil hwn ei ddefnyddio mewn ambell i elfen dylunio ar y wefan. Bydd angen y feddalwedd Flash arnoch (sydd ar gael yn rhad ac am ddim) i weld y ffeiliau hyn.
Delweddau
Caiff delweddau eu defnyddio o dan drwydded gan Shutterstock.
Hawlfraint a chopi; 2006 Asiantaeth Safonau Bwyd a’i thrwyddedwyr. Cedwir pob hawl.
Caiff delweddau eu defnyddio o dan drwydded gan Hemera Photo-Objects.
Hawlfraint a chopi; 2001 Asiantaeth Safonau Bwyd a’i thrwyddedwyr. Cedwir pob hawl.
Argraffu
Mae modd cael fersiwn y gellir ei hargraffu o bob tudalen sydd wedi’i fformatio drwy glicio ar 'Printer friendly' o’r bar offer ar waelod y dudalen.
Cysylltu â thîm y we
Anfonwch e-bost at webmaster@foodstandards.gsi.gov.uk
Find out more
Telerau ac amodau
Caiff gwefannau’r Asiantaeth Safonau Bwyd eu cynnal er mwyn i chi allu eu defnyddio a’u gweld yn bersonol. Drwy ddefnyddio’r gwefannau, rydych yn cytuno â’r Telerau ac Amodau hyn. Mae hyn yn cynnwys datganiad preifatrwydd, datganiad hawfraint y Goron, ymwadiad a pholisi hypergysylltu.
Ymwadiad
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod yr wybodaeth a ddarperir ar y wefan hon yn gywir ac yn gyfredol, ond ni dderbynnir unrhyw gyfrifoldeb cyfreithiol am unrhyw wallau, esgeulustod neu ddatganiadau camarweiniol.
