Cydraddoldeb
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi ymrwymo i ddarparu cyfle cyfartal ac i ddileu pob math o wahaniaethu, aflonyddu a bwlio. Mae wedi ymrwymo i hyrwyddo amgylchedd gwaith da a chytûn, lle mae pob unigolyn yn cael ei barchu a lle na chaiff gwahaniaethu, bwlio nac aflonyddu o unrhyw fath ei oddef.
Mae’n ofynnol i gyflogeion yr ASB a’r unigolion sy’n gweithio iddi o dan drefniadau contract gynorthwyo’r Asiantaeth i fodloni’i hymrwymiad i ddarparu cyfle cyfartal o ran cyflogaeth ac i osgoi gwahaniaethu anghyfreithlon.
Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus
Daeth Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus i rym ar 5 Ebrill 2011. Yn unol â’i gofynion, mae’r ASB wedi ymrwymo i roi sylw priodol i:
- ddileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithlon
- hybu cyfle cyfartal rhwng gwahanol grwpiau
- meithrin perthynas dda rhwng gwahanol grwpiau
Find out more
Adroddiad Amrywiaeth
Mae Adroddiad Amrywiaeth yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn cynnig trosolwg o broffil gweithlu'r ASB, yn ogystal ag amlinellu dull yr Asiantaeth o fynd ati i recriwtio, dysgu a datblygu ac enghreifftiau o ymgysylltu â rhanddeiliaid. Bydd yr adroddiad hwn yn cael ei ddiweddaru a'i gyhoeddi yn flynyddol.
Amcanion Amrywiaeth
Yn unol â gofynion Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wrthi’n llunio amcanion cydraddoldeb penodol a mesuradwy a fydd yn helpu i hybu nodau’r ddyletswydd cydraddoldeb. Byddwn yn cyhoeddi’r amcanion cydraddoldeb cyntaf ar 6 Ebrill 2012 (a’r amcanion dilynol bob pedair blynedd ar ôl hynny fan bellaf).
