Ein ffordd o weithio
Mae gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd werthoedd craidd sy'n llywio pob un o'i phenderfyniadau. Mae hefyd yn gweithio o fewn cyfres o bolisïau ac ymrwymiadau sy'n cael eu hadlewyrchu yn ei harferion gweithio. Mae'r adran hon yn disgrifio ein gwerthoedd, ein polisïau a'n hymrwymiadau a'r modd yr ydym ni'n adrodd arnynt.
Find out more
Adolygu’r modd y caiff rheolaethau swyddogol eu rhoi ar waith - diogelwch a safonau bwyd
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wrthi’n adolygu sut mae awdurdodau lleol ac awdurdodau iechyd porthladdoedd yn cynnal gweithgareddau i fonitro a sicrhau bod busnesau’n cydymffurfio â’r gyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid. Gelwir y gweithgareddau cyfunol hyn yn ‘rheolaethau swyddogol’.
Cydraddoldeb
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi ymrwymo i ddarparu cyfle cyfartal ac i ddileu pob math o wahaniaethu, aflonyddu a bwlio. Mae wedi ymrwymo i hyrwyddo amgylchedd gwaith da a chytûn, lle mae pob unigolyn yn cael ei barchu a lle na chaiff gwahaniaethu, bwlio nac aflonyddu o unrhyw fath ei oddef.
