Asiantaeth yn helpu ffermwyr i atal gwenwyn plwm
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi creu taflen i ffermwyr, yn rhoi cyngor i’w helpu i ddiogelu eu da byw, eu busnes a’r DU rhag gwenwyn plwm. Mae digwyddiadau gwenwyn plwm yn cynyddu yn ystod y gwanwyn, pan gaiff anifeiliaid eu troi allan.
Mae'r daflen ar gael i'w lawrlwytho drwy'r dolenni isod:
Y broblem
Mae mwy na hanner y digwyddiadau ar ffermydd sy’n cael eu cyflwyno gerbron yr Asiantaeth Safonau Bwyd bob blwyddyn yn cael eu hachosi gan wenwyn plwm neu o ganlyniad i gysylltiad â phlwm. Mae’r digwyddiadau hyn yn achosi risg i ddiogelwch bwyd.
Mae gwenwyn plwm yn gallu lladd neu arwain at salwch. Gall effeithio ar wartheg, defaid, moch, dofednod a rhai anifeiliaid eraill. Gall gwartheg farw’n sydyn, mynd yn anffrwythlon, dangos arwyddion o afiechyd nerfol neu fynd yn ddall.
Os daw anifeiliaid i gysylltiad â phlwm, gall gynyddu’r lefelau plwm mewn cig, offal a llaeth fel eu bod yn uwch na’r terfynau cyfreithlon mewn bwyd. O ganlyniad, ni fydd yn ddiogel iddynt fod yn rhan o’r gadwyn fwyd.
Y llynedd, cafodd 2,500 o anifeiliaid yn y DU eu cadw o’r gadwyn fwyd oherwydd y perygl o wenwyn plwm.
Sut all ffermwr osgoi halogiad plwm ar ei fferm?
Fel cynhyrchwr cynradd, gall ffermwr chwarae rhan hanfodol wrth ddiogelu’r gadwyn fwyd:
- chwilio am fatris cerbydau, ceir wedi’u llosgi a hen beiriannau mewn caeau ac ysguboriau yn rheolaidd
- gwylio am bobl yn tipio sbwriel yn anghyfreithlon
- chwilio am baent plwm a phwti sy’n dod yn rhydd
- sicrhau na all eich anifeiliaid fynd at ludw coelcerth, pibelli a sêl blwm (fel yr un oddi ar doeau)
- trefnu bod eich anifeiliaid yn bwyta cyn lleied o bridd ag sy’n bosibl
Gall plwm hefyd ddod o fatris ffensys trydan, pelenni plwm (gwn) a thomenni pridd o fwyngloddiau plwm.
Gall plwm hefyd ddod o fatris ffensys trydan, pelenni plwm (gwn) a thomenni pridd o fwyngloddiau plwm.
Archebwch gopi caled o’r daflen
I archebu copi caled o’r daflen, cysylltwch â Chyhoeddiadau’r Asiantaeth Safonau Bwyd, gan ddyfynnu’r cod priodol (wedi’u nodi isod):
ffôn: 0845 606 0667
minicom: 0845 606 0678
ffacs: 020 8867 3225
e-bost: foodstandards@ecgroup.co.uk
Codau’r taflenni:
Fersiwn Gymraeg: FSA/1316/0309
Fersiwn y DU: FSA/1315/0209
