Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer mewnforwyr bwyd a bwyd anifeiliaid

Gwybodaeth am y polisi preifatrwydd mewn perthynas â mewnforwyr bwyd a bwyd anifeiliaid, pam mae angen y data arnom, yr hyn a wnawn gyda’r data a’ch hawliau.

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yw ‘Rheolydd’ y data personol a ddarperir i ni.

Pwrpas a sail gyfreithiol dros brosesu

Mae angen i ni gasglu’r data personol hwn at ddiben(ion) cynorthwyo Awdurdodau Cymwys ac Asiantaethau Llywodraethol eraill i liniaru’r risgiau sy’n gysylltiedig â mewnforio bwyd neu fwyd anifeiliaid, gan gyflawni eu rhwymedigaethau i gynnal rheolaethau swyddogol o dan Reoliad (CE) Rhif 882/2004, ac fel y’i dargedwir (retained) yn neddfwriaeth y Deyrnas Unedig (DU).

Gwnawn hyn yn unol â’n dyletswyddau swyddogol wrth arfer yr awdurdod swyddogol a roddwyd i ni, ac er budd y cyhoedd er mwyn diogelu eu hiechyd mewn perthynas â mewnforio bwyd a bwyd anifeiliaid. Ni fyddwn ni’n casglu unrhyw ddata personol gennych chi nad oes ei angen arnom ni.

Beth sydd ei angen arnom ni a sut rydym ni’n ei ddefnyddio

Mae’r data personol sydd gennym ni yn cynnwys enw busnes, cyfeiriad y busnes cofrestredig a data sy’n ymwneud â mewnforio bwyd a bwyd anifeiliaid gan y busnes.

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cael yr wybodaeth hon gan y System Arbenigol ar gyfer Rheoli Masnach (TRACES) neu Awdurdodau Cymwys neu Asiantaethau Llywodraethol eraill sy’n ymdrin â mewnforio bwyd neu fwyd anifeiliaid. Er mwyn cyflawni ein pwerau cyfreithiol i sicrhau diogelwch bwyd, gallwn ni brosesu eich data personol a geir o ffynonellau sydd ar gael i’r cyhoedd fel gwefannau, a thrwy ddefnyddio meddalwedd tynnu data oddi ar y we.

Efallai y byddwn ni’n dadansoddi'r data hwn ynghyd â gwybodaeth arall sydd gennym amdanoch chi a gwybodaeth a gawsom o ffynonellau cyhoeddus a/neu breifat er mwyn ein helpu i werthuso risg. Gwnawn hyn wrth arfer awdurdod swyddogol a roddwyd i ni o dan y Ddeddf Safonau Bwyd ac wrth gyflawni tasg er budd y cyhoedd.

Sut a ble rydym ni’n storio eich data a gyda phwy y gallwn ni ei rannu 

Dim ond am y cyfnod sydd ei angen i gyflawni’r swyddogaethau hyn rydym cadw’r data personol, ac yn unol â’n polisïau cadw.

Nid oes gan drydydd partïon fynediad at eich data personol oni bai bod y gyfraith yn caniatáu iddynt wneud hynny. Yn unol â’r ymrwymiad hwn, gellir trosglwyddo’ch data i Awdurdodau Cymwys neu Asiantaethau Llywodraethol eraill sy’n ymwneud â diogelu risgiau sy’n gysylltiedig â mewnforio bwyd neu fwyd anifeiliaid.

Yn ogystal, bydd yr ASB weithiau’n rhannu data gydag adrannau eraill y llywodraeth, cyrff cyhoeddus a sefydliadau sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus i’w cynorthwyo i gyflawni eu dyletswyddau statudol, neu pan fydd hyn er budd y cyhoedd. Efallai y byddwn ni hefyd yn rhannu’r data fel rhan o waith gwerthuso a dadansoddi risg gyda chyrff cyhoeddus, Awdurdodau Cymwys, neu sefydliadau eraill, fel Safonau Masnach ac Awdurdodau Iechyd Porthladdoedd, am yr un rhesymau.


I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r adran Sut a ble rydym ni’n storio’ch data a gyda phwy y gallwn ei rannu yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.  

Trosglwyddiadau rhyngwladol

I gael rhagor o wybodaeth am drosglwyddiadau rhyngwladol, gweler yr adran Trosglwyddiadau Rhyngwladol yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.

Dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (UE) 

I gael rhagor o wybodaeth am Hysbysiad Preifatrwydd Dinasyddion yr UE, ewch i’r adran Dinasyddion yr UE yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol. 

Eich hawliau

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, ewch i’r adran Eich hawliau yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol. 

Cysylltu â ni 

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn, eich gwybodaeth bersonol neu unrhyw gwestiynau am ein defnydd o’r wybodaeth, anfonwch e-bost at ein Swyddog Diogelu Data yn yr ASB, sef Arweinydd y Tîm Rheoli Gwybodaeth a Diogelwch, gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost isod.