Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Cyhoeddi adroddiad cyntaf yr arolwg Bwyd a Chi 2 newydd

Heddiw, mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi cyhoeddi canfyddiadau Bwyd a Chi 2: Cylch 1, ein prif arolwg defnyddwyr hyblyg a newydd a fydd yn cael ei gynnal yn fwy aml.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 March 2021
Diweddarwyd ddiwethaf: 19 March 2021

Mae arolwg Bwyd a Chi 2, sy'n cynnwys data o Gymru, o Loegr ac o Ogledd Iwerddon, yn cael ei ddefnyddio i gasglu gwybodaeth sy’n ymwneud ag agweddau, gwybodaeth ac ymddygiadau hunan-gofnodedig y cyhoedd ar ddiogelwch bwyd a materion eraill sy'n gysylltiedig â bwyd.

Prif ganfyddiadau

Mynediad at gyflenwad bwyd

Disgwylir i bandemig COVID-19 fod wedi effeithio ar lefel y mynediad at gyflenwad bwyd (food security) a gofnodwyd gan y rheiny a ymatebodd i arolwg Bwyd a Chi 2.

  • Ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, cafodd 84% o'r ymatebwyr eu dosbarthu fel pobl â chyflenwad bwyd diogel (72% yn sicr, 12% yn ymylol) a dosbarthwyd 16% o'r ymatebwyr fel pobl â chyflenwad bwyd anniogel (9% yn ansicr, 7% yn ansicr iawn).
  • Dywedodd bron i dri chwarter (73%) yr ymatebwyr a oedd wedi newid eu harferion bwyta yn ystod y 12 mis diwethaf fod y newidiadau hynny’n deillio, yn rhannol o leiaf, o bandemig COVID-19 a’r cyfnod clo.

Hyder mewn diogelwch bwyd a'r gadwyn cyflenwi bwyd

  • Dywedodd mwy na 9 o bob 10 (92%) o’r ymatebwyr eu bod yn hyderus bod y bwyd maen nhw’n ei brynu yn ddiogel i'w fwyta.
  • Dywedodd dros dri chwarter yr ymatebwyr (78%) fod ganddyn nhw hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd.
  • Roedd yr ymatebwyr yn fwy tebygol o ddweud bod ganddyn nhw hyder mewn ffermwyr (90%), a siopau ac archfarchnadoedd (86%) nag mewn safleoedd tecawê (51%), a gwasanaethau dosbarthu bwyd (39%).

Pryderon am fwyd

  • Dywedodd mwyafrif yr ymatebwyr (84%) nad oedd ganddyn nhw unrhyw bryderon am y bwyd maen nhw’n ei fwyta, a dim ond 16% o'r ymatebwyr a ddywedodd fod ganddyn nhw unrhyw bryder
  • Gofynnwyd i’r ymatebwyr hynny a ddywedodd fod ganddyn nhw bryder am y bwyd maen nhw’n ei fwyta egluro’n fras beth oedd yn peri’r pryder hwnnw. Dulliau cynhyrchu bwyd (29%), pryderon amgylcheddol a moesegol (26%) a tharddiad bwyd (21%) oedd y pryderon a gafodd eu crybwyll fwyaf

Dyddiadau ‘defnyddio erbyn'

  • Dywedodd bron i dri chwarter (71%) yr ymatebwyr mai’r dyddiad ‘defnyddio erbyn’ yw’r wybodaeth sy'n dangos nad yw bwyd yn ddiogel i'w fwyta mwyach
  • Dywedodd bron i ddwy ran o dair (64%) o'r ymatebwyr eu bod bob amser yn gwirio’r dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ cyn iddyn nhw goginio neu baratoi bwyd. Mae traean (33%) o'r ymatebwyr yn gwirio’r dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ o leiaf yn achlysurol a dim ond 2% sydd byth yn gwirio’r dyddiadau ‘defnyddio erbyn’.
  • Dywedodd llai na thraean (27%) yr ymatebwyr eu bod bob amser yn dilyn y cyfarwyddiadau ‘bwyta o fewn’ ar fwyd

Ymwybyddiaeth ac ymddiriedaeth yn yr ASB

  • Roedd dros 9 o bob 10 ymatebydd (91%) wedi clywed am yr ASB
  • Mae tri chwarter (75%) yr ymatebwyr a oedd o leiaf yn gwybod rhywfaint am yr ASB yn ymddiried yn yr ASB i sicrhau bod bwyd yn ddiogel a’i fod yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label.

 

Meddai Emily Miles, Prif Weithredwr yr ASB:

'Mae gan yr ASB rôl unigryw yn y Llywodraeth – rydym ni’n gofalu am fuddiannau defnyddwyr o ran bwyd. Mae gwrando ar leisiau defnyddwyr a chymunedau yn hanfodol i lywio ein gwaith.

‘Mae'n galonogol gweld bod hyder mewn diogelwch a chyflenwad bwyd yn uchel. Fodd bynnag, mae'r arolwg hefyd yn rhoi mewnwelediad beirniadol pellach i ni o'r newidiadau negyddol y mae pobl wedi gorfod eu gwneud i'w deiet o ganlyniad i'r pandemig.

‘Mae ymchwil ddofn a gofalus fel y gwaith hwn yn hanfodol er mwyn ein helpu i ddeall a chynrychioli persbectif y defnyddiwr er mwyn llywio gwell penderfyniadau a wneir ar draws y llywodraeth am y bwyd rydym ni'n ei fwyta.'

Arolwg Bwyd a Chi

Comisiynwyd Ipsos MORI gan yr ASB i ddatblygu prif arolwg newydd a fydd yn cael ei gynnal ddwywaith y flwyddyn, sef Bwyd a Chi 2. Mae'r arolwg yn defnyddio methodoleg newydd, o'r enw 'gwthio i'r we', a gynhelir ar-lein yn bennaf. Mae'r fethodoleg newydd yn caniatáu i ni barhau i gasglu data cadarn gan ddefnyddio dull samplu tebygolrwydd ar hap, gan ganiatáu ar gyfer cynnal yr arolwg yn amlach, i fod yn fwy ymatebol i faterion newydd a rhai sy'n dod i'r amlwg, ac i fwy o bobl gymryd rhan.

Cynhaliwyd gwaith maes Bwyd a Chi 2: Cylch 1 rhwng Gorffennaf a Hydref 2020. Cwblhawyd yr arolwg gan 9,319 o oedolion (16 oed a hyn) o aelwydydd ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Ymchwil yr ASB

Bwyd a Chi 2 yw’r adroddiad gwyddor gymdeithasol diweddaraf i ni ei gyhoeddi sy’n edrych ar faterion defnyddwyr mewn perthynas â bwyd. Yn gynharach yr wythnos hon, fe wnaethom ni gyhoeddi'r adroddiad ‘Bwyd mewn Pandemig’ a oedd yn archwilio profiadau pobl o fwyd yn ystod COVID-19, gan drafod pynciau fel ansicrwydd bwyd a chyflenwad bwyd y Deyrnas Unedig (DU). Yr wythnos nesaf byddwn ni’n cyhoeddi pôl piniwn byr ar ddyddiadau 'defnyddio erbyn' i gefnogi gweithgarwch cyfathrebu ar yr ymgyrch.

Darllen yr adroddiadau

Mae adroddiad cylch 1 a’r adroddiad technegol ar gael yn adran ymchwil ein gwefan.