Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Mae digwyddiad bwyd (food incident) yn codi pan fo pryderon am fygythiadau (go iawn neu amheuon) i ddiogelwch bwyd neu fwyd anifeiliaid ac mae'n bosibl bod gofyn ymyrryd i ddiogelu buddiannau defnyddwyr.

Mae gofyniad cyfreithiol ar fusnesau i roi gwybod i'w hawdurdod lleol/awdurdod iechyd porthladd a'r Asiantaeth Safonau Bwyd os oes unrhyw reswm i gredu nad yw bwyd neu fwyd anifeiliaid yn cydymffurfio â'r gofynion diogelwch, a dylid eu tynnu neu eu galw'n ôl o'r farchnad ar unwaith.

Rhoi gwybod am ddigwyddiad yng Nghymru, Lloegr neu Gogledd Iwerddon.

Os ydych chi yn yr Alban, neu os yw’r digwyddiad yn ymwneud â busnes yn yr Alban, bydd angen i chi roi gwybod am y digwyddiad i Safonau Bwyd yr Alban.