Dewis y safle cywir ar gyfer eich busnes
Rhaid i safle eich busnes:
- gydymffurfio â'r rheoliadau angenrheidiol
- eich galluogi i baratoi bwyd yn ddiogel
Rhaid i chi gadw'ch safle yn lân a'i gynnal mewn cyflwr da. Rhaid i'ch safle eich galluogi i ddilyn arferion hylendid bwyd da, gan gynnwys diogelu yn erbyn halogiad a rheoli plâu.
Mae'r rheolau canlynol yn berthnasol i'ch holl safleoedd, nid dim ond yr ardaloedd sy'n cael eu defnyddio i baratoi bwyd.
Cyfleusterau golchi dwylo a thoiledau
Rhaid i chi gael digon o sinciau i'r staff olchi eu dwylo gyda dŵr poeth ac oer a deunyddiau ar gyfer glanhau dwylo a'u sychu'n hylan.
Cyfleusterau newid
Rhaid i chi ddarparu cyfleusterau digonol i staff newid eu dillad, lle bo angen.
Gofynion eraill
Rhaid i'ch safle hefyd gael systemau awyru, goleuo a draenio digonol.
Ardaloedd paratoi bwyd
Mae'r rheolau canlynol yn berthnasol i ystafelloedd lle mae bwyd yn cael ei baratoi.
Lloriau a waliau
Rhaid i loriau a waliau fod:
- mewn cyflwr da
- yn hawdd i'w glanhau
- wedi'u diheintio
- yn llyfn, yn gadarn ac yn olchadwy
Nenfydau
Dylai nenfydau fod:
- mewn cyflwr da
- yn hawdd i'w glanhau i atal baw rhag adeiladu
- heb gyddwysiad na llwydni
- â phaent a phlastr heb eu gwisgo
Ffenestri a drysau
Rhaid i ffenestri ac unrhyw agoriadau eraill (fel drysau) gael eu hadeiladu mewn ffordd sy'n atal baw rhag adeiladu. Os ydynt yn agor i fynd tu allan, mae'n rhaid iddynt gael sgriniau atal pryfed y gellir eu tynnu'n hawdd i'w glanhau.
Rhaid i ddrysau fod yn hawdd i'w:
- glanhau
- diheintio
Arwynebau
Rhaid i arwynebau (gan gynnwys arwynebau offer) mewn mannau lle mae bwyd yn cael ei drin, yn enwedig y rhai hynny sy'n cyffwrdd bwyd, fod:
- mewn cyflwr da
- yn hawdd i'w glanhau
- wedi'u diheintio
Cyfleusterau ar gyfer glanhau offer
Rhaid bod gan eich safle gyfleusterau digonol ar gyfer glanhau, diheintio a storio offer. Rhaid i'r cyfleusterau gael cyflenwad digonol o ddŵr poeth ac oer.
Cyfleusterau ar gyfer golchi bwyd
Rhaid cael sinciau ar wahân, lle bo angen, ar gyfer golchi bwyd ac offer glanhau mewn ardaloedd paratoi bwyd.
Rhaid i bob sinc gael cyflenwad digonol o ddŵr poeth ac oer ar gyfer golchi bwyd a rhaid i’r dŵr fod yn addas i'w yfed. Rhaid cadw'r cyfleusterau hyn yn lân a'u diheintio.
Offer
Rhaid i'r holl eitemau, ffitiadau ac offer sy'n cyffwrdd bwyd fod:
- mewn trefn a chyflwr da
- wedi'u glanhau'n effeithiol a'u diheintio'n ddigon aml i osgoi unrhyw risg o halogiad
Gwastraff Bwyd
Mae'n rhaid i chi gael cyfleusterau digonol ar gyfer storio a gwaredu bwyd. Mae'n rhaid i chi gael gwared ar wastraff bwyd a sbwriel arall o ystafelloedd sy'n cynnwys bwyd cyn gynted ag y bo modd i'w osgoi rhag adeiladu a denu plâu.
Dyma'r tri phrif grŵp o blâu a sy'n bodoli mewn busnesau bwyd:
- Cnofilod (rodents) – llygod mawr a llygod
- Pryfed (insects) – chwilod du, chwilod, morgrug a phryfed
- Adar – colomennod ac ati
Fideo hyfforddi diogelwch bwyd – Rheoli plâu
Yr hyn sydd angen i chi ei wybod a'i wneud i gadw plâu allan o'ch busnes.
Iechyd a diogelwch
Os oes gennych chi bump neu ragor o weithwyr, mae'n rhaid i chi gael polisi iechyd a diogelwch ysgrifenedig sy'n disgrifio'r trefniadau sydd ar waith.
Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi datblygu Canllawiau iechyd a diogelwch hawdd i helpu busnesau bach a chanolig i ddeall iechyd a diogelwch.
Os ydych chi yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch ag Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch Gogledd Iwerddon.
Diogelwch tân
Rhaid i chi gynnal asesiad risg tân yn eich safle a chymryd rhagofalon diogelwch tân i'ch diogelu chi, eich staff a'ch cwsmeriaid. Bydd y mesurau diogelu y bydd angen i chi eu rhoi ar waith yn dibynnu ar ganlyniad asesiad risg tân o'r safle.
Os ydych chi'n bwriadu addasu'ch safle, mae'n syniad da cael cyngor diogelwch tân cyn i chi ddechrau arni. Gallwch chi gael cyngor gan eich awdurdod tân lleol.
I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar dudalen tân a ffrwydradau ar wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.
Cynorthwyo a chefnogi eich busnes bwyd
Gall eich busnes gael cyngor ar y canlynol:
Gan ddibynnu ar yr hyn y mae eich busnes bwyd yn ei wneud, efallai y bydd gennych chi gyfrifoldebau eraill.
Gwiriwch a oes angen:
- trwyddedau, er enghraifft i werthu bwyd neu i fasnachu ar y stryd
- yswiriant
Mae yna hefyd reolau y mae'n rhaid i chi eu dilyn os ydych chi'n:
- gwerthu bwyd ar-lein
- mewnforio ac allforio bwyd
- storio neu ddefnyddio gwybodaeth bersonol – mae hyn yn berthnasol i wybodaeth am staff, cwsmeriaid a deiliaid cyfrifon
Cofiwch: Pan fyddwch chi'n dechrau busnes bwyd newydd neu'n cymryd yr awenau mewn busnes sy'n bodoli eisoes, mae'n rhaid i chi gofrestru gyda'ch awdurdod lleol.