Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Mewnforio llestri cegin plastig o Tsieina a Hong Kong

Penodol i Gymru a Lloegr

Sut i fewnforio llestri cegin plastig polyamid a melamin o Tsieina a Hong Kong i Brydain Fawr.

Mae amodau a gweithdrefnau penodol ar gyfer mewnforio llestri cegin plastig polyamid a melamin sy'n dod o Tsieina a Hong Kong neu a anfonir oddi yno i Brydain Fawr a sefydlwyd gan Reoliad 284/2011.

Amodau mewnforio

Er mwyn mewnforio llestri cegin plastig sy'n dod o Tsieina a Hong Kong neu a anfonir oddi yno, bydd angen i chi gyflwyno datganiad ac adroddiad labordy i'r awdurdod cymwys ar gyfer pob llwyth (consignment) sy'n cadarnhau ei fod yn bodloni gofynion sy'n ymwneud â rhyddhau aminau aromatig sylfaenol a fformaldehyd.

Gweithdrefnau mewnforio

Rhaid i chi roi gwybod i’r awdurdod cymwys ymlaen llaw ar y pwynt cyflwyno cyntaf o leiaf ddau ddiwrnod gwaith cyn y dyddiad a’r amser amcangyfrifedig y bydd llwythi yn cyrraedd yn ffisegol. Mae'r Deyrnas Unedig (DU) wedi dynodi Mannau Rheoli ar y Ffin (BCPs) ar gyfer y llwythi sy'n dod o Tsieina a Hong Kong, neu sy’n cael eu hanfon oddi yno. 

Bydd gwiriad dogfennol a gwiriad hunaniaeth a ffisegol, gan gynnwys samplu ar gyfer dadansoddiad labordy o 10% o lwythi o'r fath, yn cael ei gynnal yn y BCP. Bydd angen i chi dalu ffioedd sy'n ymwneud â rheolaethau mewnforio i'r awdurdod perthnasol lle mae'r rheolaethau hyn yn berthnasol. Ni fydd y ffioedd yn uwch na'r costau y mae’n rhaid i awdurdodau eu talu.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Rheoliad 284/2011.