Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Mewnforio cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid

Penodol i Gymru a Lloegr

Gall mewnforio cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid neu gynhyrchion pysgodfeydd olygu peryglon posib, a dylai pob busnes sy’n ymwneud â’r broses hon fod yn ymwybodol ohonynt.

Mae hyn yn cynnwys y grwpiau bwyd canlynol:

  • cig, gan gynnwys cig ffres, cynhyrchion cig, cig wedi’i friwio (minced meat), paratoadau cig, cig dofednod (poultry), cwningen, cig anifeiliaid hela a gaiff eu ffermio a chig anifeiliaid hela gwyllt
  • wyau a chynhyrchion wyau
  • llaeth a chynhyrchion llaeth
  • gelatin mêl a chynhyrchion gelatin

Mae’n rhaid dilyn rheolau tebyg wrth fewnforio cynhyrchion cyfansawdd sy’n cynnwys cynnyrch anifeiliaid.

Dyma ddiffiniad o gynnyrch cyfansawdd:

  • bwyd sy’n cynnwys cynhyrchion anifeiliaid wedi’u prosesu a chynhyrchion sy’n dod o blanhigion, er enghraifft, salami
  • lle mae prosesu’r cynnyrch cynradd yn hanfodol er mwyn cynhyrchu’r bwyd terfynol

Mewnforio i Brydain Fawr o wledydd yn yr UE

Mae llywodraeth y DU wedi cyflwyno cam cyntaf y Model Gweithredu Targed ar gyfer Ffiniau (BTOM) mewn perthynas â bwyd a bwyd anifeiliaid a fewnforir i Brydain Fawr o’r UE, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein, Norwy a’r Swistir. Bellach, bydd yn ofynnol i bob cynnyrch risg canolig a fewnforir sy’n dod o anifeiliaid o’r UE a gwledydd y Gymdeithas Fasnach Rydd Ewropeaidd (EFTA) ddod ynghyd â Thystysgrif Iechyd Allforio.

Mae’r dudalen hon wrthi’n cael ei diweddaru i ddangos canllawiau diweddaraf llywodraeth y DU. Gweler yma fwy o wybodaeth am fewnforio cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid i Brydain Fawr o’r UE a gwledydd EFTA.

Mewnforio i Brydain Fawr o wledydd nad ydynt yn yr UE

Ar gyfer cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid a fewnforir o wledydd nad ydynt yn yr UE, bydd y gofynion presennol yn parhau hyd at ail gam gweithredu BTOM ar 30 Ebrill 2024. Tan hynny, rhaid i fasnachwyr barhau i:

  • roi gwybod i’r pwynt rheoli ar y ffin (BCP) cyn i unrhyw lwythi o gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid gyrraedd
  • cyflwyno’r dogfennau perthnasol i’r BCP, gan gynnwys tystysgrif iechyd wreiddiol. Mae’r math o dystysgrif sydd ei hangen yn dibynnu ar y math o gynnyrch a’r wlad tarddiad
  • cyflwyno’r nwyddau i’r BCP i’w gwirio’n filfeddygol
  • talu’r holl gostau ar gyfer arolygu’r nwyddau. Cadw’r CHED, a roddir wrth glirio nwyddau, am flwyddyn o’r adeg y mae’r nwyddau yn cyrraedd eu cyrchfan gyntaf ym Mhrydain Fawr

Nid oes angen i unrhyw ychwanegion bwyd sy'n cael eu pecynnu ar gyfer y defnyddiwr terfynol sy'n cynnwys glwcosamin, chondroitin, neu chitosan, gael eu mewnforio drwy BCP ac nid ydynt yn destun gwiriadau milfeddygol.

Pwysig
Mae’n hanfodol rhoi gwybod i awdurdodau ym Mhrydain Fawr ymlaen llaw cyn i fwyd a bwyd anifeiliaid risg uchel, gan gynnwys cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid, gyrraedd o wledydd yr Undeb Ewropeaidd (UE) a gwledydd y tu allan i’r UE. Rhaid i fewnforwyr ac asiantau mewnforio ddefnyddio’r system mewnforio cynhyrchion, anifeiliaid, bwyd a bwyd anifeiliaid (IPAFFS) ar-lein i wneud hyn.

Safleoedd Rheoli ar y Ffin

Mae Safleoedd Rheoli ar y Ffin (BCPs) yn trin cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid sy’n destun rheolaethau mewnforio wrth gyrraedd Prydain Fawr. Ni fydd nwyddau sy’n methu’r gwiriadau hyn yn cael dod i mewn i’r DU, ac mae’n bosibl y byddant yn cael eu dinistrio.

Mewnforio samplau prawf o fwyd sy'n cynnwys cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid 

Gan gynnwys cig, mêl neu gynhyrchion llaeth. 

Os ydych chi am fewnforio samplau o gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid, mae’n rhaid i chi wirio beth a ganiateir a faint ohono a llenwi ffurflen awdurdodi. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA). Dewch o hyd i’r ffurflen gais ar gyfer awdurdodi cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid a’i lawrlwytho.

Os yw APHA yn rhoi awdurdodiad i chi sy’n eithrio’ch cynnyrch neu’ch cynhyrchion rhag gwiriadau mewn BCPs, gellir dod â’r samplau hyn i Brydain Fawr heb fod angen unrhyw ardystiad. Ond mae’n rhaid iddynt gynnwys y ffurflen awdurdodi wreiddiol.

Fodd bynnag, os ydynt i’w defnyddio wrth brofi blas, rhaid iddynt fod yn ddiogel i’w bwyta gan bobl. Rhaid hefyd sicrhau:

  • nad ydynt wedi’u halogi
  • eu bod o wlad gymeradwy
  • eu bod wedi’u trin â gwres
  • mai dim ond gweithwyr a chwsmeriaid masnach sy’n eu bwyta (hynny yw cynrychiolwyr cwmnïau a all brynu cynhyrchion yn y dyfodol). Rhaid eu cynghori nad yw’r cynhyrchion wedi bod yn destun gwiriadau bwyd wedi’u mewnforio mewn unrhyw BCP wrth gyrraedd y DU. Ni chyhoeddir awdurdodiadau ar gyfer samplau a fwriedir ar gyfer profi blas gan y cyhoedd

Rhaid i fewnforwyr sicrhau bod eu nwyddau’n ddiogel ac yn gyfreithlon cyn iddynt gael eu prynu gan gynhyrchwyr a’u mewnforio i’r DU, felly efallai yr hoffent brofi eu cynhyrchion cyn eu mewnforio.

Mae Dadansoddwyr Cyhoeddus, sy’n wyddonwyr medrus, ar gael i brofi bod samplau bwyd yn cydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd drwy gynnal dadansoddi cemegol a/neu drwy drefnu archwiliad microbiolegol, er nad oes gofyniad cyfreithiol i fewnforwyr wneud hynny.

Cymerwch gip ar ein rhestr o Labordai Rheoli Bwyd Swyddogol yn y DU.

Yn ogystal, mae nifer o labordai eraill ym Mhrydain Fawr a thramor a fyddai’n cynnal y gwaith y gallai fod angen ar fewnforwyr. Yna, gallai’r mewnforiwr drefnu i’r adroddiad dadansoddi ffurfio sail eu rheolaethau ansawdd ar gyfer eu cyflenwr.