Neidio i’r prif gynnwys
Cymraeg

Mewnforio bwyd o’r Undeb Ewropeaidd

Penodol i Gymru a Lloegr

Gwybodaeth am Aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd (UE), sefydliadau bwyd sy’n gwerthu cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid ac ystyriaethau ar gyfer mewnforio cynhyrchion pysgodfeydd.

Aelod-wladwriaethau’r UE

Mae rhestr lawn o Aelod-wladwriaethau’r UE sy'n gallu masnachu’n rhydd rhwng ei gilydd ar gael ar-lein. Nodwch yr ystyrir bod Ynys Cyprus gyfan o fewn tiriogaeth yr UE. Mewn egwyddor, dylai bwydydd o ‘Ogledd’ Cyprus fod wedi pasio trwy ‘Dde’ Cyprus ac o ganlyniad dylid eu hystyried yn nwyddau’r Undeb.

Mae’n rhaid i’r holl gynhyrchion bwyd a gaiff eu cynhyrchu neu eu mewnforio i’r wlad fod yn addas i’w bwyta gan bobl, ac mae’n rhaid iddynt fodloni gofynion diogelwch bwyd cyffredinol Rheoliad 178/2002 Cyfraith Bwyd Cyffredinol. 

Yn gyffredinol, mae hyn yn gwahardd bwyd rhag cael ei roi ar y farchnad os yw’n anniogel, hynny yw, os yw naill ai:

  • yn gallu niweidio iechyd
  • yn anaddas i’w fwyta gan bobl

Mae’n rhaid i fwyd sy’n dod i mewn i Brydain Fawr fodloni’r Rheoliadau a gyflwynwyd o dan y Ddeddf Diogelwch Bwyd. Mae’n rhaid i fusnesau bwyd weithredu gweithdrefnau seiliedig ar Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol (HACCP). Mae’r system HACCP yn adnodd ar gyfer gweithredwyr busnesau bwyd i reoli peryglon mewn bwyd.

Mae’n rhaid i fwyd (gan gynnwys bwyd sy’n dod o anifeiliaid, bwyd nad yw’n dod o anifeiliaid, a bwyd sy’n cynnwys cynhyrchion a ddaw o blanhigion a chynhyrchion wedi’u prosesu a ddaw o anifeiliaid) sy’n dod i mewn i Brydain Fawr gydymffurfio â gofynion Rheoliad Rhif 852/2004 y Comisiwn. Mae hyn i sicrhau bod bwyd sydd o dan eich rheolaeth wedi bodloni’r gofynion hylendid perthnasol ar bob cam cynhyrchu, prosesu a dosbarthu.

Gall awdurdodau lleol wirio bwyd a roddir ar farchnad Prydain Fawr i weld a yw’n cydymffurfio â safonau diogelwch a hylendid bwyd, p’un a yw’n cael ei gynhyrchu yn y Deyrnas Unedig (DU) neu o drydedd wlad. Ym Mhrydain Fawr, caiff gwiriadau diogelwch bwyd a safonau bwyd eu cynnal gan ymarferwyr iechyd yr amgylchedd a swyddogion safonau masnach cymwys a gyflogir gan awdurdodau lleol. Gellir tynnu cynhyrchion bwyd nad ydynt yn cydymffurfio o’r gadwyn fwyd.

Mae gwybodaeth gyffredinol am labelu bwyd ar gael ar wefan GOV.UK.

I gael cyngor ar labelu cynhyrchion penodol, cysylltwch ag Adran Safonau Masnach neu Adran Iechyd yr Amgylchedd eich awdurdod lleol.

Os ydych chi’n bwriadu sefydlu busnes gwerthu bwyd yn y DU, mae’n rhaid i chi gofrestru’r gweithgarwch hwnnw o dan Reoliad Rhif 852/2004. Bydd angen i chi gysylltu â swyddfa iechyd yr amgylchedd yr awdurdod lleol lle rydych chi’n bwriadu sefydlu’ch busnes. Y swyddfa honno sydd yn y sefyllfa orau i bennu a yw deddfwriaeth yn berthnasol yn unol ag amgylchiadau unigol. 

Canllawiau pellach ar ofynion hylendid bwyd a sut i sefydlu busnes bwyd.

Sefydliadau bwyd sy’n gwerthu cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid

Mae rheolau llym o fewn Prydain Fawr ar gyfer gwerthu unrhyw fwyd sy’n dod o anifeiliaid neu sy’n cynnwys cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid. Ymhlith gofynion eraill, bydd hyn yn gofyn am ardystio’r cynnyrch a’r trydedd wlad a’r sefydliad trydedd wlad sy’n cynhyrchu’r cynnyrch sy’n cael ei restru ym Mhrydain Fawr ar gyfer mewnforio’r nwydd hwnnw i Brydain Fawr.

Cysylltwch â’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) i gadarnhau bod gan y sefydliad trydedd wlad sy’n eich cyflenwi drwydded lawn ar gyfer dosbarthu: 

  • cig coch 
  • cynhyrchion cig – gan gynnwys selsig, pizzas cig, pasteiod cig  
  • cynhyrchion llaeth – gan gynnwys llaeth, menyn, caws, iogwrt, hufen  
  • wyau 
  • cig dofednod 
  • cig o anifeiliaid hela gwyllt 
  • pryfaid
  • cylionydd (grubs)  
  • cig anarferol – gan gynnwys ymlusgiaid (reptiles), aligatoriaid 
  • mêl 

Hylendid bwyd 

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau cyffredinol am hylendid bwyd, cysylltwch â’r Tîm Polisi Hylendid Bwyd dros e-bost.

Cynhyrchion pysgodfeydd

Mae gennym ni ganllawiau i fusnesau ar fewnforio cynhyrchion pysgodfeydd a molysgiaid dwygragennog o drydydd gwledydd ar ein gwefan.

Mae’r Arolygiaeth Iechyd Pysgod yng Nghanolfan Gwyddor yr Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu (CEFAS), yn darparu gwybodaeth am fewnforio pysgod byw i’w bwyta gan bobl o drydydd gwledydd ar eu gwefan.

Halogion

Mae nodyn cyfarwyddyd ar Reoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2013, sy’n darparu ar gyfer deddfu a gorfodi Rheoliadau’r Comisiwn sy’n gosod terfynau rheoleiddiol ar gyfer halogion mewn bwyd (nitrad, mycotocsinau, metelau, 3-MCPD, deuocsinau a hydrocarbonau aromatig polysyclig neu PAHs) ar gael ar-lein.

Cysylltiadau tîm

Polisi hylendid bwyd 
foodhygiene.policy@food.gov.uk