Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Mewnforio bwyd a bwyd anifeiliaid risg uchel

Penodol i Gymru a Lloegr

Diffinio beth yw cynnyrch risg uchel, canllawiau ar lefelau afflatocsinau mewn bwyd wedi’i fewnforio, cyfyngiadau a chanllawiau cyfredol Prydain Fawr ar gyfer mewnforio cynhyrchion penodol o wledydd nad ydynt ym Mhrydain Fawr.

Rhaid i’r holl gynhyrchion sy’n cael eu mewnforio i Brydain Fawr gydymffurfio â’r gyfraith ar halogion. Mae’r deddfau hyn ar waith er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.

Mae mathau penodol o fwydydd sy’n cael eu hystyried yn rhai ‘risg uchel’. Os ydych chi’n ymwneud â’r broses o fewnforio bwyd o wlad y tu allan i Brydain Fawr, mae’n rhaid i chi fod yn ymwybodol o’r canllawiau hyn.

Gweler Model Gweithredu Ffiniau'r Llywodraeth am ragor o wybodaeth am weithredu’r ffinau gyda’r Undeb Ewropeaidd.

Os nad yw cynhyrchion a gaiff eu mewnforio yn bodloni’r safonau cywir, ni chaniateir iddynt ddod i mewn i Brydain Fawr. Mae'n bwysig nodi mai dim ond trwy Fannau Rheoli ar y Ffin y gellir mewnforio nwyddau sydd wedi’u cyfyngu, lle mae'n rhaid gwirio dogfennau ac efallai y bydd angen gwiriadau ffisegol cyn eu rhyddhau. Os ydych chi’n mewnforio bwyd sy’n cynnwys halogion, mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod yn mewnforio drwy Fan Rheoli ar y Ffin, sy’n gallu gwirio eich cynnyrch.

Gellir ystyried bod cynhyrchion yn rhai risg uchel os ydynt yn cynnwys:

  • halogion – mycotocsinau ac afflatocsinau
  • plaladdwyr
  • Salmonela

Gellir dod o hyd i wybodaeth am gynhyrchion risg uchel, gwlad tarddiad ac amlder gwiriadau yn Rheoliad 2019/1793 a gymathwyd. Mae'r Rheoliad hwn yn cydgrynhoi rheolaethau ar gyfer cynhyrchion nad ydynt yn dod o anifeiliaid, gan gynnwys afflatocsinau, gweddillion plaladdwyr, gwm guar a halogiad microbiolegol.

Caniateir i gynhyrchion sy'n cael eu rheoli ar y ffin symud yn fewndirol tra'n aros am ganlyniadau profion labordy. Fodd bynnag, rhaid rhoi trefniadau ar waith i sicrhau bod y llwyth (consignment) yn parhau i fod o dan reolaeth barhaus yr awdurdodau cymwys ac na ellir ymyrryd ag ef mewn unrhyw ffordd tra’n disgwyl am ganlyniadau'r gwiriadau labordy. Dim ond gyda chytundeb yr awdurdod iechyd porthladd y gellir caniatáu hyn.

Hyd nes y bydd canlyniadau'r gwiriadau labordy yn hysbys, rhaid i'r llwyth gael ei storio mewn warws dan reolaeth Tollau neu Gyfleuster Storio Dros Dro Allanol yn y Deyrnas Unedig (DU). Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau/ymholiadau, gallwch chi anfon e-bost at onward.transport@food.gov.uk

Dilynwch y ddolen hon i weld y rhestr gyfredol o weithredwyr ETSF.

Pwysig

Mae’n hanfodol rhoi gwybod i awdurdodau ym Mhrydain Fawr ymlaen llaw cyn i fwyd a bwyd anifeiliaid risg uchel, gan gynnwys cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid, gyrraedd o wledydd yr Undeb Ewropeaidd (UE) a gwledydd y tu allan i’r UE. Rhaid i fewnforwyr ac asiantau mewnforio ddefnyddio’r system mewnforio cynhyrchion, anifeiliaid, bwyd a bwyd anifeiliaid (IPAFFS) ar-lein i wneud hyn.

Gellir cael hyd i ganllawiau ar fewnforio bwyd a bwyd anifeiliaid risg uchel nad ydynt yn dod o anifeiliaid o’r UE i Brydain Fawr yma.

Bwyd â chyfyngiadau cyfredol 

Mae'r rheolaethau hyn yn bodoli i ddiogelu iechyd y cyhoedd a gallant naill ai atal mewnforion neu nodi amodau mewnforio. Yn y rhan fwyaf o achosion, dim ond trwy fannau cyrraedd dynodedig y gellir mewnforio llwythi, mae'n rhaid gwirio dogfennau a gall fod angen samplu a dadansoddi neu archwilio cyn eu rhyddhau. Dyma'r rhestr o nwyddau cyfyngedig.

Lefelau afflatocsinau mewn bwyd wedi’i fewnforio

Mae afflatocsinau yn fath o docsin naturiol a ganfyddir mewn bwyd, a chânt eu cysylltu â chanser os cânt eu bwyta mewn lefelau uchel. Gall rhai sbeisys, cnau, ffrwythau wedi’u sychu a grawnfwydydd, gan gynnwys cynhyrchion grawnfwyd fel grawnfwydydd brecwast, gynnwys lefelau uchel o afflatocsinau.

Mae terfynau ar lefelau’r afflatocsinau a ganiateir mewn bwydydd sy’n cael eu mewnforio i Brydain Fawr, ac efallai bod angen profi rhai cynhyrchion.

Lefelau plaladdwyr mewn bwyd wedi'i fewnforio

Mae rhai cynhyrchion nad ydynt yn dod o anifeiliaid o drydydd gwledydd penodol yn cael eu rheoli oherwydd y risgiau o halogi â gweddillion plaladdwyr.

Mewnforio cynnyrch o Tsieina

Mae’n rhaid i gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid a ganiateir a gaiff eu mewnforio o Tsieina gydymffurfio ag amodau iechyd penodol.

Gall y cynhyrchion canlynol ddod i mewn i Brydain Fawr cyn belled â bod llwythi yn cydymffurfio â’r rheolau canlynol:

  • maent yn destun gwiriadau cyn-allforio am bresenoldeb chloramphenicol a nitroffwrans, sy’n feddyginiaethau milfeddygol anghyfreithlon, a’u metabolion
  • mae ganddynt ddatganiad wedi’i lofnodi gan yr awdurdod cymwys yn Tsieina gyda chanlyniadau'r gwiriadau dadansoddi

Mae cynhyrchion pysgodfeydd oll yn gynhyrchion anifeiliaid sy’n deillio o bysgod. Mae dyframaeth yn fath o gynnyrch pysgodfeydd sydd wedi’i ffermio.

Mae’n rhaid i lwythi dyframaeth fod yn destun gwiriadau cyn allforio am bresenoldeb malachite green, crystal violet a’u metabolion. Mae’n rhaid i ddyframaeth gynnwys datganiad wedi’i lofnodi gan yr awdurdod cymwys yn Tsieina gyda’r canlyniadau dadansoddi.

I weld y mesurau rheoli llawn a rhestr lawn o gynhyrchion sy’n cael eu rheoli, cymerwch gip ar Benderfyniad y Comisiwn 2002/994/EC.

Mae’r cyfyngiadau mewnforio ar rai cynhyrchion dofednod o Tsiena yn parhau i fod ar waith oherwydd achos o ffliw adar.

Bwydydd sydd wedi’u cyfyngu

Saws soi sy’n cynnwys 3-MCPD

Mae rhai mathau o saws soi yn cynnwys cemegyn peryglus o’r enw 3-MCPD. Mae cyfyngiadau ar lefelau 3-MCPD a ganiateir mewn cynhyrchion a gaiff eu mewnforio i Brydain Fawr.
Maent fel a ganlyn:

  • caiff saws soi gynnwys lefelau o 3-MCPD heb fod yn uwch na 0.02 mg/kg
  • mae hyn ar gyfer y cynnyrch hylif sy’n cynnwys 40% sylwedd sych, sydd gyfystyr ag uchafswm o 0.05 mg/kg yn y sylwedd sych

Gwaharddiad ar fewnforio melysion jeli

Mae cyfyngiadau ar yr ychwanegion a ganiateir mewn rhai melysion jeli gan fod perygl o dagu:

  • Mae defnyddio, wrth gynhyrchu jeli cwpanau bach, ychwanegion penodol a nodir yn Atodiad II Rheoliad 1333/2008, a gwerthu'r cwpanau hyn, wedi'i wahardd
  • Yn ogystal, mae defnyddio E425 konjac mewn unrhyw felysion jeli, gan gynnwys jeli cwpanau bach, a gwerthu melysion o’r fath, wedi’i wahardd o dan Reoliad 1333/2008
  • Caiff y darpariaethau hyn eu gorfodi gan Reoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) 2013.

Gwaharddiad ar fewnforio kava kava 

Mae ‘Kava Kava’, sy’n aelod o deulu’r pupryn, yn feddyginiaeth berlysieuol draddodiadol ar gyfer trin gorbryder (anxiety). Mae'r perlysieuyn wedi cael ei wahardd ers 2003. Mae hyn oherwydd pryderon am ei effaith wenwynig ar yr afu/iau. Ni ellir mewnforio atchwanegiadau kava kava, nac unrhyw fwydydd sy’n cynnwys y perlysieuyn hwn, i Brydain Fawr.

Lliw (dye) anghyfreithlon mewn sbeisys ac olewau palmwydd

Mae rhai sbeisys penodol mewn perygl o gael eu halogi. Mae awdurdodau bwyd yn rheoleiddio mewnforion risg uchel. Os yw lefel y lliw anghyfreithlon yn uwch na 0.5 rhan fesul miliwn (0.5ppm), cânt eu gwrthod.

Dyma’r rhywogaethau sydd mewn perygl o gael eu halogi â lliwiau anghyfreithlon:

  • tsili wedi’i sychu
  • cynhyrchion tsili
  • powdwr cyri
  • olew palmwydd

Ffurflen gais ar gyfer Mannau Rheoli ar y Ffin (BCPs)

Mae’r ffurflen hon ar gyfer BCPs arfaethedig a fydd yn ymdrin â bwyd nad yw'n dod o anifeiliaid. Mae'r ffurflen yn nodi'r gofynion cyfreithiol ar gyfer y cyfleusterau a'r staffio sy'n ofynnol. Mae hefyd yn caniatáu i weithredwyr y porthladdoedd nodi rhai cynhyrchion rheoledig pan na ragwelir y bydd y cyfleusterau'n cael eu dynodi ar gyfer yr holl gynhyrchion. Pan fydd gweithredwyr porthladdoedd yn gwneud cais am gyfleusterau a rennir, er enghraifft, maent yn disgwyl cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid hefyd, dylent gysylltu â’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phorthladdoedd i fynegi eu diddordeb.

Mae'r ffurflen yn berthnasol i Loegr yn unig ac felly ar gael yn Saesneg yn unig.

England